1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynigion ar gyfer cefnogi twf economaidd yn ystod 2017 yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0350(FM)
Mae ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer Gorllewin De Cymru yn cynnwys cefnogi busnesau i dyfu, buddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel a gwella amodau ar gyfer busnesau.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae cynhyrchu dur yn elfen hollbwysig o'r economi yng Ngorllewin De Cymru a dyma galon yr economi yn Aberafan. Mae'r heriau a wynebwyd gan y diwydiant y llynedd wedi lleddfu, ond nid ydynt wedi diflannu. Nawr, rwy’n canmol Llywodraeth Cymru ar anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi'r diwydiant, gyda chyhoeddiad cymorth ariannol o hyd at £12 miliwn ym mis Rhagfyr. Rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud dim a’i bod yn ymddangos mewn gwirionedd ei bod yn troi ei chefn ar y sector diwydiannol. Brif Weinidog, cyn y Nadolig, cafodd Lee Waters, John Griffiths a minnau gyfarfod gyda phrif swyddog gweithredol Tata Steel UK, ac fe’i gwnaeth yn gwbl eglur bod y fenter ar y cyd gyda Thyssenkrupp yn dal ar yr agenda hyd yn oed os bydd yr undebau llafur yn derbyn y cytundeb ddiwedd y mis hwn. Gyda’r farn hysbys honno ar y broses o gyfuno’r diwydiant, a'r problemau o ran y diffygion pensiwn hefyd, pa drafodaethau fyddwch chi’n eu cael a pha ymgysylltu fyddwch chi’n ei wneud gyda Thyssenkrupp a Tata i sicrhau bod gan weithwyr dur yng Nghymru ddyfodol mwy diogel?
Gallaf ddweud y bydd unrhyw gymorth a ddarparwn yn amodol ar ddiogelu gweithgarwch economaidd yng Nghymru. Bydd ein cymorth yn amodol—ein cymorth ariannol, hynny yw—ar Tata yn cytuno i amodau sy’n rhwymo mewn cyfraith, ac ni fydd Tata yn cael unrhyw gyllid oni bai bod yr amodau hynny’n cael eu cytuno. Ac mae'n bwysig bod gweithwyr yn deall bod yr arian a fydd ar gael i Tata yn amodol. Rydym ni eisiau sicrhau bod yr arian hwnnw’n sicrhau ein bod yn cadw’r swyddi hynny yng Nghymru ac, yn bwysig, ein bod ni’n parhau i fod â dwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.
Llwyddodd Aelodau o'r Cynulliad i gael cyfarfod ffurfiol o’r diwedd gyda phrif weithredwyr ac arweinwyr y cyngor i drafod dinas-ranbarth Bae Abertawe cyn y toriad, ac mae'n amlwg eu bod yn ystyried buddsoddi mewn trafnidiaeth—soniasoch am seilwaith yn eich ateb i David Rees—fel sbardun allweddol i ragolygon economaidd y rhanbarth. A ydych chi'n meddwl bod ail ddinas Cymru, sydd wrth wraidd yr ehangu rhanbarthol hwn, yn ddigon mawr ac yn ddigon uchelgeisiol i edrych y tu hwnt i fysiau, sef yr hyn a awgrymwyd yn ddiweddar gan Stuart Cole?
Na, rwy’n meddwl y gall atebion trafnidiaeth edrych ar unrhyw nifer o wahanol fathau o drafnidiaeth. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y cytundeb dinas yn cael ei gymeradwyo ac yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU, ac rydym ni’n gobeithio y bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol.
Brif Weinidog, yn y gorffennol, rydych chi wedi cydnabod pwysigrwydd pensiynau yn yr economi pan rwyf wedi codi materion gyda chi ynghylch Visteon UK a'r ymgyrch yr oedd llawer ohonom ni’n rhan ohoni ar y pryd, o ran economi Gorllewin De Cymru, a, phe byddai’r pensiynau hynny’n cael eu bygwth mewn rhyw ffordd, sut y byddai hynny'n effeithio ar yr economi. Felly, rwy’n meddwl tybed a allem ni gael trafodaeth felly ar sefyllfa pensiynau Tata, oherwydd nid ydym eisiau cael ein beirniadu am gadw allan o'r ddadl hon. Rwy'n credu ei bod yn hollbwysig bod gwleidyddion yn rhan o'r drafodaeth hon fel y gallwn arwain ar yr agenda hon. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, felly, i ni gael trafodaeth ar hyn, fel y gallwn ddeall pa gynlluniau wrth gefn fydd eich Llywodraeth yn eu rhoi ar waith o ran nifer y canlyniadau sy'n bosibl. Er enghraifft, os derbynnir y cytundeb, neu os caiff ei wrthod, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod â safbwynt ar hynny, oni fydd?
Rwy'n credu ei bod yn anffodus bod Visteon yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft, gan fod Visteon wedi cau. Rwy'n credu ei bod hefyd yn anffodus i awgrymu bod undebau llafur yn gwneud cam â’u haelodau. Maen nhw’n ceisio cynrychioli budd pennaf eu haelodau, ac maen nhw wedi mynegi barn ar y sylwadau a wnaed. Mater iddyn nhw yw hynny. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n hynod bwysig yw bod dealltwriaeth, ar hyn o bryd, nad oes unrhyw beth arall ar y bwrdd. Pe byddai dewisiadau eraill dilys, yna mae hynny'n rhywbeth y gellid ei ystyried ymhellach, ond nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Ac, felly, mae’n rhaid i ni ystyried y ffaith honno—nad yw Llywodraeth y DU yn barod i genedlaetholi'r diwydiant. Nid ydyn nhw erioed wedi awgrymu hynny, er fy mod i wedi eu hannog i wneud hynny yn y gorffennol pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog. Felly, yr unig becyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd yw'r pecyn y mae Tata wedi ei roi yno, ond mater i’r gweithwyr a'r undebau llafur yw dod i'w casgliadau eu hunain o ran y dyfodol, yn enwedig dyfodol Port Talbot.
Brif Weinidog, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r economi yn fy rhanbarth i o hyd yn ystod 2017 yw seilwaith gwael. Mae economi ffyniannus yn dibynnu ar gysylltiadau trafnidiaeth da. Gyda gwaith trydaneiddio yn cael ei wneud ar y rhwydwaith rheilffyrdd, mae busnesau yng Ngorllewin De Cymru ar drugaredd y llif traffig ar yr M4. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i leihau tagfeydd ar yr M4 dros y misoedd nesaf?
Wel, y peth cyntaf yr ydym ni eisiau ei weld yw Llywodraeth y DU yn cadw ei gair ar ei hymrwymiad i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd Canolog a’r gorllewin. Nawr, nid ydyn nhw wedi rhoi dyddiad ar hynny. Y cynllun gwreiddiol, wrth gwrs, oedd trydaneiddio i Gaerdydd, ac yna o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe, a wnaeth i mi feddwl beth yr oeddwn i wedi ei wneud i’w siomi nhw yn y fath fodd fel y dylid cael bwlch rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Ond, ar hyn o bryd, nid oes dyddiad ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd honno. Mae angen i ni gael y dyddiad hwnnw fel y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith o foderneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd, yr ydym yn gwybod y bydd yn mynd â mwy o geir oddi ar y ffordd.