1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2017.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd datblygu economaidd rhanbarthol er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ(5)0352(FM)[W]
Rŷm ni wedi ymgynghori ar ein gweledigaeth ddrafft ar gyfer cyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y ddogfen derfynol yn rhoi sylw i’r berthynas rhwng y Gymraeg a datblygu economaidd a byddwn yn cyhoeddi’r strategaeth derfynol yn ddiweddarach eleni.
Diolch. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn credu’n gryf bod yn rhaid i ni gael bwrlwm cymdeithasol a ffyniant economaidd yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith os ydyw’r Gymraeg i gryfhau ac rydym yn credu mewn datblygu ardaloedd trefol penodol, megis ardal y Fenai. A ydych yn cytuno bod angen bachu ar bob cyfle i greu sefydliadau cenedlaethol newydd mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf, a hynny fel rhan o’r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr? A ydych yn cytuno bod creu’r awdurdod cyllid newydd y bydd ei angen i weinyddu’r pwerau trethu newydd sy’n dod i Gymru yn gyfle gwych i greu swyddi dwyieithog o ansawdd uchel mewn ardal megis ardal y Fenai yn y gogledd-orllewin? A gaf i awgrymu Caernarfon fel lleoliad delfrydol achos mae gan y Llywodraeth adeilad hanner gwag yno ac y mae’n barod i’w ddefnyddio? Byddai sefydlu’r awdurdod cyllid yn fanno yn hwb mawr i’r Gymraeg yn lleol, ond yn genedlaethol hefyd.
Mae hwnnw’n gwestiwn pwysig dros ben. Mae rhai wedi sôn am Borthmadog, wrth gwrs, hefyd. Rwy’n deall, wrth gwrs, pam y mae’r Aelod yn cefnogi Caernarfon. Mae hwn yn rhywbeth rwy wedi gofyn i swyddogion i’w ystyried. Y pwynt sy’n cael ei godi yw a fyddai’n bosib sicrhau bod yna ffyniant o sgiliau yn yr ardaloedd llai trefol. Mae hwnnw’n gwestiwn agored ar hyn o bryd. Ond, rwy’n deall, lle mae corff newydd yn cael ei greu—corff cyhoeddus newydd, felly—dylem edrych y tu fas i Gaerdydd, ac efallai y tu fas i’r de hefyd, er mwyn gweld a oes yna fodd i sicrhau bod y corff hwnnw yn gallu bod rhywle arall yng Nghymru. Felly, mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ar hyn o bryd.
Cyhoeddodd y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a datblygu economaidd argymhellion ar sut y gellid gwella dwyieithrwydd a datblygiad economaidd. Awgrymodd tystiolaeth o'r adolygiad bod gwahaniaethau rhwng sut y mae BBaChau a busnesau mwy yn defnyddio'r Gymraeg, gyda llawer o BBaChau yn dweud mai cost yn hytrach na budd yw’r Gymraeg. Ers cyhoeddi’r adolygiad dair blynedd yn ôl, a gaf i ofyn pa gefnogaeth ymarferol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi yn benodol i BBaChau i gynyddu manteision masnachol gweithredu yn ddwyieithog?
Wel, dau bwynt: yn gyntaf oll, yn hytrach na’i fod yn gost, mae'n gyfle i fusnes. Os gwelir bod busnes yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn cael ei dderbyn yn fwy ffafriol gan y gymuned gyfan. Nid oes amheuaeth am hynny yn fy meddwl i. Yn ail, ar bwynt mwy ymarferol, ceir prosiect arbrofol sydd wedi bod yn gweithredu yn nyffryn Teifi, yn gweithio gyda busnesau, yn eu helpu i gynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn eu helpu i ddeall manteision economaidd gweithredu yn ddwyieithog iddyn nhw fel busnes. Mae'r prosiect hwn yn bwysig o ran ein gallu i gasglu’r dystiolaeth o’r hyn a fydd yn gweithio yn y dyfodol o ran helpu BBaChau i ddatblygu eu cynnig iaith yn rhan o'u busnes.