– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 10 Ionawr 2017.
Felly, yr ydym yn symud ymlaen at yr eitem nesaf: y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r ymgynghoriad ynghylch cynllun gweithredu strategol drafft ar gyfer dementia yng Nghymru. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Ym mis Hydref, cyflwynais i'r Cynulliad ail gynllun cyflawni ein strategaeth 10 mlynedd ar draws y Llywodraeth, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Lansiwyd hwnnw ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, 10 Hydref. Un cam gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni yw datblygu cynllun gweithredu strategol ar gyfer dementia. Mae hwn yn ymateb i ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen'. Mae'n uchelgais clir i’r Llywodraeth hon i wneud Cymru yn genedl ddementia gyfeillgar. Rwy'n falch o wneud cynnydd pellach o fewn blwyddyn gyntaf y tymor Cynulliad hwn. Lansiais yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun gweithredu strategol cenedlaethol cyntaf ar gyfer dementia i Gymru yn Oldwell Court yng Nghaerdydd ddoe.
Mae’r ffaith bod pobl yn byw yn hirach, wrth gwrs, yn rhywbeth i'w ddathlu, ond, wrth i ddisgwyliad oes wella, rydym yn gwybod y bydd mwy o bobl yn datblygu dementia. Mae dementia yn un o'r heriau gofal iechyd mwyaf sy’n wynebu ein cenhedlaeth ni. Yr amcangyfrif yw bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ar hyn o bryd, er nad ydynt i gyd wedi cael diagnosis. Yn amlwg, mae effaith dementia yn y gymdeithas yn llawer ehangach pan ein bod yn ystyried gofalwyr ac aelodau o'r teulu.
Mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan bobl sy'n byw gyda dementia neu bobl y mae dementia yn effeithio arnynt, yn union fel y bobl a gwrddais â nhw ddoe yn Oldwell Court, oherwydd rydym eisiau deall beth sydd bwysicaf iddynt. Mae’n rhaid inni gael ffordd glir ymlaen i gefnogi pobl â dementia a’r bobl sy'n agos atynt. Mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu eisoes wedi eu cynnal ledled Cymru i glywed gan bobl sy'n byw gyda dementia, aelodau o'u teuluoedd, gofalwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, mudiadau gwirfoddol a phobl eraill sydd â diddordeb mewn dementia. Gwnaethpwyd hynny mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer a’r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso ar gyfer Dementia, a elwir fel arfer yn DEEP, sydd eisoes wedi ymgysylltu â dros 400 o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn bersonol. Rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn; mae eu barn a'u profiadau wedi bod yn allweddol wrth greu'r cynllun drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.
Mae'n werth cydnabod na fydd gan unrhyw ddau o bobl â dementia, na’r bobl sy'n eu cefnogi, anghenion sy’n union yr un fath. O'r gwaith cyn-ymgynghori a gynhaliwyd eisoes, mae pobl wedi dweud wrthym fod angen i wasanaethau fod yn seiliedig ar werthoedd a hawliau, ac wedi’u teilwra i'r unigolyn. Mae angen i’r cymorth hwnnw fod yn hyblyg i’r gwahanol anghenion ar wahanol gamau o'r cyflwr. Mae’r teimladau hynny wedi cael eu hadleisio mewn nifer o adroddiadau, gan gynnwys adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, 'Dementia: mwy na dim ond colli cof' ac ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg i'r Gymraeg mewn gofal sylfaenol, 'Fy Iaith, Fy Iechyd'. Mae'r materion a nodwyd gan yr adroddiadau hyn yn cynnwys diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, a'r angen i gynnig asesiadau a gofal dementia drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r angen i sicrhau mynediad at gymorth, cefnogaeth a gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig hefyd wedi cael sylw mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan y Gymdeithas Alzheimer.
