<p>Rhaglen Atal Trais Caerdydd</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:53, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn hollol iawn, ac unwaith eto, mae’n rhaglen ardderchog, gyda’r ymchwil yn deillio nid o’r sector diogelwch cymunedol ond o’r sector meddygol, ac roedd hynny’n ddiddorol iawn. Wrth fesur yr effaith yng Nghaerdydd, gwelsom 42 y cant o ostyngiad yn lefelau trais, sy’n ostyngiad mawr iawn. Mae’n rhaid i ni barhau i gyflwyno’r rhaglen hon, ac fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn blaenorol, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau o ran sut y caiff y rhaglen ei rhoi ar waith ar draws ein hystad.