Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
A gaf fi gefnogi safbwyntiau Adam Price yn llwyr? Mae’n warthus na allai Ysgrifennydd y Cabinet fod yma heddiw i gyflwyno i’r Siambr yr hyn a gyflwynodd yn ei araith y bore yma. Nid wyf—[Torri ar draws.] Ni chlywais yr araith honno y bore yma, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Gweinidog yw hyn: mae gennyf ddau gwestiwn i chi heddiw—[Torri ar draws.] Ni chlywais yr araith a roddodd y bore yma.