<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:40, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, a dweud y gwir, does dim tystiolaeth—dim tystiolaeth o gwbl—bod plant yn cael eu hychwanegu at restrau aros heb reswm. Nawr, amlygodd adroddiad 2014 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod yn rhaid i lawer o blant aros tan fod eu cyflwr yn gwaethygu i gael gafael ar gymorth. Mae'r elusen YoungMinds wedi dweud bod llawer o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod wedi cael eu gwrthod rhag cael gafael ar wasanaethau yn aml gan fod y trothwy ar gyfer triniaeth yn rhy uchel iddyn nhw. Brif Weinidog, mae'r dystiolaeth yn cynyddu nad oes digon o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl. Gofynnaf yr un cwestiwn i chi a ofynnais i chi ym mis Medi y llynedd: pryd all pobl ddisgwyl gweld gwelliannau i’r rhestrau aros, yr ydych chi wedi eu haddo i’r Cynulliad hwn dro ar ôl tro?