Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 10 Ionawr 2017.
Yn absenoldeb unrhyw beth gan Lywodraeth y DU, a’r diffyg diddordeb gan Lywodraeth y DU ers i’r Prif Weinidog diwethaf adael ei swydd, rwy’n credu mai dyma'r unig gytundeb sydd ar y bwrdd. Rydym ni wedi darparu swm sylweddol o arian, nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu unrhyw beth, ac rydym ni’n credu bod y pecyn hwnnw—wel, byddwn yn mynnu bod y pecyn hwnnw—yn helpu i ddiogelu’r miloedd o swyddi yn y diwydiant dur yng Nghymru.