Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Rwy’n credu bod llawer o Aelodau wedi cyflwyno sylwadau i mi a Gweinidogion blaenorol ar y mater hwn. Yn wir, yr wythnos diwethaf, cafodd Kirsty Williams sgwrs â mi am grŵp yn ei hetholaeth. Rwy’n ymwybodol o’r mater ynglŷn â’r ardoll 10 y cant, y gyfradd gomisiwn, ar hyn, ac rwy’n rhoi ystyriaeth bellach i’r adroddiad yn ei gyfanrwydd, yn seiliedig ar ganlyniadau fy nhrafodaethau gyda fy nhîm, a byddaf yn gwneud datganiad pellach ar hyn.