Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Rwy’n cytuno â’r Aelod yn yr ystyr na ddylai neb fod yn ddigartref ar unrhyw adeg, yn enwedig adeg y Nadolig. Mae’n sefyllfa ofnadwy i’w hystyried. Ond rydym yn buddsoddi mewn darpariaeth ar gyfer y digartref drwy sefydliadau megis Llamau. Rydym yn buddsoddi yn ein cymunedau—mewn awdurdodau lleol—ond mae yna bobl sy’n ddigartref o hyd ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau darpariaeth i gefnogi’r bobl sydd yn y sefyllfa hon.