1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 10 Ionawr 2017.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, nid oes unrhyw arwydd bod problemau cyfarwydd yr amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac o ran ambiwlansys, yn gwella. Ond, mae cwestiwn brys ar hynny, felly hoffwn eich holi chi am argyfwng o ran amseroedd aros nad yw'n aml yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Gofynnais i chi ddechrau'r tymor diwethaf am amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dywedasoch bryd hynny,
‘Mae'r adnoddau wedi eu sefydlu ac rwyf yn llwyr ddisgwyl i'r amseroedd aros a’r niferoedd leihau wrth i’r adnoddau hynny weithio drwy'r system.'
Brif Weinidog, sut mae hynny’n mynd? A yw'r amseroedd aros wedi lleihau?
Wel, os edrychwn ni ar amseroedd aros o ran derbyniadau iechyd meddwl, rydym ni’n gwybod y bu 9,570 o dderbyniadau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016, oddeutu 1,400 o gleifion preswyl mewn ysbytai ac unedau ledled Cymru. Felly, rydym ni’n gwybod bod nifer y derbyniadau wedi aros yn gyson, ac, wrth gwrs, rydym ni’n disgwyl nawr gweld yr arian ychwanegol—yr £8 miliwn ychwanegol—sy'n cael ei roi i mewn i wasanaethau iechyd meddwl plant, yn arbennig, yn helpu i leihau rhestrau aros, ac rydym ni’n gweld hynny ledled Cymru—amseroedd aros, mae’n ddrwg gen i.
Brif Weinidog, yr ateb i'r cwestiwn a ofynnais i chi yw nad yw amseroedd aros ar gyfer CAMHS wedi gwella. Gwaethygodd nifer y bobl sy'n aros dros 16 wythnos ychydig yn ystod y flwyddyn, ac, yn ogystal ag aros yr un fath dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r amseroedd aros yn parhau i fod yn sylweddol waeth nag yr oeddent dair blynedd yn ôl. Nawr, un esboniad yr ydych chi wedi ei roi am hyn yw bod gormod o blant yn cael eu hatgyfeirio. Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2015, dywedasoch fod, tystiolaeth yn awgrymu nad oes gan tua un o bob tri unigolyn ifanc a atgyfeirir at CAMHS arbenigol unrhyw salwch meddwl.
A dywedasoch,
Mae gan un o bob tri arall anawsterau lefel isel na fyddai'n cyrraedd y trothwy ar gyfer triniaeth gan wasanaeth arbenigol.
Ac ailadroddwyd y safbwyntiau hynny gan eich Gweinidog iechyd blaenorol. A ydych chi’n sefyll wrth y farn honno, Brif Weinidog?
Ydw.
Wel, a dweud y gwir, does dim tystiolaeth—dim tystiolaeth o gwbl—bod plant yn cael eu hychwanegu at restrau aros heb reswm. Nawr, amlygodd adroddiad 2014 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod yn rhaid i lawer o blant aros tan fod eu cyflwr yn gwaethygu i gael gafael ar gymorth. Mae'r elusen YoungMinds wedi dweud bod llawer o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod wedi cael eu gwrthod rhag cael gafael ar wasanaethau yn aml gan fod y trothwy ar gyfer triniaeth yn rhy uchel iddyn nhw. Brif Weinidog, mae'r dystiolaeth yn cynyddu nad oes digon o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl. Gofynnaf yr un cwestiwn i chi a ofynnais i chi ym mis Medi y llynedd: pryd all pobl ddisgwyl gweld gwelliannau i’r rhestrau aros, yr ydych chi wedi eu haddo i’r Cynulliad hwn dro ar ôl tro?
Yn gyntaf oll, gwasanaeth acíwt yw CAMHS; ni fyddwn yn disgwyl i bobl gael eu hatgyfeirio at CAMHS yn awtomatig. Rwy'n disgwyl i bobl ifanc weld eu meddygon teulu ac i’r meddyg teulu atgyfeirio os yw hynny'n angenrheidiol. Yn ail, mae gan bob ysgol uwchradd gwnselydd, ac mae’r gwasanaeth cwnsela hwnnw ar gael i'r rhai sydd ei angen. Ni fyddwn yn disgwyl i bawb, yn yr un modd na fyddwn yn disgwyl i bawb sy'n mynd at feddyg teulu gael eu hatgyfeirio'n awtomatig at wasanaeth gofal eilaidd, i wneud hynny.
