Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yr un mor bryderus â minnau ynghylch lles cyn-filwyr ein lluoedd arfog. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol i roi blaenoriaeth i sicrhau tai i gyn-filwyr digartref? Os nad yw, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwneud hynny?