Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Rwy’n datgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Powys. Mae aelodau o Gyngor Tref Machynlleth wedi mynegi eu pryderon ynghylch cynigion gan Gyngor Sir Powys i leoli safle parhaol i Deithwyr ger Machynlleth. Mae cynghorwyr y dref yn cytuno na fu ymgynghoriad ffurfiol, er bod y cyngor sir wedi addo cynnal un gyda’r trigolion ynglŷn â lleoliadau posibl ar gyfer y safle. Rwyf wedi cyflwyno sylwadau i’r awdurdod lleol a byddwn yn ddiolchgar pe baech yn cefnogi’r galwadau ar Gyngor Sir Powys i gynnal ymgynghoriad llawn a phriodol a thryloyw i sicrhau bod y trigolion yn cael cyfle i fynegi eu hawgrymiadau ynglŷn â lleoliad a’u syniadau eu hunain.