Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae cyngor Caerffili wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu 175 o dai ar dir diffaith ar ystad ddiwydiannol Hawtin Park, ger Coed-duon. Mae’r canllawiau ar gyfer y datblygiad yn cynnwys darpariaeth y dylai 25 y cant fod yn dai fforddiadwy. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i groesawu’r cynnydd hwn yn y cyflenwad o dai fforddiadwy yn Islwyn, a pha fesurau y mae’n bwriadu eu cymryd i sicrhau bod rhagor o dir diffaith ar gael ar gyfer adeiladu tai yng Nghymru?