Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Gallaf, diolch, ac rwy’n siŵr fod yr Aelod wedi gwrando ar fy ymateb i Huw Irranca-Davies. Rydym yn anghytuno â chryn dipyn o adolygiad Charlie Taylor. Ni fyddwn yn cyflwyno ysgolion diogel yma yng Nghymru. Rwyf wedi ymweld â rhaglen Hillside. Rwy’n edrych ar gyfleusterau cam-i-lawr. Yn hynny o beth, mae gennym atebion Cymreig i’r problemau hyn. Nid wyf yn credu mai proses yr ysgolion diogel yw’r ffordd gywir a phriodol. Ni ddylem fod yn carcharu ein pobl ifanc; dylem fod yn eu cefnogi ymlaen llaw.