Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
[Yn parhau.]—fydd Llywodraeth y DU yn gweithredu adran 42, rwy’n cymryd mai lle’r awdurdodau lleol wedyn fydd rhoi llety i’r plant hynny o dan gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant, oni bai, wrth gwrs, eu bod hwythau hefyd yn dod o dan waharddiadau adran 42 rhag yr hawl i rentu. Byddai’n ddefnyddiol cael canllawiau’r Llywodraeth ar y mater hwn, gan fod baich enfawr, o bosibl, ar y ffordd i awdurdodau lleol, un nad ydym wedi ei ystyried o ddifrif o’r blaen.