Rydym, a dweud y gwir, er hynny, wedi gwneud cynnydd mawr tuag at wireddu ein hymrwymiad i greu cenedl ddementia gyfeillgar yma yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod, wrth gwrs, bod mwy i'w wneud. Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi nifer o feysydd blaenoriaeth ar ddementia a'r camau y byddem yn eu cymryd i roi sylw iddynt. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ar leihau'r risg o ddementia, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, camau gweithredu i wella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod cymorth ar gael i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae'r cynllun gweithredu drafft yn adeiladu ar y gwaith hwn ac mae'n cynnwys nifer o themâu yr ydym yn cynnig y bydd angen gweithredu pellach yn eu cylch dros y pum mlynedd nesaf. Ond, i sicrhau bod y cynllun yn dal i fod yn berthnasol ac wedi'i dargedu, caiff ei adolygu'n ffurfiol a'i adnewyddu ar ôl tair blynedd, a bydd y cynllun terfynol yn cynnwys rhagor o fanylion am amserlenni, enghreifftiau o arfer nodedig a disgwyliadau ar gyfer cyflawni.
Mae'r themâu wedi eu strwythuro gan ddefnyddio dull llwybrau, a amlygwyd yn gryf o'r ymgysylltu yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn. Mae’r meysydd gweithredu arfaethedig yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o sut i helpu pobl i leihau eu risg o ddatblygu dementia, neu ohirio ei ddechrau; codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia drwy ehangu Ffrindiau Dementia a chymunedau a sefydliadau cefnogi dementia; sicrhau bod dementia yn cael ei gydnabod yn briodol a bod asesiadau a diagnosis amserol ar gael i bobl; cymorth a thriniaeth gynnar i bobl sydd â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd, ar ôl diagnosis; a mwy o gymorth ar gael, boed hynny yng nghartref person, yn yr ysbyty, mewn cartref gofal neu hyd yn oed mewn canolfan ddydd. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys adran sy'n cefnogi gweithredu. Mae hyn yn cynnwys pwyslais parhaus ar addysg a hyfforddiant, gan ddilyn yr argymhellion a gynhwysir yn 'Gwaith Da: Fframwaith Dysgu a Datblygu ar gyfer Dementia i Gymru', a lansiwyd y llynedd yn etholaeth Hefin David, a hefyd cefnogaeth barhaus i ymchwil i ddementia.
Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn para am dri mis, gan ddiweddu ar 3 Ebrill. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn dementia i rannu eu barn. Hoffem glywed gan y gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau, grwpiau ffydd a diddordebau eraill. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y credwn y gallwn adeiladu Cymru sy'n wirioneddol ddementia gyfeillgar a brwydro yn erbyn problemau eraill, megis unigrwydd ac arwahanrwydd. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ein helpu i ddefnyddio profiadau ac arbenigedd pobl i ddatblygu a chyflwyno cynllun gweithredu cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Rwy’n hyderus y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod y gwaith a wnaed hyd yma. Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn cynifer o bobl â phosibl, i sicrhau bod ein cynllun terfynol yn uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy, a’n bod yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, i barhau i wneud cynnydd tuag at wneud Cymru yn genedl wirioneddol ddementia gyfeillgar.
Diolch yn fawr iawn. Angela Burns.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o weld bod ymgynghoriad cyhoeddus i lywio'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer dementia. Hoffwn gyfeirio at y paragraff lle’r ydych yn dechrau drwy ddweud:
Mae’r ffaith fod pobl yn byw yn hirach yn rhywbeth i'w ddathlu.
Yn fy marn i, yn rhy aml, nid yw'r rhethreg o gwmpas dementia, y rhethreg o gwmpas pobl hŷn, yn gadarnhaol: maent yn blocio gwelyau, maent yn dreth ar wasanaethau cymdeithasol, ac mae dementia yn rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd i bawb ac mae'n mynd i fod yn gwbl echrydus. Er ein bod, wrth gwrs, yn gwybod y dylid clodfori pobl hŷn, eu bod yn rhan hanfodol o'n cymuned, a bod dementia, gyda chymorth, os caiff ei ddal yn gynnar, ac os rhoddir y triniaethau priodol, mewn gwirionedd yn gallu cael ei arafu ac weithiau ei ysgafnhau, ac y gall pobl fynd ymlaen i fyw bywydau da iawn er bod ganddynt ddementia—yn amlwg nid pawb, ond, er hynny, rhai pobl. Felly, dylid dathlu hynny.
