1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2017.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr Cymru i brynu nwyddau a gwasanaethau o Gymru? OAQ(5)0357(FM)
Nifer o gamau gweithredu i gefnogi twf ar draws economi gyfan Cymru—cymorth uniongyrchol trwy Busnes Cymru, ac rydym ni hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i gynyddu faint o gynnyrch o Gymru sy’n dod i mewn i'r sector cyhoeddus. Wrth gwrs, yn y diwydiant bwyd a diod, mae cynnyrch o Gymru wedi’i labelu’n llawer gwell nawr nag yr oedd 15 mlynedd yn ôl, yn sicr. Efallai fod ganddo’r un profiad sydd gennyf i o fynd i mewn i siopau lleol a gweld, yn ffodus, mai cynnyrch o Gymru yw’r cyntaf i ddod oddi ar y silffoedd.
Mae gan Norwy, lle bu ar ymweliad, fel y clywsom, yn ddiweddar, Gweriniaeth Iwerddon, rhanbarth Hesse yn yr Almaen, ac eraill, i gyd frand gwlad tarddiad swyddogol a adnabyddir yn eang sydd, i raddau helaeth, wedi eu hanelu at ddefnyddwyr domestig . Nawr, os, fel y mae'n ymddangos, ydym ni’n mynd i gael ein taflu allan o'r farchnad sengl gan gynghrair atchweliadol Corbyn a May, bydd disodli mewnforio yn bwysicach fyth i ni yn y dyfodol. Felly, a allwn ni gael brand ‘cynhyrchwyd yng Nghymru’ fel y llinell gyntaf o amddiffyniad rhag y gwallgofrwydd economaidd sy’n deillio o San Steffan?
Edrychwyd ar hyn yn y gorffennol o ran pa un a oes angen brand ar gyfer cynnyrch o Gymru, neu a fyddai’n well cael adnabyddiaeth brand gref ar gyfer cynhyrchion unigol, ac mae cig oen Cymru yn un o'r cynhyrchion hynny. Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr bwyd, er enghraifft, yn labelu eu cynnyrch fel cynnyrch o Gymru. Ystyrir bod hynny’n fantais fawr iddyn nhw; maen hynny’n llai gwir i rai, ond yn sicr mae'n llawer mwy cyffredin nag yr oedd 15, 16 mlynedd yn ôl, ac mae pobl yn llawer mwy tebygol o brynu cynnyrch o Gymru erbyn hyn. Rwy’n cofio, ar adeg argyfwng clwy'r traed a'r genau, nad oedd un o'r archfarchnadoedd mawr yn labelu unrhyw beth i ddweud ei fod yn dod o Gymru bryd hynny. Roedd popeth yn gyffredinol ym mhob un siop. Mae hynny wedi newid ers amser maith, ac mae pethau'n well o'r herwydd.
Mae'r farchnad ddomestig yng Nghymru yn bwysig, ond marchnad fechan yw hi, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n parhau i wneud yn siŵr bod gennym ni bwyslais ar allforion, a chael cynnyrch â brand Cymreig i farchnadoedd tramor. Pan edrychwn ni ar fwyd o Gymru, yr un peth y mae'n rhaid i ni ei osgoi yw'r sefyllfa yn Norwy, lle ceir tariff ar fwyd. Roedden nhw’n dweud wrthyf fod y tariffau mor fanwl fel bod un tariff ar gyfer eog mwg a thariff arall ar gyfer eog ffres, sy'n rhoi syniad i chi—bydd ef yn gwybod hyn beth bynnag—o ba mor gymhleth yw trafodaethau masnachu mewn gwirionedd. Ond, o ran Norwy, mae ganddyn nhw dariffau a orfodir ar eu cynnyrch amaethyddol sy’n mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Y peth olaf un sydd ei angen arnom ni yw gweld yr un peth yn digwydd i Gymru.
Roeddwn i’n falch o glywed y Prif Weinidog, yn ei ymateb, yn cyfeirio at swyddogaeth cyrff cyhoeddus Cymru o ran cefnogi nid yn unig cynhyrchwyr a chyflenwyr Cymru, ond hefyd bod ganddyn nhw swyddogaeth o ran cefnogi eu heconomïau lleol yn rhagweithiol. Byddai’n gwneud cryn wahaniaeth pe byddai pob corff cyhoeddus yng Nghymru, neu, yn wir, pob corff yng Nghymru sy'n derbyn cyllid cyhoeddus Cymru, yn gweithredu’n fwriadol, yn rhagweithiol ac yn gydweithredol â'i gilydd i gefnogi eu heconomïau lleol, ac yn cynnwys meithrin datblygiad cyflenwyr lleol a chadwyni cyflenwi lleol. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau hynny?
