7. 5. Dadl Plaid Cymru: Troi Allan Aelwydydd â Phlant

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:09, 14 Rhagfyr 2016

Mae nifer wedi sôn am gost troi pobl a theuluoedd allan o’u cartrefi. Jest i grynhoi, mae symud teuluoedd allan o’u cartrefi yn beth drud. Mae o’n costio dros £24 miliwn y flwyddyn mewn costau uniongyrchol, heb sôn am y costau anuniongyrchol ar y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaeth addysg. Mae bron i £0.5 miliwn yr wythnos yn cael ei wario ar symud pobl o’u cartrefi, ac mae Plaid Cymru yn credu bod hyn yn wastraff arian ac y byddai yn llawer iawn gwell i’w ddefnyddio fo ar addysg, ac y byddai hynny yn well ac yn fwy buddiol i bawb—y plant, y teuluoedd a’r gymuned yn gyffredinol.

Mae 80 y cant o’r achosion yn codi yn sgil dyledion rhent, a’r cefndir yn aml ydy tlodi, cyflogau isel a chyflogaeth ansicr sy’n arwain at incwm sy’n amrywio o wythnos i wythnos, ac ar ben hynny, budd-daliadau sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu hoedi wrth i’r broses geisiadau fynd rhagddi, a diffyg trefn cyffredinol y system wladwriaeth les. Ond mae yna ddiffyg cysondeb o ardal i ardal. Nid oes raid i hyn ddigwydd. Rwy’n anghytuno efo Jenny Rathbone yn fan hyn; nid oes raid iddo fo ddigwydd, yn enwedig i’r lefel mae o’n digwydd ar hyn o bryd. Rwyf yn falch o weld bod yna amrywiaeth ar draws Cymru; nid yw pob ardal gynddrwg, ac rwy’n falch o ddweud bod Gwynedd a Cheredigion efo cyfraddau is na Chaerdydd a Wrecsam, er enghraifft, o ran troi pobl allan o’u cartrefi.

Yng Ngwynedd, mae’r pwyslais ar waith ataliol. Fe sefydlwyd partneriaeth wrthdlodi, sef corff ymbarél yn dod â’r pedair cymdeithas dai sy’n gweithredu yn yr ardal, y cyngor sir, Shelter a Chyngor ar Bopeth at ei gilydd—partneriaeth sydd â’i ffocws ar wrthdlodi ac a gafodd ei sefydlu i weithio yn erbyn agenda dinistriol Llywodraeth San Steffan o gwmpas diwygio lles. Fe sefydlwyd cronfa, sef pot o arian lle mae modd rhoi taliad tai dewisol i bobl sydd yn debygol o fynd i mewn i sefyllfa anodd iawn efo talu rhent ac yn y blaen, ac felly’n wynebu efallai cael eu troi allan o’u cartrefi. Mae’r pot yma o arian wedi cael ei sefydlu ar ôl lobïo penodol gan y cyngor am arian ychwanegol ar gyfer ardaloedd gwledig, ac arian o San Steffan ydy hwn. Mae yna waith da yn digwydd efo’r garfan o bobl sydd yn wynebu caledi, ac mae yna help ariannol i’w gael i helpu efo taliadau budd-dal tai allan o’r gronfa yma. Ond mae yna hefyd help ymarferol ar gael i bobl sydd yn wynebu problemau dyled. Mae yna gyngor ariannol i’w gael, ac mae yna roi pobl ar ben ffordd i osgoi'r problemau. Yn y pen draw, wrth gwrs, mae yna wedyn lai o deuluoedd yn cael eu troi allan o’u cartrefi, a ‘last resort’ go iawn ydy o yn yr ardaloedd blaengar yma.

Mae yna arferion da gan gymdeithasau tai mewn llefydd eraill ar draws Cymru, a beth sy’n bwysig ydy dysgu o’r arferion da hynny. Mae hi yn bosib osgoi troi pobl allan o’u cartrefi. Mae Plaid Cymru yn credu bod gwaith ataliol yn llawer iawn gwell, yn cadw teuluoedd rhag cael eu troi allan o’u cartrefi, ac wedyn yn ei dro yn osgoi'r canlyniadau eraill sy’n gysylltiedig â cholli cartref i blentyn, er enghraifft osgoi mynd i ofal y gwasanaethau cymdeithasol, osgoi camddefnydd cyffuriau, osgoi problemau iechyd meddwl, ac osgoi mynd ar ei hôl hi yn yr ysgol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi atal problemau rhag digwydd neu mynd yn waeth fel rhywbeth canolog i waith y Cynulliad yma, ac mae’n hen bryd rŵan i hwn dreiddio lawr i bethau sydd yn digwydd ar lawr gwlad, a gweithredu arno fo. Rwy’n credu bod y maes yma yn rhoi cyfle euraid i hynny ddigwydd—bod y pwyslais yn symud ar y gwaith ataliol ac ar osgoi'r problemau dybryd sy’n wynebu unrhyw un sy’n cael eu lluchio allan o’u cartref.