<p>Datblygu Economaidd Rhanbarthol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:53, 10 Ionawr 2017

Diolch. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn credu’n gryf bod yn rhaid i ni gael bwrlwm cymdeithasol a ffyniant economaidd yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith os ydyw’r Gymraeg i gryfhau ac rydym yn credu mewn datblygu ardaloedd trefol penodol, megis ardal y Fenai. A ydych yn cytuno bod angen bachu ar bob cyfle i greu sefydliadau cenedlaethol newydd mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf, a hynny fel rhan o’r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr? A ydych yn cytuno bod creu’r awdurdod cyllid newydd y bydd ei angen i weinyddu’r pwerau trethu newydd sy’n dod i Gymru yn gyfle gwych i greu swyddi dwyieithog o ansawdd uchel mewn ardal megis ardal y Fenai yn y gogledd-orllewin? A gaf i awgrymu Caernarfon fel lleoliad delfrydol achos mae gan y Llywodraeth adeilad hanner gwag yno ac y mae’n barod i’w ddefnyddio? Byddai sefydlu’r awdurdod cyllid yn fanno yn hwb mawr i’r Gymraeg yn lleol, ond yn genedlaethol hefyd.