Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Nid oes dim amheuaeth bod cael eu troi allan o’u cartref a gorfod byw mewn llety dros dro, fel mae 792 o deuluoedd yn ei wneud ar hyn o bryd, yn brofiad trawmatig i blentyn. Mae effaith digartrefedd ar blant yn dechrau ar eu genedigaeth. Mae plant sy’n cael eu geni i famau sydd wedi bod mewn llety gwely a brecwast ar gyfer peth amser yn fwy tebygol o fod o bwysau geni isel. Maen nhw hefyd yn fwy tebyg o golli allan ar eu brechiadau. Mae un o bob dwy fam sy’n cael eu troi allan o’u cartrefi yn profi iselder. Mi fydd y plant eu hunain yn dioddef—mae’r effeithiau yn niferus. O’u cymharu â phlant eraill, mae gan blant digartref bedair gwaith gymaint o heintiau anadlol a phedair gwaith y gyfradd o asthma. Mae ganddyn nhw bum gwaith gymaint o heintiau stumog a dolur rhydd, chwe gwaith yn fwy o broblemau lleferydd ac atal dweud, ac maen nhw’n mynd i’r ysbyty ar frys ddwywaith mor aml. Mae yna hefyd dystiolaeth helaeth o effaith tai gorlawn ar iechyd, ac mae gorlenwi, wrth gwrs, yn gyffredin mewn llety dros dro. Mae plant mewn tai gorlawn hyd at 10 gwaith yn fwy tebygol o gael llid yr ymennydd na phlant yn gyffredinol. Yn ogystal â bygwth bywyd, yn amlwg, mae effeithiau hirdymor y clefyd hwnnw yn gallu cynnwys colli clyw, colli golwg a phroblemau ymddygiad. Mae cysylltiad cryf rhwng lefel gorlenwi yn ystod plentyndod a haint pylori helicobacter, sy’n un o brif achosion canser y stumog a chyflyrau eraill sy’n effeithio ar y system dreulio mewn oedolion, yn cynnwys ‘gastritis’ cronig a chlefyd wlser peptig. Mae’r rhai sy’n byw mewn tai gorlawn iawn yn ystod plentyndod wedi cael eu canfod i fod yn ddwywaith mwy tebygol o gael yr haint pan fyddan nhw’n cyrraedd 65 i 75 oed.
Felly, galwch le gwely a brecwast neu hostel yn gartref dros dro os liciwch chi, ond nid oes dim byd dros dro am yr effaith. Ac yng nghyd-destun treth greulon y dreth ystafell wely, rwy’n gwahodd unrhyw Aelodau sy’n credu mai tan-ddeiliadaeth, neu ‘under-occupancy’, ydy’r broblem fwyaf sy’n wynebu tai cymdeithasol i feddwl yn ddwys am y ffeithiau rydw i newydd eu nodi. Mae effaith hirdymor ar iechyd meddwl hefyd. Mae plant digartref dair i bedair gwaith yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl na phlant eraill, hyd yn oed sbel ar ôl cael eu hailgartrefu—hyd yn oed flwyddyn, efallai, ar ôl cael eu hailgartrefu. Felly, o ystyried yr effeithiau iechyd yma, a ydy hi o ryw syndod bod cyrhaeddiad addysgol yn dioddef hefyd? Mae plant digartref mewn llety dros dro yn colli, ar gyfartaledd, 55 o ddyddiau ysgol, sy’n cyfateb i chwarter y flwyddyn ysgol, oherwydd y tarfu arnyn nhw sy’n digwydd wrth iddyn nhw symud i mewn i neu symud rhwng gwahanol lety dros dro. Ac mae hefyd y ffaith bod llety dros dro, yn amlach na pheidio, yn anaddas fel lle i blentyn ddysgu, pa un ai o ran gwneud gwaith ysgol ffurfiol neu hobi mwy addysgol, os liciwch chi, fel dysgu offeryn cerdd.
Gadewch imi droi rŵan at y costau ariannol. Mae’r costau i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn niferus. Mi allwn ni eu rhannu nhw, o bosib, i sawl categori—costau uniongyrchol y troi allan, yr ‘eviction’ ei hun, i’r landlord; costau uniongyrchol ehangach o ailgartrefu'r person neu’r teulu sydd wedi cael eu troi allan o’u cartref; ond wedyn mae gennych chi hefyd gostau ehangach i wasanaethau cyhoeddus eraill. Mae Shelter Cymru yn amcangyfrif bod y gost yma rhyw £23.4 miliwn y flwyddyn, ac mae hwn, mae’n rhaid dweud, yn amcangyfrif digon ceidwadol sydd ddim yn cynnwys iechyd hirdymor a chostau addysgol ar blentyn o fyw trwy brofiad o’r math yma. Mae unrhyw un sy’n cefnogi’r arfer o droi pobl allan o’u cartrefi yn gorfod wynebu’r cwestiwn o sut rydych chi am dalu am hyn, achos y gwir ydy, mae unrhyw ddadansoddiad o’r economeg yn dod i’r casgliad ei bod hi wastad gryn dipyn yn rhatach i atal digartrefedd ac atal troi allan—hyd yn oed yn fwy, felly, pan rydym yn sôn am deuluoedd efo plant lle bydd cost hirdymor i gymdeithas o fynd i lawr y trywydd hwnnw.
I gloi, felly, rydw i’n synnu nad ydym ni wedi cael adroddiad difrifol, beirniadol gan y swyddfa archwilio ar yr arfer o droi pobl allan. Rydym ni’n gwario £468,000 yr wythnos ar droi pobl o’u cartrefi. Beth am inni wario’r arian yna ar addysg?