Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Rydym yn darparu cyllid ar gyfer prosiect Teithio Ymlaen elusen Achub y Plant drwy’r grant cydraddoldeb a chynhwysiant i hybu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfranogiad ymhlith Sipsiwn a Theithwyr ifanc. Rydych yn llygad eich lle: mae ymagwedd y teulu cyfan yn un bwysig. Yn ôl pob tebyg, teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yw rhai o’r teuluoedd mwyaf difreintiedig, a’r rhai â’r hyd oes byrraf o’r rhan fwyaf o’r elfennau mewn perthynas â chydraddoldeb. Mae’n rhywbeth y dylem ei ystyried yn ofalus iawn o ran ein hymyrraeth. Cyfarfûm â llefarydd yr wythnos diwethaf, a siaradodd am y ffaith nad ydynt yn rhoi gwybod am droseddau casineb yn eu herbyn, am eu bod yn ofni na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud. Dylem fod yn ystyried hynny’n ofalus iawn hefyd. Felly, rwyf wedi gofyn i fy nhîm ymgysylltu ymhellach â hwy. Ond mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â’r ffordd rydym yn ymgysylltu ac ymagwedd y teulu cyfan.