<p>Darpariaeth Gofal Sylfaenol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:01, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog? Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion ers y Nadolig ynghylch darpariaeth gofal sylfaenol, mewn dwy feddygfa yn Nwyrain Abertawe mewn gwirionedd, ynghylch methu â gwneud apwyntiad, cael eu hysbysu i ffonio yn ôl y bore wedyn, meddygon yn amharod i wneud apwyntiad, anawsterau o ran cael brechiadau, amharodrwydd i wneud ymweliadau cartref. Rwyf hefyd yn ymwybodol o’r ddarpariaeth ragorol i gleifion y mae’r meddygfeydd eraill yn ei chynnig yn fy etholaeth i. Beth all y Llywodraeth ei wneud i safoni ansawdd y ddarpariaeth a dod â meddygfeydd pob meddyg i lefel y goreuon?