Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn chwarae rhan hanfodol yn Nhorfaen yn y gwaith o drechu tlodi. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus iawn a daeth i frig y rhestr yng Nghymru am helpu pobl i ddod o hyd i waith, ac o ran nifer yr oedolion a gwblhaodd gyrsiau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth. Mae hyn yn ychwanegol at y rôl hanfodol y mae Cymunedau yn Gyntaf yn ei chwarae i liniaru effaith diwygiadau lles. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â’r cynlluniau i gael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf fesul cam, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod yr elfennau gorau un o’r rhaglen yn cael eu cadw ac, yn bwysicaf oll, i sicrhau bod yr adnoddau priodol ar gael ar eu cyfer?