1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2017.
4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi’u cael ag Ysgrifenyddion y Cabinet ynghylch adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y pedwerydd Cynulliad, ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’? OAQ(5)0347(FM)
Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi rhoi llawer o ystyriaeth i hyn. Mae wedi arwain ar hyn, o gofio ei chyfrifoldeb am faterion ynni. Mae ein hymateb cynhwysfawr i adroddiad y pwyllgor wedi cynnwys gwaith ar draws y Llywodraeth ac mae bellach ar gael i'w weld ar wefan y pwyllgor.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd yn gwybod bod blwyddyn newydd yn aml yn amser ar gyfer addunedau blwyddyn newydd hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fydd ef a'r Ysgrifennydd Cabinet galluog iawn yn ymgymryd—yn addunedu—i weithio gyda'r Cynulliad a gweithio ar draws y Llywodraeth i fwrw ymlaen â chymaint â phosibl o’r 19 o argymhellion hynny, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i gartrefi sy’n agos at fod yn ddi-garbon; a oedd yn cynnwys ymrwymiad i fwrw ymlaen mewn chwyldro tuag at ynni cymunedol a lleol a fyddai'n mynd i'r afael ag oligopoli y cyflenwyr ynni mawr, gan ddefnyddio cynllunio a dulliau polisi eraill i roi hwb enfawr i ynni cymunedol; a hefyd i ysgogi’r chwyldro hwnnw hefyd mewn swyddi ynni gwyrdd glân, ledled Cymru, trefol a gwledig fel ei gilydd? Un o nodweddion arbennig y Llywodraeth hon a'r Cynulliad hwn mewn gweinyddiaethau olynol fu’r ymrwymiad i hybu’r amgylchedd a chynaliadwyedd gwirioneddol. Ai hon fydd y Senedd, ac ai hwn fydd y Cynulliad, ac ai hon fydd y Llywodraeth a fydd yn gwneud hyn yn realiti—chwyldro ynni gwyrdd go iawn, a’r hwb i swyddi a fydd yn dod o ddyfodol ynni mwy craff i Gymru?
Ie, rwy’n credu. Mae'r argymhellion yn cyd-fynd yn agos â'n cyfeiriad strategol. O'r 19 o argymhellion, roeddem yn gallu derbyn 12 ohonynt yn llawn a saith mewn egwyddor. O ran sut y mae hyn yn cael ei ddatblygu, rydym ni wedi gweld llwyddiant, er enghraifft, fferm wynt dan berchnogaeth leol Awel Aman Tawe, a'r prawf ynni lleol ym Methesda, a gafodd ei ddangos ar y rhaglen 'Money Box' y penwythnos hwn. Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rheini. Cynhaliwyd digwyddiad gennym ddydd Gwener diwethaf gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, neu BEIS fel y maen nhw’n galw eu hunain erbyn hyn, ac Ofgem, gan sicrhau bod lleisiau o Gymru yn cael eu clywed ar ymgynghoriad mawr ar system ynni craff a hyblyg.
Brif Weinidog, rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r adroddiad ardderchog hwn. Credaf ei bod yn bwysig iawn bod pwyllgorau’n gweithio'n galed ac yn myfyrio ar waith pwyllgorau blaenorol. Gwn y bydd y pwyllgor olynol yn dychwelyd at hyn. Ond uchelgais yw hwn, a’r uchelgais hwnnw yr ydym ni eisiau iddo gael ei adlewyrchu, rwy’n credu, yn rhaglen y Llywodraeth. Ceir cyfle gwirioneddol yma, wyddoch chi. Adeiladwyd economi Cymru ar un ffynhonnell ynni fwy neu lai, ac fe wnaethom ni ddioddef oherwydd hynny ar ôl y 1920au a disodliad glo gydag olew. Mae cyfleoedd newydd o’n blaenau, a gallai’r cyfleoedd hynny ein helpu i weddnewid economi Cymru a’i gwneud yn llawer mwy gwyrdd ac yn fwy cydnerth ac wedi’i rheoli’n lleol.
Wel, mae’r gwynt yno. Bydd y llanw bob amser yno cyn belled ag y bo’r lleuad yn yr awyr. Mae'r rhain yn adnoddau gwirioneddol adnewyddadwy a all, o’u harneisio’n gywir, sbarduno ein defnydd o ynni ac, yn wir, allforion ynni, ad infinitum, o bosibl. Mae'r rhain yn faterion y mae angen i ni symud ymlaen â nhw. Bydd gennym ni wrth gwrs, ym Mil Cymru, fwy o bwerau dros gydsynio ynni. Ond, wrth gwrs, Llywodraeth y DU sy’n dal i fod yn gyfrifol am yr agwedd ariannol ar ddatblygiad ynni. Edrychwn ymlaen, wrth gwrs, at yr hyn y bydd adolygiad Henry yn ei ddweud o ran y môr-lynnoedd llanw, a byddwn yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennym ni ynni adnewyddadwy sydd â chost refeniw isel iawn o ran cynhyrchu ac a fydd yno yn ystod y dyfodol rhagweladwy.
A gaf i argymell i Aelodau’r Cynulliad, os ydyn nhw eisiau cael cip ar y dyfodol sy’n cael ei ragweld yn adroddiad y pwyllgor, eu bod nhw’n ymweld â Pentre Solar yng Nglan-rhyd, yn sir Benfro, lle mae tai cymdeithasol newydd gael eu hagor gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a finnau’n bresennol, y dydd Iau diwethaf? Dyna’r fath o beth mae’n bosib i’w wneud nawr yng Nghymru, a dylem ni weld llawer mwy o hynny yn cael ei ddatblygu.
Ond, yn benodol, mae’r argymhelliad gan y pwyllgor ynglŷn ag ynni yn argymell sefydlu cwmni ynni nid er elw ar gyfer Cymru i gyd i fod yn ymbarél dros ddatblygiadau, fel y rhai rŷch chi newydd eu hargymell—Ynni Ogwen, datblygiadau gan lefydd fel Talgarth, Glan-rhyd hefyd—i ddod â phobl at ei gilydd ac er mwyn cael y fargen orau i’r cwsmer yn ogystal â’r amgylchedd a’r Llywodraeth. Pa gamau yr ydych chi’n eu cymryd i wneud y fath yna o ddatblygiad?
Mae yna drafodaethau wedi cymryd lle rhwng swyddogion a sawl corff ynglŷn â datblygu cynlluniau i sefydlu cwmni ynni Cymreig. Yn y lle cyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid inni fod yn glir beth yw pwrpas y cwmni ei hunan cyn symud ymlaen. Ond mae’r trafodaethau hynny wedi digwydd ac maen nhw yn parhau.