Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 10 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, nid oes unrhyw arwydd bod problemau cyfarwydd yr amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac o ran ambiwlansys, yn gwella. Ond, mae cwestiwn brys ar hynny, felly hoffwn eich holi chi am argyfwng o ran amseroedd aros nad yw'n aml yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Gofynnais i chi ddechrau'r tymor diwethaf am amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dywedasoch bryd hynny,
‘Mae'r adnoddau wedi eu sefydlu ac rwyf yn llwyr ddisgwyl i'r amseroedd aros a’r niferoedd leihau wrth i’r adnoddau hynny weithio drwy'r system.'
Brif Weinidog, sut mae hynny’n mynd? A yw'r amseroedd aros wedi lleihau?