Dim ond tri chwestiwn sydd gennyf oherwydd rwy’n hollol siŵr y bydd gan Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia nifer eithaf sylweddol o gwestiynau i chi, ac rwy’n falch iawn o fod yn aelod o'r grŵp hwnnw. Pan welwch ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, a wnewch chi sicrhau bod gan y cynllun gweithredu ganlyniadau clir a mesuradwy, a chyfres ddata gyson? Rwy'n meddwl bod hyn yn hynod o bwysig oherwydd un broblem allweddol o ran sicrhau atebolrwydd tryloyw yw bod mesuriadau yn newid dros amser, bod paramedrau’n gallu mynd yn amwys, a bod y tryloyw’n gallu troi’n anhryloyw. Rwy’n credu, os ydym eisiau gwybod pa un a yw’r cynllun gweithredu hwn yn mynd i weithio a pharhau i weithio dros y degawdau nesaf, ei bod yn hanfodol bwysig bod gennym gyfres glir a chyson o ganlyniadau a phethau i’w mesur, wrth symud ymlaen.
Fy ail bwynt yw, wrth edrych ar yr ymgynghoriad, nad yw'n cynnig llawer ar fodelau darparu. Felly, roeddwn yn awyddus i gael rhywfaint o ddealltwriaeth gennych ynglŷn ag a fyddwch yn ceisio dibynnu’n eithaf sylweddol ar gydgynhyrchu â mudiadau trydydd sector; ynteu a fyddwch chi’n ceisio cynyddu’r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru drwy, dyweder, gynyddu nifer y gweithwyr cymorth; ynteu a fyddwch chi’n rhoi llawer o'r cyfrifoldeb hwn i faes iechyd neu wasanaethau cymdeithasol neu gynghorau lleol; ynteu a fyddwch chi’n ceisio cyflawni drwy'r byrddau partneriaeth?
Yn olaf, o ystyried difrifoldeb y mater o ddementia o ran y ffaith ei fod nawr yn un o brif laddwyr pobl yng Nghymru, a gan gofio ei fod hefyd yn un o'r prif resymau pam mae dioddefwyr a gofalwyr yn dioddef cymaint o arwahanu ac unigrwydd, sydd wrth gwrs yn effeithio mwy fyth ar eu lles meddyliol a chorfforol, a ydych chi’n meddwl bod y targedau sydd gennych yn y cynllun yn ddigon uchelgeisiol? Nid ydynt yn ein gwneud yn gydradd â gwledydd eraill. Rwy’n sylweddoli ei bod bob amser yn anodd mynd o un lefel i'r llall, ond 3 y cant o gynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn—a yw hynny o ddifrif yn mynd i’n galluogi i gyrraedd lle yr hoffem fod yn ddigon cyflym, ynteu a allwch chi geisio gwella’r targedau hynny? Mae dementia yn lladd mwy o bobl na bron unrhyw glefyd arall yng Nghymru, ac mae gwir angen inni afael ynddi i roi sylw iddo.