O ran CAMHS, rydym ni wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn CAMHS; nid oes dadl am hynny. Mae'r arian wedi mynd i mewn ac rydym ni’n disgwyl gweld cynnydd sylweddol pellach yn ystod y flwyddyn hon. Byddaf, er hynny, yn ysgrifennu at arweinydd yr wrthblaid ynghylch y sail dystiolaeth sydd gennym ni o natur atgyfeiriadau i CAMHS, a byddaf yn darparu'r wybodaeth honno iddi.
Arweiniydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, dros gyfnod y Nadolig ac yn ddiweddar dros y diwrnodau diwethaf, bu cryn sôn am rinweddau neu beidio, yn ôl y digwydd, y cytundeb sydd gerbron y gweithwyr dur ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill ledled Cymru—Trostre , Llanwern a Shotton. Cyn i ni dorri ar gyfer y Nadolig, dywedasoch yn eglur wrthyf i wrth gael eich holi bod hwn yn gytundeb da iawn a'i fod yn gytundeb y gallwch ei gymeradwyo ac sy'n cynnig dyfodol i'r gwaith. Ai dyna safbwynt y Prif Weinidog o hyd o ran y cytundeb hwn, gan nad wyf yn ymwybodol o unrhyw gynllun wrth gefn os caiff y cytundeb hwn ei wrthod?
Rwy'n ymwybodol o'r pryderon, wrth gwrs, o ran proses y cynllun pensiwn ac mae Aelodau yn y Siambr hon wedi ailadrodd y pryderon hynny, ond mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn gweld bod unrhyw ddewis arall ar y bwrdd ac felly, er ei fod yn fater i weithwyr wneud eu penderfyniadau eu hunain, mae'r cynnig sydd ar y bwrdd, rwy’n credu, yn un a fydd yn cadw’r diwydiant dur yn y de. Nid oes unrhyw beth arall. Nid oes cynllun wrth gefn.
Diolch i chi am yr eglurder, gan fy mod i’n credu ei bod yn bwysig deall difrifoldeb y penderfyniad y mae'r gweithwyr dur yn ei wynebu, a’u penderfyniad nhw yw hwn, er tegwch, gan y gofynnir iddynt roi rhywbeth yn gyfnewid am sicrwydd ynghylch dyfodol hirdymor y diwydiant dur yma yng Nghymru. Rydym ni’n deall nawr gan Blaid Cymru eu bod nhw o’r farn y dylai’r cytundeb hwn gael ei wrthod. Beth yn eich barn chi fydd y canlyniadau os caiff y cytundeb hwn ei wrthod i ddyfodol hirdymor a thymor canolig y gweithfeydd hynny a oedd yn meddiannu cymaint o'r agenda wleidyddol yn ogystal â'r agenda gymunedol yn y cymunedau hynny trwy gydol 2016?
Rwy’n deall y pryderon y mae Aelodau wedi eu mynegi, ond, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, nid oes dewis arall ar y bwrdd. Roedd y consortia eraill a oedd â diddordeb mewn cymryd drosodd i gyd yn pryderu am y cynllun pensiwn hefyd. Felly, nid yw mater y cynllun pensiwn byth yn mynd i ddiflannu. Y dewis arall, mae'n debyg, yw y gallai Llywodraeth y DU genedlaetholi'r diwydiant. Gwnaeth eich plaid chi hi’n eglur iawn na fyddwch yn gwneud hynny, ac felly, mae'n ymddangos i mi ar hyn o bryd mai’r cynllun hwn yw hi, neu ddim cynllun o gwbl. Dyna’r hyn y mae’n rhaid i’r gweithwyr ei ystyried.
