<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:46, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

'Na' yw'r ateb i hynny, oherwydd mae pobl yn Norwy—. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith nad ydyn nhw’n cefnogi aelodaeth o'r UE, ond maen nhw’n cefnogi aelodaeth o AEE a rhyddid i symud yn gryf. Ond, mae gwahaniaeth, ac rwy’n credu bod hwn yn fater sy'n llwybr proffidiol i ni ei ddilyn yn y DU: mae rhyddid i symud yn Norwy yn golygu rhyddid i symud i weithio. Nid yw'n system ddiderfyn o ryddid i symud. Ceir rhai rheolau ynghylch sut y gall pobl chwilio am waith os byddant yn colli swydd, ond nid yw'n hawl dilyffethair i symud fel y mynnant. Y cwbl maen nhw’n ei wneud, mewn gwirionedd, yw dilyn y rheolau Ewropeaidd yn llythrennol, rhywbeth na wnaeth y DU. Roedd y DU yn fwy rhyddfrydol ei hymagwedd ac aeth y tu hwnt i'r hyn yr oedd y rheolau’n gofyn amdano. Os mai dyna sy'n ofynnol er mwyn cael mynediad i’r farchnad sengl, rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y byddai pobl yn ei ystyried yn gwbl resymol.