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau, ac rwy’n cytuno: fel y dywedais yn fy natganiad, dylem ddathlu'r ffaith bod mwy ohonom yn byw yn hirach. Ein her bob amser yw: sut yr ydym yn byw’n iach ac yn byw’n dda am fwy o amser hefyd? Rhan o'r pwynt a wnaethoch yn gynharach am leihau ein risg neu ohirio dechrau dementia yw bod llawer iawn o dystiolaeth ynglŷn â sut y gallwn helpu ein hunain i fyw yn hirach. Buom yn siarad llawer yn y tymor diwethaf—ond nid cymaint y tymor hwn—am y ffaith bod astudiaeth Caerffili yn dangos llawer iawn inni, nid yn unig am y ddamcaniaeth, ond am realiti ymarferol yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud i wneud dewisiadau gwahanol ynghylch sut yr ydym yn byw ein bywydau, i fyw bywyd iachach, i leihau ein risg o gael dementia neu, yn wir, i ohirio ei ddechreuad. Ceir hefyd ffactorau iechyd cyhoeddus pwysig mewn amrywiaeth eang o gyflyrau eraill hefyd, sy’n ymwneud â’r ffordd y gallwn leihau’r heriau penodol hynny i ni, nid dim ond er lles iechyd y genedl, ond ar gyfer unigolion hefyd. Ac mae hynny’n rhan o'r hyn yr hoffem symud ato wrth ysgrifennu’r cynllun hwn: sefyllfa lle mae gwahanol gyrff yn sôn am yr un negeseuon am yr hyn y gallai ac y dylai pob un ohonom ei wneud, yn ogystal â'r hyn yr ydym wedyn yn ei ddisgwyl gan ein gilydd yn ein cymunedau, ond hefyd gan wasanaethau cyhoeddus a'r sector preifat yn ogystal.
Ac rwy’n credu bod hyn yn mynd yn ôl at y pwynt a wnaethoch am y camau gweithredu ar gyfer gwahanol bartneriaid, oherwydd bydd pethau i’r gwasanaeth iechyd eu gwneud. Roeddem yn sôn am gyfraddau diagnosis, felly, yn amlwg mae’n rhaid i amrywiaeth o bobl fod yn rhan fawr o hynny, ond hefyd ym maes gofal cymdeithasol, yn y gofal a'r ddarpariaeth a'r ffordd yr ydym yn disgwyl i'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant gael ei rhoi ar waith yn raddol, mae adrannau yn y cynlluniau gweithredu sy’n destun ymgynghoriad am yr hyn yr ydym yn disgwyl ei weld yn digwydd. Wrth i’r Ddeddf honno gael ei rhoi ar waith, bydd y trydydd sector nid yn unig yn hyrwyddwyr ac eiriolwyr, byddant yn darparu gwasanaethau—maent wedi’u comisiynu i ddarparu’r gwasanaethau hynny mewn gwahanol rannau o'r sector. Ond mae llawer iawn yn y fan yma, fel yr wyf yn ei ddweud, yn ymwneud â ni fel cymdeithas ac fel cenedl, a beth fydd pob un ohonom yn ei wneud, fel cyflogwyr unigol yn yr ystafell hon, gyda’n staff a'r ffordd yr ydym i gyd yn ymdrin â’n hetholwyr, y ffordd yr ydym yn siarad, i'r ffordd y mae busnesau a'r cymunedau ehangach mewn gwirionedd yn wirioneddol gyfeillgar ac yn deall, wyddoch chi, y nifer sylweddol o bobl sy'n byw gyda ni ar hyn o bryd ac a fydd yn y dyfodol hefyd.
