Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 10 Ionawr 2017.
Nifer o gamau gweithredu i gefnogi twf ar draws economi gyfan Cymru—cymorth uniongyrchol trwy Busnes Cymru, ac rydym ni hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i gynyddu faint o gynnyrch o Gymru sy’n dod i mewn i'r sector cyhoeddus. Wrth gwrs, yn y diwydiant bwyd a diod, mae cynnyrch o Gymru wedi’i labelu’n llawer gwell nawr nag yr oedd 15 mlynedd yn ôl, yn sicr. Efallai fod ganddo’r un profiad sydd gennyf i o fynd i mewn i siopau lleol a gweld, yn ffodus, mai cynnyrch o Gymru yw’r cyntaf i ddod oddi ar y silffoedd.