Mae'n destun gofid i mi nad yw Llywodraeth y DU—roedd pethau’n wahanol o dan y Prif Weinidog blaenorol, os ydw i'n berffaith onest—wedi cymryd diddordeb yn y diwydiant dur yng Nghymru; nid ydynt wedi rhoi sylw i'r mater o brisiau ynni yn briodol; nid ydynt wedi cael unrhyw drafodaethau gyda ni, fel Gweinidogion, ar fater dyfodol y diwydiant dur, neu ychydig iawn, ers i'r Prif Weinidog newydd ddechrau yn y swydd, ac rwy’n gresynu hynny. Nodais yn ofalus yr hyn a ddywedodd Theresa May ddoe am ymyrryd yn y farchnad, ond nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hynny o ran cymorth i ddiwydiant dur Cymru.
Rwy’n credu bod gennym ni Lywodraeth y DU gefnogol iawn, Brif Weinidog, pan ddaw i’r mater hwn, a byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sawl cais a wnaed i Stryd Downing am gyfarfod ar y mater dur penodol. A ydych chi'n cytuno â Stephen Kinnock, ac yn aml iawn— [Torri ar draws.] Gallaf glywed y Dirprwy Weinidog yn grwgnach ar ei eistedd, ond efallai yr hoffai wrando ar y cwestiwn yn gyntaf, ac yna efallai y byddwn yn cael ateb a fyddai'n hysbysu ei etholwyr yn ogystal â phobl eraill yng Nghymru. Ydych chi’n cytuno—?
A allwn ni ganiatáu i arweinydd y Blaid Geidwadol gael ei glywed os gwelwch yn dda?
A ydych chi’n cytuno, Brif Weinidog, â Stephen Kinnock, bod y cynigion a roddwyd ar y bwrdd gan Tata Steel yn gynigion trawiadol, a’u bod wir yn datgloi buddsoddiad sylweddol ar gyfer y gweithfeydd dur ledled Cymru, ac yn cynnig dyfodol diogel, yn sicr yn y tymor byr a’r tymor canolig, i’r miloedd lawer o swyddi sy'n dibynnu ar ddatgloi’r buddsoddiad hwn? Mae saith mil o swyddi—
Gofynnais am i arweinydd y Blaid Geidwadol gael ei glywed, ac rwy'n bwriadu i bobl wrando arnaf pan fyddaf yn gofyn.
Mae saith mil o swyddi yn dibynnu ar y cytundeb hwn. A ydych chi’n cytuno â hynny?
Yn absenoldeb unrhyw beth gan Lywodraeth y DU, a’r diffyg diddordeb gan Lywodraeth y DU ers i’r Prif Weinidog diwethaf adael ei swydd, rwy’n credu mai dyma'r unig gytundeb sydd ar y bwrdd. Rydym ni wedi darparu swm sylweddol o arian, nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu unrhyw beth, ac rydym ni’n credu bod y pecyn hwnnw—wel, byddwn yn mynnu bod y pecyn hwnnw—yn helpu i ddiogelu’r miloedd o swyddi yn y diwydiant dur yng Nghymru.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
A gaf i groesawu'r Prif Weinidog yn ôl o’i daith i Norwy? Efallai y gallai ddweud wrthym ba gasgliadau y daeth iddynt yn sgil hynny. A yw'n ymwybodol bod 70 y cant o bobl Norwy yn dal i wrthwynebu aelodaeth o'r UE yn bendant? Ac o ran aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, a wnaiff ef gadarnhau bod Norwy yn aelod o gytundeb Schengen, ac felly mae mynediad dilyffethair at y farchnad sengl, y mae'r Prif Weinidog o’i blaid bob amser, yn mynd i olygu mynediad dilyffethair hefyd i'r DU ar gyfer niferoedd diderfyn o fewnfudwyr o’r UE?
