Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 10 Ionawr 2017.
Mae’r ffaith bod pobl yn byw yn hirach, wrth gwrs, yn rhywbeth i'w ddathlu, ond, wrth i ddisgwyliad oes wella, rydym yn gwybod y bydd mwy o bobl yn datblygu dementia. Mae dementia yn un o'r heriau gofal iechyd mwyaf sy’n wynebu ein cenhedlaeth ni. Yr amcangyfrif yw bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ar hyn o bryd, er nad ydynt i gyd wedi cael diagnosis. Yn amlwg, mae effaith dementia yn y gymdeithas yn llawer ehangach pan ein bod yn ystyried gofalwyr ac aelodau o'r teulu.
Mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan bobl sy'n byw gyda dementia neu bobl y mae dementia yn effeithio arnynt, yn union fel y bobl a gwrddais â nhw ddoe yn Oldwell Court, oherwydd rydym eisiau deall beth sydd bwysicaf iddynt. Mae’n rhaid inni gael ffordd glir ymlaen i gefnogi pobl â dementia a’r bobl sy'n agos atynt. Mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu eisoes wedi eu cynnal ledled Cymru i glywed gan bobl sy'n byw gyda dementia, aelodau o'u teuluoedd, gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, mudiadau gwirfoddol a phobl eraill sydd â diddordeb mewn dementia. Gwnaethpwyd hynny mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer a’r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso ar gyfer Dementia, a elwir fel arfer yn DEEP, sydd eisoes wedi ymgysylltu â dros 400 o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn bersonol. Rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn; mae eu barn a'u profiadau wedi bod yn allweddol wrth greu'r cynllun drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.
Mae'n werth cydnabod na fydd gan unrhyw ddau o bobl â dementia, na’r bobl sy'n eu cefnogi, anghenion sy’n union yr un fath. O'r gwaith cyn-ymgynghori a gynhaliwyd eisoes, mae pobl wedi dweud wrthym fod angen i wasanaethau fod yn seiliedig ar werthoedd a hawliau, ac wedi’u teilwra i'r unigolyn. Mae angen i’r cymorth hwnnw fod yn hyblyg i’r gwahanol anghenion ar wahanol gamau o'r cyflwr. Mae’r teimladau hynny wedi cael eu hadleisio mewn nifer o adroddiadau, gan gynnwys adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, 'Dementia: mwy na dim ond colli cof' ac ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg i'r Gymraeg mewn gofal sylfaenol, 'Fy Iaith, Fy Iechyd'. Mae'r materion a nodwyd gan yr adroddiadau hyn yn cynnwys diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, a'r angen i gynnig asesiadau a gofal dementia drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r angen i sicrhau mynediad at gymorth, cefnogaeth a gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig hefyd wedi cael sylw mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan y Gymdeithas Alzheimer.
Rydym, a dweud y gwir, er hynny, wedi gwneud cynnydd mawr tuag at wireddu ein hymrwymiad i greu cenedl ddementia gyfeillgar yma yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod, wrth gwrs, bod mwy i'w wneud. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi nifer o feysydd blaenoriaeth ar ddementia a'r camau y byddem yn eu cymryd i roi sylw iddynt. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, camau gweithredu i wella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae'r cynllun gweithredu drafft yn adeiladu ar y gwaith hwn ac mae'n cynnwys nifer o themâu yr ydym yn cynnig y bydd angen gweithredu pellach yn eu cylch dros y pum mlynedd nesaf. Ond, i sicrhau bod y cynllun yn dal i fod yn berthnasol ac wedi'i dargedu, caiff ei adolygu'n ffurfiol a'i adnewyddu ar ôl tair blynedd, a bydd y cynllun terfynol yn cynnwys rhagor o fanylion am amserlenni, enghreifftiau o arfer nodedig a disgwyliadau ar gyfer cyflawni.
Mae'r themâu wedi eu strwythuro gan ddefnyddio dull llwybrau, a amlygwyd yn gryf o'r ymgysylltu yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn. Mae’r meysydd gweithredu arfaethedig yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o sut i helpu pobl i leihau eu risg o ddatblygu dementia, neu ohirio ei ddechrau; codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia drwy ehangu Ffrindiau Dementia a chymunedau a sefydliadau cefnogi dementia; sicrhau bod dementia yn cael ei gydnabod yn briodol a bod asesiadau a diagnosis amserol ar gael i bobl; cymorth a thriniaeth gynnar i bobl sydd â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd, ar ôl diagnosis; a mwy o gymorth ar gael, boed hynny yng nghartref person, yn yr ysbyty, mewn cartref gofal neu hyd yn oed mewn canolfan ddydd. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys adran sy'n cefnogi gweithredu. Mae hyn yn cynnwys pwyslais parhaus ar addysg a hyfforddiant, gan ddilyn yr argymhellion a gynhwysir yn 'Gwaith Da: Fframwaith Dysgu a Datblygu ar gyfer Dementia i Gymru', a lansiwyd y llynedd yn etholaeth Hefin David, a hefyd cefnogaeth barhaus i ymchwil i ddementia.
Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn para am dri mis, gan ddiweddu ar 3 Ebrill. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn dementia i rannu eu barn. Hoffem glywed gan y gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau, grwpiau ffydd a diddordebau eraill. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y credwn y gallwn adeiladu Cymru sy'n wirioneddol ddementia gyfeillgar a brwydro yn erbyn problemau eraill, megis unigrwydd ac arwahanrwydd. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ein helpu i ddefnyddio profiadau ac arbenigedd pobl i ddatblygu a chyflwyno cynllun gweithredu cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Rwy’n hyderus y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod y gwaith a wnaed hyd yma. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn cynifer o bobl â phosibl, i sicrhau bod ein cynllun terfynol yn uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy, a’n bod yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, i barhau i wneud cynnydd tuag at wneud Cymru yn genedl wirioneddol ddementia gyfeillgar.