Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 10 Ionawr 2017.
Llwyddodd Aelodau o'r Cynulliad i gael cyfarfod ffurfiol o’r diwedd gyda phrif weithredwyr ac arweinwyr y cyngor i drafod dinas-ranbarth Bae Abertawe cyn y toriad, ac mae'n amlwg eu bod yn ystyried buddsoddi mewn trafnidiaeth—soniasoch am seilwaith yn eich ateb i David Rees—fel sbardun allweddol i ragolygon economaidd y rhanbarth. A ydych chi'n meddwl bod ail ddinas Cymru, sydd wrth wraidd yr ehangu rhanbarthol hwn, yn ddigon mawr ac yn ddigon uchelgeisiol i edrych y tu hwnt i fysiau, sef yr hyn a awgrymwyd yn ddiweddar gan Stuart Cole?