Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 10 Ionawr 2017.
Wel, diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol i honiadau ynghylch camddefnydd posibl o arian cyhoeddus yn NSA Afan, rydym wedi atal arian cyllido tra cynhelir mwy o ymchwiliadau. Rydym yn archwilio ffyrdd o ddiogelu darpariaeth gwasanaethau, yr ydych chi’n ei godi. Ond mae'n bwysig inni gyflawni ein dyletswydd i amddiffyn arian trethdalwyr rhag cael ei ddefnyddio, o bosibl, mewn modd amhriodol. Hefyd, mae hyn yn destun ymchwiliad, ac felly, byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach ar y mater hwn.