Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 10 Ionawr 2017.
Mae yna effaith, achos mae yna gyfnod o amser lle, ar ôl y cyfnod hwnnw, nid yw’n bosibl dweud bod dofednod yn ‘free range’, achos y ffaith eu bod nhw wedi cael eu cadw i mewn. Rŷm ni yn gwybod hynny, ac rŷm ni’n gwybod efallai beth fyddai’r effaith ar y rhai sy’n cadw dofednod. Ar hyn o bryd, felly, beth sy’n hollbwysig yw ein bod ni’n sicrhau bod pethau’n dal fel maen nhw er mwyn rheoli’r clwy ei hunan. Ond, wrth gwrs, rŷm ni yn deall beth yw’r sefyllfa ynglŷn â ffermwyr dofednod os byddai hyn yn parhau yn y pen draw.