Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Wel, mae Ken Skates a minnau—nid wyf yn gyfarwydd â’r prosiect y cyfeiriodd yr Aelod ato, ond rwyf bob amser yn awyddus i sicrhau bod gennym dai fforddiadwy ledled Cymru. Mae Ken Skates a minnau’n gweithio ar gronfa gyfle tir, lle y gallwn weld nid yn unig sut y gallwn ddatblygu tir Llywodraeth Cymru, ond sut y gallwn ddatblygu tir y sector cyhoeddus hefyd, a’i ryddhau’n rhan o’r cyfle i adeiladu cartrefi yn y dyfodol.