Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 10 Ionawr 2017.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, dros gyfnod y Nadolig ac yn ddiweddar dros y diwrnodau diwethaf, bu cryn sôn am rinweddau neu beidio, yn ôl y digwydd, y cytundeb sydd gerbron y gweithwyr dur ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill ledled Cymru—Trostre , Llanwern a Shotton. Cyn i ni dorri ar gyfer y Nadolig, dywedasoch yn eglur wrthyf i wrth gael eich holi bod hwn yn gytundeb da iawn a'i fod yn gytundeb y gallwch ei gymeradwyo ac sy'n cynnig dyfodol i'r gwaith. Ai dyna safbwynt y Prif Weinidog o hyd o ran y cytundeb hwn, gan nad wyf yn ymwybodol o unrhyw gynllun wrth gefn os caiff y cytundeb hwn ei wrthod?