<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:39, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, yr ateb i'r cwestiwn a ofynnais i chi yw nad yw amseroedd aros ar gyfer CAMHS wedi gwella. Gwaethygodd nifer y bobl sy'n aros dros 16 wythnos ychydig yn ystod y flwyddyn, ac, yn ogystal ag aros yr un fath dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r amseroedd aros yn parhau i fod yn sylweddol waeth nag yr oeddent dair blynedd yn ôl. Nawr, un esboniad yr ydych chi wedi ei roi am hyn yw bod gormod o blant yn cael eu hatgyfeirio. Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2015, dywedasoch fod, tystiolaeth yn awgrymu nad oes gan tua un o bob tri unigolyn ifanc a atgyfeirir at CAMHS arbenigol unrhyw salwch meddwl.

A dywedasoch,

Mae gan un o bob tri arall anawsterau lefel isel na fyddai'n cyrraedd y trothwy ar gyfer triniaeth gan wasanaeth arbenigol.

Ac ailadroddwyd y safbwyntiau hynny gan eich Gweinidog iechyd blaenorol. A ydych chi’n sefyll wrth y farn honno, Brif Weinidog?