Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch; rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Ni wneuthum fychanu’r cwricwlwm newydd rydym yn ceisio ei gyflwyno yng Nghymru. Gofynnais yn unig am i ni oedi ac ystyried ai diwygiadau cwricwlaidd tebyg i’r rhai sydd wedi digwydd yn yr Alban, sydd wedi methu â chyflawni yn erbyn y mesur PISA, yw’r dull cywir yma yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen i ni fyfyrio o ddifrif ar hynny.