Wel, rydym ni’n parhau i weithio ar gydweddu’r dull seiliedig a dull SquID cymesur, fel y’i gelwir, gan symleiddio'r broses i gyflenwyr wrth wneud cais am waith yn y sector cyhoeddus a helpu i sicrhau bod pob cyflenwr yn cael cyfle teg i ennill y gwaith hwnnw. Un o'r materion, yn enwedig yn y sector bwyd a diod, a oedd yn broblem ar un adeg yw eu bod nhw’n rhy fach. Roedd cwmnïau yn rhy fach i gyflenwi sefydliadau mawr fel y GIG ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, gyda’r hyn yr oedden nhw’n ei gynhyrchu. Cafodd hynny ei oresgyn drwy’r mentrau caffael a gyflwynwyd ac rydym ni wedi gweld llawer mwy o gaffael yn digwydd yn lleol erbyn hyn nag oedd yn wir 15 neu 16 mlynedd yn ôl, yn sicr. Cymrodd gryn amser i symud awdurdodau lleol oddi wrth dendro cystadleuol gorfodol, hyd yn oed wrth i’r cysyniad ddiflannu. Pan fyddwn ni’n sôn am werth gorau i awdurdodau lleol, rydym ni’n dweud wrthyn nhw nad yw’n ymwneud â chael y dyfynbris rhataf posibl yn unig, mae'n ymwneud â sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cael ei gadw yn yr economi leol.
Rwy'n falch bod Adam Price wedi codi’r cwestiwn hwn. Dim ond chi allai wneud i Corbyn a May swnio fel grŵp canu gwerin o’r 1960au, Adam. Byddai'n well gen i ganolbwyntio ar y mater bwyd a diod y soniodd y Prif Weinidog amdano wrth eich ateb. Rwy’n cytuno â chi, Brif Weinidog, fod gan Gymru stori wych i'w hadrodd o ran ein bwyd a diod cartref, ac rydych chi’n iawn i dynnu sylw at labelu fel arf pwysig. A fyddech chi’n cytuno â mi bod gwyliau bwyd a modelau fel hynny hefyd yn ffordd bwysig iawn i ni werthu cynnyrch o Gymru, nid yn unig i ddefnyddwyr yng Nghymru, fel y dywedodd cwestiwn Adam Price yn wreiddiol, ond hefyd i ddefnyddwyr o Loegr sy’n dod dros y ffin?
Mae’r Fenni, rwy'n siŵr, yn uchel ei pharch fel gŵyl fwyd, fel y bydd ef yn gwybod. Ond mae'n iawn, gan fod y digwyddiadau yn arddangos cynnyrch o Gymru. Roedd y neuadd fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru, ar un adeg, yn rhy fach. Cafodd ei hailadeiladu ac mae bellach yn rhy fach eto yn ôl pob tebyg. Mae hynny’n arwydd o lwyddiant diwydiant bwyd a diod Cymru o ran ei arallgyfeirio, ei amrywiad, a'r ffaith fod cynifer o'r busnesau a sefydlwyd yn ystod y degawd diwethaf yn dal i fod yno ac yn dal i allu mynd i mewn i'r archfarchnadoedd. Mae nifer o'r archfarchnadoedd wedi newid eu meddyliau hefyd. Er y bu’n well ganddyn nhw brynu gan gyflenwyr mawr yn y gorffennol, maen nhw wedi datblygu mwy o ddiddordeb mewn cyflenwyr llai ac mewn cynnyrch lleol, sy'n rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu'n fawr. Ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei osgoi yn fwy na dim arall yw i’n marchnad fwyaf, sef Ewrop, naill ai gael ei chau i ni neu i’r telerau masnachu â’r farchnad honno fod yn llai manteisiol i ni. Ni fydd yr Unol Daleithiau fyth yn cymryd lle’r farchnad Ewropeaidd. Mae'r Unol Daleithiau yn warchodol iawn pan ddaw i amaethyddiaeth. Felly, mae cadw gallu ffermwyr Cymru i werthu ar delerau presennol y farchnad Ewropeaidd yn gwbl hanfodol i ddyfodol ffermio yng Nghymru.