'Na' yw'r ateb i hynny, oherwydd mae pobl yn Norwy—. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith nad ydyn nhw’n cefnogi aelodaeth o'r UE, ond maen nhw’n cefnogi aelodaeth o AEE a rhyddid i symud yn gryf. Ond, mae gwahaniaeth, ac rwy’n credu bod hwn yn fater sy'n llwybr proffidiol i ni ei ddilyn yn y DU: mae rhyddid i symud yn Norwy yn golygu rhyddid i symud i weithio. Nid yw'n system ddiderfyn o ryddid i symud. Ceir rhai rheolau ynghylch sut y gall pobl chwilio am waith os byddant yn colli swydd, ond nid yw'n hawl dilyffethair i symud fel y mynnant. Y cwbl maen nhw’n ei wneud, mewn gwirionedd, yw dilyn y rheolau Ewropeaidd yn llythrennol, rhywbeth na wnaeth y DU. Roedd y DU yn fwy rhyddfrydol ei hymagwedd ac aeth y tu hwnt i'r hyn yr oedd y rheolau’n gofyn amdano. Os mai dyna sy'n ofynnol er mwyn cael mynediad i’r farchnad sengl, rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y byddai pobl yn ei ystyried yn gwbl resymol.
Wel, canfuom yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yng nghanlyniad y refferendwm ei hun, oherwydd cymhellwyd y refferendwm, y canlyniad, i raddau llethol—ac mae’n ymddangos bod pawb yn cytuno ar hyn—gan ofnau am fudo dilyffethair, ac o ran—. [Torri ar draws.]
O ie. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos mai dyna oedd y ffactor a benderfynodd y canlyniad. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, nid yn unig o blaid aelodaeth lawn o'r farchnad sengl, ond maen nhw hefyd o blaid aelodaeth lawn o'r undeb tollau, a fyddai'n ein hatal rhag gwneud cytundebau â gwledydd trydydd parti hefyd. Felly, o leiaf nid yw’r Blaid Lafur wedi mynd mor bell â hynny yn ei ffyddlondeb i aelodaeth o'r UE. Ond, onid y gwir yw, Brif Weinidog, bod gan 508 miliwn o bobl hawl mynediad ar hyn o bryd, gan eu bod yn ddinasyddion yr UE, i'r wlad hon, i ddod yma i fyw ac i weithio, a phe byddem ni’n aelodau o’r AEE, yna byddai hynny, i bob pwrpas, yr un fath ag y mae nawr?
Na fyddai, oherwydd os byddwch yn dehongli'r rheolau’n llym, dyna a gewch: rydych chi’n cael rhyddid i symud i weithio. Rwy’n credu y byddai pobl yn derbyn hynny. Rwy'n credu os yw pobl yn credu bod rhywun yn dod i swydd sydd ganddynt, y byddai hwnnw’n safbwynt rhesymol i’w fabwysiadu. Y peth arall y mae’n rhaid i ni ei gofio yw y bydd gan y DU ffin agored â'r UE. Bydd ganddi ffin agored yn Iwerddon, na fydd yn cael ei phlismona mewn unrhyw ffordd ac na fydd yn cael ei monitro mewn unrhyw ffordd. Nawr, pryd bynnag y bydd hyn yn cael ei grybwyll yn y trafodaethau yr ydym ni’n eu cael gyda Gweinidogion y DU, rydym ni’n gweld yr hyn sy'n cyfateb i estrys yn plymio ei ben i mewn i'r tywod. Maen nhw’n dweud yn barhaus, 'Bydd popeth yn iawn,' ond y gwir yw, o ystyried y ffaith y bydd ffin agored â'r UE, o ystyried y ffaith y bydd Llywodraeth y DU eisiau monitro wedyn a oes gan rywun yr hawl i weithio yn y DU, sut mae unigolyn yn profi’r hawl hwnnw? Mae pasbortau yn ddewisol, mae trwyddedau gyrru yn ddewisol; bydd gennych chi system cardiau adnabod gorfodol yn y pen draw. Nid oes unrhyw ffordd arall o’i wneud. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth nad yw wedi ei ystyried yn briodol, ymhlith llawer iawn o gwestiynau nad ydynt wedi eu hateb gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn.
