<p>Datblygu Economaidd Rhanbarthol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, dau bwynt: yn gyntaf oll, yn hytrach na’i fod yn gost, mae'n gyfle i fusnes. Os gwelir bod busnes yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn cael ei dderbyn yn fwy ffafriol gan y gymuned gyfan. Nid oes amheuaeth am hynny yn fy meddwl i. Yn ail, ar bwynt mwy ymarferol, ceir prosiect arbrofol sydd wedi bod yn gweithredu yn nyffryn Teifi, yn gweithio gyda busnesau, yn eu helpu i gynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn eu helpu i ddeall manteision economaidd gweithredu yn ddwyieithog iddyn nhw fel busnes. Mae'r prosiect hwn yn bwysig o ran ein gallu i gasglu’r dystiolaeth o’r hyn a fydd yn gweithio yn y dyfodol o ran helpu BBaChau i ddatblygu eu cynnig iaith yn rhan o'u busnes.