Felly, nid dim ond un gyfres o bartneriaid yw hyn; mae hynny’n mynd yn ôl i sut y bydd gennym ddata cyson a mesurau ar gyfer llwyddiant. Bydd rhai o'r rhain yn haws eu mesur nag eraill. Mae sut y mae pobl yn teimlo eu bod yn cael cymorth, er enghraifft, yn anoddach ei fesur yn yr un ffordd ag y gallai fod arnom eisiau mesur, er enghraifft, cyfraddau diagnosis a chael data caletach am yr hyn sy'n cael ei wneud mewn gwahanol rannau o hynny. Ond hoffwn weld sylwadau am yr hyn sydd yn y cynllun a sut y mae gennym wedyn fesurau ystyrlon, oherwydd rydym yn gwybod—ac mae hyn yn bod yn berffaith onest—ein bod i gyd, yn y gorffennol, wedi ymrwymo i ddweud y dylai'r Llywodraeth, y dylai'r Llywodraeth fesur gwahanol rannau o weithgaredd, ond nid ydynt bob amser yn dweud llawer wrthym sy'n ddefnyddiol, ac rwyf wir yn meddwl, yn y pen draw, os ydych chi eisiau rhywbeth sydd, fel y dywedais, yn realistig ac yn uchelgeisiol ar yr un pryd, mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’r mesurau sydd gennym a'r ffordd yr ydym yn ceisio cynhyrchu’r wybodaeth honno fod yn ystyrlon ac yn ddefnyddiol. Fel arall, gallem fesur gweithgarwch mewn ffordd sy'n hawdd dweud ein bod yn mesur rhywbeth ond nad yw wir yn dweud dim byd o werth wrthym.
Ac ar eich pwynt olaf ynglŷn â diagnosis a'r 3 y cant o gynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, rwy’n credu bod hynny yn eithaf uchelgeisiol, a dweud y gwir, ac os ydym yn ei gyflawni, byddwn yn gweld nifer cynyddol o bobl yn dod i mewn i wasanaethau ac yn cael gwasanaethau mewn gwirionedd a, gobeithio, yn cael mwy o gymorth. Ond, os oes gan bobl farn wahanol, dylent ddweud hynny yn ystod yr ymgynghoriad. Ac mae wedyn yn fater hefyd o fod ag uchelgais, fel y dywedais, sy’n gyraeddadwy. Yr hyn nad wyf eisiau ei wneud yw gosod lefel o uchelgais a all edrych yn wych ar bapur, ond yna gweld nad oes gennym y gwasanaethau ar y raddfa iawn i gyflawni a’n bod yn rhoi ein staff a’n gwasanaethau mewn sefyllfa lle maent yn debygol o fethu, ac yn amlwg ni all hynny fod yn iawn. Mae’n rhaid i hyn fod yn fater o sut yr ydym yn gwella ymhellach yr her sylweddol, o ddifrif a chyfredol hon i iechyd, gofal cymdeithasol a’n cenedl, her a fydd yn cynyddu yn y dyfodol.
Rwy’n falch bod strategaeth gennym ni rŵan y gallwn ni roi sylw iddi hi drwy’r ymgynghoriad a’i chryfhau hi ac adeiladu ar yr hyn sydd gennym ni drwy brofiadau y bobl hynny sydd wirioneddol yn gwybod beth sydd angen ei wneud, sef teuluoedd y rheini sydd â dementia. Ac rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf ohonom ni yma yn y Siambr wedi clywed digonedd o straeon torcalonnus am bobl sy’n teimlo eu bod nhw’n methu â chael y gofal maen nhw’n teimlo a ddylai fod yn rhywbeth cwbl sylfaenol, sy’n haeddiannol i rywun sydd â dementia: y ddynes y bu gorfod iddi aros ar ward ysbyty am fisoedd, efo haint digon syml, oherwydd bod yna fethiant i roi pecyn gofal addas ar ei chyfer hi yn ei chymuned; y gofalwyr sy’n methu â threfnu gofal dros dro am ychydig o amser er mwyn cael rhywfaint o orffwys; y rheini sy’n teimlo nad ydy’r math o ofal dydd angenrheidiol ar gael iddyn nhw. A lleisiau’r bobl yma, y teuluoedd a’r rhai sydd â dementia eu hunain, yr wyf am eu clywed yn dod drwodd yn y strategaeth derfynol yn dilyn yr ymgynghoriad yma, ac rwy’n siŵr bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â hynny.
