Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
A gaf fi ychwanegu at y ganmoliaeth i’r rhaglen hon, gan nad oes unrhyw amheuaeth y gallwn ddefnyddio data’n effeithiol iawn i weld lle y gellir sicrhau bod ymddygiad yn newid o ganlyniad i fân newidiadau yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau neu’r hyn a ganiatawn yn yr amgylchedd trefol, er enghraifft, pa un a oes gennych wydrau gwydr neu wydrau plastig? Mae llawer o bethau yno sy’n ymwneud â’r broblem o lawer o bobl ifanc yn yfed gormod ar adegau penodol ac yna’n camymddwyn, a chyda rhai newidiadau fel bugeiliaid stryd, gallai llawer o bethau helpu i leihau lefelau trais.