<p>Cyfiawnder Ieuenctid</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:49, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Mewn ymateb i adolygiad Taylor a gyhoeddwyd ar ddydd Llun ac y cyfeiriwyd ato nawr, yr adolygiad o gyfiawnder ieuenctid, mae’r mesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn cynnwys lansio dwy ysgol ddiogel, gan ganolbwyntio ar Saesneg, mathemateg ac ystod o gynlluniau hyfforddiant gwaith i gynorthwyo gyda diwygio troseddwyr a’u helpu i ddod o hyd i waith ar ôl eu rhyddhau. Ym mis Chwefror 2010, cynhyrchodd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad adroddiad, ‘Cyfiawnder Ieuenctid: Profiad plant Cymru mewn Sefydliadau Diogel’, a oedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU

‘gyda golwg ar alluogi datblygu lleoliadau newydd mewn sefydliadau diogel yng Nghymru, gan ddefnyddio uned ddiogel Hillside [yng Nghastell-nedd] yn fodel, a chan gynnwys datblygu darpariaeth mewn lleoliad priodol yn y gogledd.’

A allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â pha ymgysylltu a wnaed, yng nghyd-destun argymhellion adolygiad Taylor?