Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma a thynnu sylw at rai o’r ffyrdd rwy’n meddwl y gallwn helpu ein dysgwyr i gyflawni safonau gwell mewn ysgolion yng Nghymru.
Nid oes amheuaeth ein bod i gyd yn hynod o bryderus ac yn siomedig ynglŷn â ffigyrau PISA Cymru yr wythnos diwethaf. Er gwaethaf y gwaith caled a phroffesiynoldeb athrawon ledled Cymru, mae’r ffigurau’n dangos nad yw Cymru ble yr hoffem iddi fod o ran meincnodau rhyngwladol.
Nawr, rwy’n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd agenda ddiwygio mewn addysg a bod newidiadau’n digwydd ar ail-lunio’r cwricwlwm cenedlaethol a chymwysterau. Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd ar greu’r amgylchedd cywir ar gyfer dysgwyr yng Nghymru er mwyn darparu sefydlogrwydd ac felly gwella safonau.
Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad y prynhawn yma ar bwysigrwydd sefydlogrwydd yn ein system addysg a’r rôl allweddol y mae awdurdodau lleol hefyd yn ei chwarae yn gwella safonau yn ein hysgolion. Mae angen i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ddarparu arweinyddiaeth strategol i wella safonau ac mae’n rhaid i ni weld strategaeth glir yn cael ei datblygu a thargedau mesuradwy’n cael eu gosod. Ond rhaid i ni hefyd weld bod arweinyddiaeth yn diferu i lawr i awdurdodau lleol, sydd yn y pen draw yn gyfrifol am ddarparu addysg yn ein cymunedau.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o’r traed moch a wnaed o’r ad-drefnu a welsom yn digwydd ledled Sir Benfro. Afraid dweud mai amcan allweddol unrhyw gynllun ad-drefnu ysgolion, o reidrwydd, yw gwella safonau addysg i blant a phobl ifanc. Os na, yna beth yn union yw’r pwynt? Yn Sir Benfro cafwyd ymgynghoriadau di-ri ar ad-drefnu ysgolion ar draws y sir ac mae’r broses gyfan nid yn unig yn peri pryder dwfn i ddysgwyr a rhieni, ond mae’n amlwg yn effeithio ar ganlyniadau addysgol.
O ystyried natur emosiynol ad-drefnu ysgolion, hyd yn oed os nad oes cau neu ad-drefnu’n digwydd yn y pen draw, mae cyhoeddi cynigion o’r fath gan ddiystyru safon yr addysg a ddarperir, i bob golwg, yn anfon neges negyddol i ddisgyblion a rhieni fod torri costau’n flaenoriaeth, yn wahanol i gynnal ansawdd. Rydym wedi gweld enghreifftiau yn y gorffennol lle y mae ysgolion da wedi cau ac nid yw’r math hwnnw o weithredu yn gwneud dim i warchod neu wella safonau ysgolion. Yn wir, mae’r dadlau parhaol ynglŷn â pha ysgolion fydd yn cau neu’n aros ar agor wedi creu’r fath ansefydlogrwydd i gymunedau yn fy etholaeth fy hun fel nad oes unrhyw ryfedd nad yw Cymru’n cael canlyniadau gwell yn erbyn meincnodau rhyngwladol.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2012, nododd Estyn—a dyfynnaf:
‘Dylai unrhyw strategaeth ad-drefnu ysgolion fynd ati i wella safonau. Dylai rhaglenni ad-drefnu ysgolion fod ynglŷn â gwella ysgolion yn bennaf, yn hytrach na bod yn ymarfer rheoli adnoddau sy’n annibynnol ar fuddiannau dysgwyr.’
Argymhellodd yr adroddiad hwnnw y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu a hyrwyddo arfer da wrth arfarnu effaith cynlluniau ad-drefnu ysgolion. Wel, rwy’n ofni nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i werthuso effaith ad-drefnu ysgolion mewn llefydd fel Sir Benfro a’r effaith y byddai’r newidiadau yn eu cael ar ddeilliannau dysgwyr.
Mae rhaglenni ad-drefnu ysgolion, fel yn fy ardal i, sydd wedi bod yn gymhleth ac yn destun pryder i gymunedau lleol yn rhan sylweddol o’r broblem. Yn sicr, rhaid i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol chwarae llawer mwy o ran yn goruchwylio rhaglenni ad-drefnu ysgolion oherwydd ni all llywodraethau ganiatáu i awdurdodau lleol anwybyddu rhieni, athrawon a dymuniadau disgyblion a chyhoeddi ymgynghoriad ar ôl ymgynghoriad—sydd wedi cymryd blynyddoedd yn ein hachos ni yn Sir Benfro—a rhoi addysg a dyfodol plant mewn perygl yn y cyfamser. Nid yw’n syndod nad ydym yn gwella safonau.
Mae digon o ddulliau eraill at ddefnydd Llywodraeth Cymru a fyddai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddeilliannau dysgwyr. Rwy’n derbyn yn llwyr fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhai camau ar waith o ran arweinyddiaeth ysgolion ar lefel penaethiaid ac uwch reolwyr, ond efallai fod rhinwedd hefyd mewn edrych ar rôl llywodraethwyr ysgolion, sydd hefyd â rôl i’w chwarae yn hyrwyddo safonau uchel. Yn wir, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu yn ei hymateb i’r ddadl a yw hynny’n rhywbeth y mae’n ei ystyried ar hyn o bryd a beth yw ei hasesiad o rôl llywodraethwyr ysgolion yn helpu i sicrhau safonau gwell yn ein hysgolion.
Lywydd, roedd yr holl Aelodau yma yn siomedig gyda’r canlyniadau PISA yr wythnos diwethaf. Yn y pen draw, rydym i gyd am weld yr un peth: system addysg lewyrchus sy’n cyflawni ar gyfer ein dysgwyr ac yn arwain at wella deilliannau addysgol. Nid wyf yn eiddigeddus o sefyllfa Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd credaf ein bod i gyd yn cydnabod bod cwmpas y gwaith sydd ei angen i wella safonau addysgol yn arwyddocaol. Fe ddaw drwy gydnabod yn gyntaf lle y ceir gwendidau yn ein system ac yna nodi ffyrdd y gallwn newid y system honno er gwell.
Rydym ni, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn gweithio’n adeiladol gydag Ysgrifennydd y Cabinet i weithredu atebion ystyrlon i helpu i sicrhau canlyniadau gwirioneddol ar gyfer ein dysgwyr ac felly, ar gyfer ein cymdeithas. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.