Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 10 Ionawr 2017.
Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi rhoi llawer o ystyriaeth i hyn. Mae wedi arwain ar hyn, o gofio ei chyfrifoldeb am faterion ynni. Mae ein hymateb cynhwysfawr i adroddiad y pwyllgor wedi cynnwys gwaith ar draws y Llywodraeth ac mae bellach ar gael i'w weld ar wefan y pwyllgor.