Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 10 Ionawr 2017.
Wel, y peth cyntaf yr ydym ni eisiau ei weld yw Llywodraeth y DU yn cadw ei gair ar ei hymrwymiad i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd Canolog a’r gorllewin. Nawr, nid ydyn nhw wedi rhoi dyddiad ar hynny. Y cynllun gwreiddiol, wrth gwrs, oedd trydaneiddio i Gaerdydd, ac yna o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe, a wnaeth i mi feddwl beth yr oeddwn i wedi ei wneud i’w siomi nhw yn y fath fodd fel y dylid cael bwlch rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Ond, ar hyn o bryd, nid oes dyddiad ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd honno. Mae angen i ni gael y dyddiad hwnnw fel y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith o foderneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd, yr ydym yn gwybod y bydd yn mynd â mwy o geir oddi ar y ffordd.