Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 10 Ionawr 2017.
Rydych chi’n gwneud pwynt cwbl gywir yn ei hanfod ein bod ni angen mwy o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol yn gweithio mewn meddygfeydd teulu er mwyn helpu i gynnal gwasanaeth o ansawdd da i staff. Felly, fy nghwestiwn i chi, Brif Weinidog, yw, y llynedd, roedd pwyslais hollol gywir ar gael mwy o feddygon i Gymru, pa un a oedd hynny i ofal eilaidd neu sylfaenol. Eleni, a fyddwch chi’n gallu ystyried sut y gallwn ni recriwtio mwy o bobl i'r proffesiynau gofal iechyd perthynol, sut y gallem ni gael lleoedd hyfforddiant digonol ar eu cyfer, sut y gallem ni annog pobl ifanc y byddai hwn yn llwybr gyrfa defnyddiol iawn iddyn nhw a dangos iddyn nhw y ceir datblygiad gyrfaol gwirioneddol? Oherwydd nid ydym ni’n mynd i ddatrys ein problemau gofal sylfaenol heb gael y strwythur eang hwnnw o unigolion cymwys yn cynnig gwasanaethau cyfannol i bobl.