<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:49, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Yn y ffordd garedicaf bosibl, hoffwn annog y Prif Weinidog i dreulio mwy o amser dramor, a mynd i wledydd eraill lle y gall ddysgu rhywbeth am y ffordd y mae’r byd yn gweithredu y tu allan i'r UE. Yn arbennig, hoffwn ei annog i fynd i Dde Korea, gan fod De Korea wedi—. Nid yn unig oherwydd ei fod mor bell—[Chwerthin.] Trwy Los Angeles efallai. Gan fod De Korea wedi llwyddo mewn gwirionedd i ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE. Felly, nid yw'n rhan o'r farchnad sengl, ond mae ganddi holl fanteision masnach aelodaeth o’r farchnad sengl heb unrhyw un o'r llyffetheiriau o ryddid i bobl symud. Gan fod hyn wedi ei ganmol gan gomisiynydd masnach yr UE, Cecilia Malmström, yn y termau hyn mae’n dweud,

Dylai tystiolaeth ein cytundeb gyda Korea helpu i argyhoeddi'r rhai nad ydynt yn argyhoeddedig bod Ewrop yn elwa'n fawr ar fwy o fasnach rydd... mae'n sbarduno twf Ewropeaidd. Mae'n diogelu ac yn creu swyddi.

Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog a minnau yn cytuno’n llwyr ar y pwynt hwnnw. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn, rwy’n credu, i’r DU yn gyffredinol pe byddai'n ychwanegu ei bwysau sylweddol at y ddadl dros fwy o gytundebau masnach rydd gyda gweddill y byd, sy’n rhywbeth y gallwn ei drafod dim ond y tu allan i'r undeb tollau a'r tu allan i'r UE.