Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Credaf fod Jonathan Shepherd wedi gwneud gwaith ardderchog. Yn wir, o ganlyniad i’w waith ar hyn, mae bellach yn rhan o fy ngrŵp cynghori ar wasanaethau trais domestig. Felly, daw â’i ddeallusrwydd ynglŷn â hyn i’r rhaglen hon hefyd. Yr her sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd yw’r gofynion drwy’r GIG ac adrannau’r gwasanaethau brys mewn perthynas ag integreiddio’r rhaglen ar draws y system. Ond gwn fod y Gweinidog iechyd yn edrych ar hyn yn ofalus iawn i sicrhau ein bod yn rhoi’r agenda hon ar waith. Mae’n fodel atal gwych gan y gwyddom, os gallwn nodi lle y ceir problemau mewn cymunedau drwy gamddefnyddio alcohol a thrais, y gallwn atal hynny drwy ymyriadau cynnar a digyfaddawd. Felly, rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod heddiw. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â gweithrediad y rhaglen o fewn system y GIG.