<p>Darpariaeth Gofal Sylfaenol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:04, 10 Ionawr 2017

Efo adrannau brys ein hysbytai ni mewn argyfwng—geiriau Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ydy’r rheini, nid fy ngeiriau i—a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod yr erydiad sydd wedi bod yng nghyfran arian yr NHS sy’n mynd at ofal sylfaenol, a’r straen y mae hynny’n ei roi ar ein meddygfeydd teulu ni yn achosi problemau wedyn i adrannau brys yn ein hysbytai ni? Ac a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno, felly, ei bod hi’n amser edrych eto ar sut mae arian iechyd yng Nghymru yn cael ei rannu er mwyn sicrhau cyllid teg i ofal sylfaenol, er mwyn cynnal NHS cynaliadwy ar gyfer y dyfodol?