1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2017.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achosion o ffliw adar yng Nghymru? OAQ(5)0351(FM)
Mae'n fater o bryder difrifol, wrth gwrs. Mae gennym ni hanes cryf o reoli achosion o glefydau anifeiliaid. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei datganiad llafar ar ffliw adar y prynhawn yma.
Edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw yn ddiweddarach heddiw. Mae’n wir, yn ystod gwyliau'r Nadolig, bod chwiwell—math o hwyaden yw honno, i’r rhai nad ydynt yn gwybod—a laniodd yng nghanolfan gwlyptir adar y dŵr Llanelli. Hoffwn ganmol yn y fan yma y camau a gymerwyd ar unwaith gan y ganolfan ieir gwlyptir honno i gau eu drysau i'r cyhoedd am naw diwrnod oherwydd, o ganlyniad i hynny, rwy’n siŵr eu bod wedi helpu i leihau lledaeniad y ffliw adar hwnnw yn yr ardal. Rydym ni yn gwybod, fodd bynnag, ei fod wedi lledaenu, ac y bu haint yn yr ardal honno. Yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wybod yw nad yw adar yn deall ffiniau, a byddwn yn credu efallai y byddai’n ddoeth i ni gymryd sylw o’r cyfnod o dywydd oer iawn yn nwyrain Ewrop ar hyn o bryd, a allai, ac a fydd yn ôl pob tebyg yn fy marn i, yn arwain at fwy o adar yn mudo i chwilio am fwyd ymhellach i'r de, atom ni—y gorllewin yw hynny, wrth gwrs. Fy nghwestiwn i fydd, a byddaf yn ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddarach yn ôl pob tebyg, sut yr ydym ni’n mynd i ymateb i hynny a sut yr ydym ni’n mynd i ddweud wrth y cyhoedd i fod yn ymwybodol o'r adar hynny sydd newydd fudo a allai o bosibl fod yn ffynhonnell o ragor o haint yma.
Rydym ni’n gweithio, wrth gwrs, gyda Llywodraethau eraill Prydain Fawr er mwyn cymryd y camau priodol. Byddwn yn annog unrhyw aelodau o'r cyhoedd i hysbysu am adar dŵr gwyllt sydd wedi marw—elyrch, gwyddau, hwyaid ac yn y blaen, neu wylanod, a dweud y gwir—i linell gymorth Prydain Fawr. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn cael ei diweddaru'n barhaus gyda chyngor a byddwn yn annog pawb sy’n cadw dofednod a phawb sy'n ymwneud â gweithio yn yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd i edrych ar y wefan yn aml. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn darparu mwy o wybodaeth maes o law y prynhawn yma.
Brif Weinidog, yn sgil yr achosion ffliw adar yma, pa waith ychwanegol ŷch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i asesu’r effaith y gall y clefyd yma ei chael ar y sector dofednod?
Mae yna effaith, achos mae yna gyfnod o amser lle, ar ôl y cyfnod hwnnw, nid yw’n bosibl dweud bod dofednod yn ‘free range’, achos y ffaith eu bod nhw wedi cael eu cadw i mewn. Rŷm ni yn gwybod hynny, ac rŷm ni’n gwybod efallai beth fyddai’r effaith ar y rhai sy’n cadw dofednod. Ar hyn o bryd, felly, beth sy’n hollbwysig yw ein bod ni’n sicrhau bod pethau’n dal fel maen nhw er mwyn rheoli’r clwy ei hunan. Ond, wrth gwrs, rŷm ni yn deall beth yw’r sefyllfa ynglŷn â ffermwyr dofednod os byddai hyn yn parhau yn y pen draw.
Diolch i’r Prif Weinidog.