Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 10 Ionawr 2017.
Roeddwn yn meddwl tybed a allem gael datganiad ar ymchwiliad eich Llywodraeth i Sandfields Newydd Aberafan ac Afan (NSA Afan). Dim ond cael ar ddeall oddi wrth brif weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot—gwelais e-bost a anfonwyd at arweinydd ein grŵp—fod ymchwiliad parhaus wrthi’n cael ei gynnal i achosion o afreoleidd-dra ariannol a bod arian cyllido wedi ei atal ar hyn o bryd. Mae’r Llywodraeth—eich swyddfa archwilio chi yn y Llywodraeth—yn ymchwilio i'r sefyllfa.
Roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddarparu datganiad yn ystod amser y Llywodraeth ar yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn difrif, beth mae hynny'n ei olygu, a sut y gellir cyfathrebu â phobl yn y gymuned, efallai, i geisio lleddfu rhai o'r pryderon a allai fod ganddynt, oherwydd, efallai na fydd rhai o'r gwasanaethau hynny yn gallu cael eu cyflenwi gan y sefydliad penodol hwn—Cymunedau yn Gyntaf, os yw'r ymchwiliad yn un hirsefydlog. Ac rwyf o’r farn ei fod yn rhywbeth y dylai fod pob Aelod Cynulliad wedi cael gwybod amdano, ac nid y cynghorwyr yn unig. Felly, hoffwn i ddeall pam na chyfathrebodd y Llywodraeth hefyd â ni, o ystyried bod hwn yn fater eithaf pwysig. Rydym wedi cael problemau o’r blaen, ac nid wyf yn dweud—. Ar hyn o bryd, mae ymchwiliad yn mynd rhagddo, ond rydym yn gwybod yn y Siambr hon fod problemau wedi bod yn y gorffennol gyda gwahanol sefydliadau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru. Gobeithio nad dyna yw’r sefyllfa yn yr achos hwn, ond os dyna ydyw, mae angen i ni gael gwybod, ac mae angen rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad beth sy’n digwydd.