2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2016.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant yn Nhorfaen? OAQ(5)0091(CC)
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym yn cynorthwyo rhieni i ddod o hyd i waith drwy Cymunedau am Waith, gan fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac adeiladu cymunedau cryf a all gynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant.
Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn chwarae rhan hanfodol yn Nhorfaen yn y gwaith o drechu tlodi. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus iawn a daeth i frig y rhestr yng Nghymru am helpu pobl i ddod o hyd i waith, ac o ran nifer yr oedolion a gwblhaodd gyrsiau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth. Mae hyn yn ychwanegol at y rôl hanfodol y mae Cymunedau yn Gyntaf yn ei chwarae i liniaru effaith diwygiadau lles. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â’r cynlluniau i gael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf fesul cam, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod yr elfennau gorau un o’r rhaglen yn cael eu cadw ac, yn bwysicaf oll, i sicrhau bod yr adnoddau priodol ar gael ar eu cyfer?
Mae’r Aelod yn iawn i godi mater Cymunedau yn Gyntaf, fel y mae llawer o bobl eraill yn ei wneud yn y Siambr hon. Rwyf wedi dweud yn aml fod llawer o raglenni da o fewn clystyrau Cymunedau yn Gyntaf, ond y gwir yw, fel y trafodasom ddoe yn y ddadl ar dlodi plant, mae effeithiau ystyfnig iawn tlodi yn anodd iawn i’w symud i le gwahanol. Mae’n rhaid i ni fabwysiadu dull newydd o weithredu mewn perthynas â’r ffordd rydym yn rheoli ac yn cefnogi cymunedau cryf. Rwy’n ddiolchgar am sylwadau’r Aelod. Nid wyf wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â Cymunedau yn Gyntaf eto, ond byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi hi a chyd-Aelodau eraill wrth i mi ystyried y penderfyniadau hynny yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes gennyf amheuaeth eich bod yn gwneud gwaith ardderchog ar amryw o bethau i leihau tlodi. Rydych wedi cymryd llawer o—[Torri ar draws.] Arhoswch funud. Rydych wedi cymryd llawer o—. [Torri ar draws.] Rydych wedi cymryd llawer o, mae eich Llywodraeth wedi cymryd llawer o fentrau i leihau tlodi ymysg plant—do, cawsom Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond y ffaith yw—[Torri ar draws.] Y ffaith yw ein bod yn dal i fod, yn anffodus—ein plant yn Nhorfaen, Islwyn a Blaenau Gwent yw’r plant tlotaf sy’n byw yng ngwledydd y Deyrnas Unedig. Hoffwn ofyn i chi pa fentrau eraill rydych yn eu rhoi ar waith. Rwy’n credu bod ein Llywodraeth yn codi’r lwfans personol i £12,500, a fydd o fudd i lawer o deuluoedd—[Torri ar draws.] —nifer o deuluoedd, 1.5 miliwn, i leihau tlodi mewn gwaith, sef un o amcanion y strategaeth tlodi plant gan Lywodraeth Prydain. Felly, pa gynllun rydych yn mynd i’w roi ar waith i leihau tlodi plant yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch i’r Aelod am ei sylwadau ar ddechrau ei gwestiwn; rydym yn ddiolchgar iawn amdanynt. Nid fy lle i yw rhoi gwers hanes i’r Aelod, ond rwyf am ei atgoffa nad yw tlodi yn digwydd drwy hap a damwain—mae pethau’n achosi hynny’n aml. Yn ôl yn y 1980au, pan oedd ei blaid mewn grym yn y DU, llwyddasant i ddinistrio ein cymunedau yng Nghymru gyda’r pyllau glo a’r gweithwyr dur, a chafodd hynny effaith enfawr ar ein pobl ifanc a’u bywydau o’u blaenau.
Gallaf ddweud beth yw ein rhaglenni, ac mae’r Aelod yn eu hadnabod—mae Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a’r holl fecanweithiau cymorth o gwmpas y teulu yn rhai pwysig. Ond ni ddylech dynnu dim oddi ar y ffaith fod eich dulliau diwygio lles yn cael effaith enfawr ar bobl Cymru a’r DU. Dylech chi, fel plaid, feddwl am hynny’n ofalus iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae UKIP yn cytuno â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i adolygu neu roi diwedd ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Roedd hon yn strategaeth flaengar gan y Llywodraeth a gynlluniwyd i ddileu amddifadedd yng Nghymru. Er bod rhai enghreifftiau o lwyddiant, mae yna hefyd enghreifftiau amlwg o gamreoli. Er enghraifft, gwariodd y rhaglen Ymddiriedolaeth Ddatblygu 3G ym Merthyr Tudful £1.3 miliwn ar gyflogau staff allan o gyllideb o £1.5 miliwn. A fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau bod pobl Penydarren, Galon Uchaf a’r Gurnos wedi cael cam gan y sefydliad hwn?
Edrychwch, nid wyf am ladd ar weithlu Cymunedau yn Gyntaf—maent yn gwneud gwaith gwych ar draws cymunedau—ond mae hon yn broblem ddyrys iawn. Nid yw tlodi’n symud i’r cyfeiriad cywir. Dyna pam fod yn rhaid i ni ailfeddwl yn gyffredinol. Nawr, mae Huw Lewis a Dawn Boden yn gwneud gwaith gwych yn eu cymunedau, yn cynrychioli eu cymunedau gyda gweithluoedd Cymunedau yn Gyntaf. Byddaf yn gwneud penderfyniad yn ystod y flwyddyn newydd ynglŷn â sut ddyfodol rydym yn ei ragweld, ond yr hyn y mae’n rhaid i ni ei gofio am hyn yw ei fod yn ymwneud â’r bobl ar lawr gwlad.