Yn y ffordd garedicaf bosibl, hoffwn annog y Prif Weinidog i dreulio mwy o amser dramor, a mynd i wledydd eraill lle y gall ddysgu rhywbeth am y ffordd y mae’r byd yn gweithredu y tu allan i'r UE. Yn arbennig, hoffwn ei annog i fynd i Dde Korea, gan fod De Korea wedi—. Nid yn unig oherwydd ei fod mor bell—[Chwerthin.] Trwy Los Angeles efallai. Gan fod De Korea wedi llwyddo mewn gwirionedd i ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE. Felly, nid yw'n rhan o'r farchnad sengl, ond mae ganddi holl fanteision masnach aelodaeth o’r farchnad sengl heb unrhyw un o'r llyffetheiriau o ryddid i bobl symud. Gan fod hyn wedi ei ganmol gan gomisiynydd masnach yr UE, Cecilia Malmström, yn y termau hyn mae’n dweud,
Dylai tystiolaeth ein cytundeb gyda Korea helpu i argyhoeddi'r rhai nad ydynt yn argyhoeddedig bod Ewrop yn elwa'n fawr ar fwy o fasnach rydd... mae'n sbarduno twf Ewropeaidd. Mae'n diogelu ac yn creu swyddi.
Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog a minnau yn cytuno’n llwyr ar y pwynt hwnnw. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn, rwy’n credu, i’r DU yn gyffredinol pe byddai'n ychwanegu ei bwysau sylweddol at y ddadl dros fwy o gytundebau masnach rydd gyda gweddill y byd, sy’n rhywbeth y gallwn ei drafod dim ond y tu allan i'r undeb tollau a'r tu allan i'r UE.
Wel, nid wyf yn gwybod a yw'n golygu pwysau gwleidyddol neu gorfforol. Byddaf yn ceisio bod yn obeithiol o ran yr hyn y mae'n ei olygu. [Chwerthin.] Y gwir yw hyn: mae cytundebau masnach rydd yn cymryd llawer iawn o flynyddoedd i’w cytuno. Ni fydd gan y DU gytundeb masnach rydd o fewn dwy flynedd. Pryd bynnag yr wyf i wedi siarad â swyddogion sydd wedi bod yn rhan o drafodaethau o'r fath, maen nhw’n credu ei bod yn chwerthinllyd y gall pobl hyd yn oed ddweud hynny. Mae'n cymryd bron i ddwy flynedd i bennu’r fframwaith ar gyfer y trafodaethau. Y pryder sydd gennyf yw y bydd y DU, ymhen dwy flynedd, yn disgyn oddi ar ymyl y clogwyn ac na fydd ganddi gytundeb masnach rydd â neb, oherwydd ni fydd unrhyw drefniadau pontio. Felly, bydd trefniadau pontio yn gwbl hanfodol y tu hwnt i fis Mawrth 2019. Fel arall, ni fydd unrhyw beth.
Mae'n sôn am Korea. Yr hyn nad wyf i ei eisiau yw i'r DU ddod yn rhyw fath o Ogledd Korea Ewropeaidd sydd wedi ei thorri i ffwrdd oddi wrth weddill y byd, heb unrhyw fath o drefniadau masnachu gydag unrhyw un. Nid yw hynny o fudd i neb, does bosib. Ond mae'n rhaid cael dos o realaeth yn y fan yma. Dywedwyd y 'Bydd y byd yn syrthio wrth draed y DU.' Nid wyf yn credu hynny o gwbl. Mae'r DU yn fach o'i chymharu â blociau masnachu eraill. Mae'n rhaid i ni fod yn realistig ac mae’n rhaid i ni gynnal trafodaethau gyda meddwl agored. Mae’n rhaid i ni ddeall hefyd, cyn belled ag y mae mynediad at y farchnad yn y cwestiwn, bod quid pro quo. Ni allwn fynnu cael popeth yr ydym ni ei eisiau gan yr Undeb Ewropeaidd a disgwyl ei gael. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Nid yw’n mynd i ddigwydd yn y ffordd honno. I mi, mae dewis: naill ai rydych chi’n dweud, 'Rydym ni’n mynd i gyfyngu ar fewnfudo', sy'n amhosibl oherwydd y ffin agored, neu rydych chi’n dweud, 'Rydym ni’n mynd i gael mynediad at y farchnad sengl.' I mi, mynediad at y farchnad sengl yw’r mater pwysicaf i ni yng Nghymru yn bendant, ac felly gellir cyfaddawdu ar unrhyw beth arall. Credaf os byddwn ni’n dweud wrth bobl Cymru, 'Mae rhyddid i symud i weithio', yna mae hynny'n rhywbeth y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei dderbyn fel rhywbeth cwbl synhwyrol.