Rhyw bum cwestiwn oedd gennyf i. Mae dau ohonyn nhw wedi cael eu gofyn eisoes gan Angela Burns, felly mi wnaf i eu gofyn nhw fel cwestiynau rhethregol beth bynnag, er ein bod ni’n gwybod beth sydd ym meddwl yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae’n bwysig, onid ydy, cael cydbwysedd rhwng bod yn uchelgeisiol a bod yn realistig, ond mi wnaf innau ofyn: a ydy’r 3 y cant yma o gynnydd mewn diagnosau yn flynyddol yn rhywbeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn wirioneddol yn teimlo na ellir gwella arno fo gan na fydd hynny ond yn mynd â ni ymhen rhyw bum mlynedd i’r sefyllfa lle mae Gogledd Iwerddon rŵan?
Y cwestiwn rhethregol arall ydy: sut mae mesur y llwyddiant hwn yn y pen draw? Oherwydd, y gweithredu sy’n bwysig yn hyn a’r effaith y bydd strategaeth yma yn ei chael ar bobl ar hyd a lled Cymru. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn glir yn ei feddwl y bydd o’n gallu edrych yn ôl a dweud, ‘Ydy, mae hyn wedi gweithio’, neu ‘Dydy hyn ddim’?
Tri chwestiwn, o bosibl, y gallem ni gael atebion penodol iddyn nhw: a oes yna fwriad i ddatblygu ymhellach yr ochr ataliol, er enghraifft, i fuddsoddi go iawn mewn cyfleon ar gyfer, er enghraifft, ymarfer corff, er mwyn oedi neu leihau symptomau dementia, ac nid dim ond tynnu sylw a chodi ymwybyddiaeth o’r math y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ei grybwyll ychydig o funudau yn ôl? Ar ddiagnosis yn y Gymraeg, fel y Gymdeithas Alzheimer’s, rydw i’n croesawu’n fawr y cynllun a’r bwriad i wella pethau rhywsut, ond tybed pa bryd y cawn ni, gan y Llywodraeth yn ogystal â gan eraill, fel rhan o’r ymgynghoriad yma, fwy o fanylion am yr hyn sydd dan sylw?
Felly, hefyd, yn olaf, yr elfennau gwledig o ofal dementia. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn disgwyl y bydd y strategaeth derfynol yma ar ddementia yn rhoi darlun llawnach a chliriach i ni o’r materion penodol sy’n deillio o anghenion gofal dementia yng Nghymru wledig? Fel rydw i’n dweud, rwy’n croesawu’r ffaith bod gennym ni rŵan y strategaeth ddrafft yma i weithio ohoni hi; yr her, wrth gwrs, ydy ein bod ni yn cael strategaeth yn y pen draw sydd yn mynd i allu gwireddu’r geiriau cynnes iawn yr ydym ni i gyd yn gallu cytuno arnyn nhw ar wneud Cymru yn gyfeillgar i ddementia yn wirioneddol.
Diolch am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Dechreuaf â’ch pwyntiau olaf, ynglŷn â Chymru wledig, wrth gwrs. Rwy'n disgwyl y bydd sylwadau gan bobl o bob cwr o Gymru, yng Nghymru drefol a gwledig, am wirionedd y ddarpariaeth a’r gefnogaeth ar hyn o bryd, a'r hyn yr hoffent ei weld yn y strategaeth ac wrth gyflawni wedyn. Mae rhai pwyntiau yr ydych chi ac Angela Burns wedi eu gwneud, nid yn unig am y weledigaeth sydd gennym, a’r hyn sydd i mewn yma a’r hyn a allai fod i mewn yma neu beidio. Mae'r rheini'n bwyntiau i'w trafod a'u dadlau ac yna, yn y pen draw, bydd yn rhaid inni wneud dewis. Ond mae'n fater o sut y cânt eu cyflawni mewn gwirionedd. Felly, dyna rai o'r pwyntiau ynghylch mesurau llwyddiant a sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth, unwaith eto, a wnaethpwyd yn gyson yn ystod eich cyfraniad chi hefyd.
Byddwch yn gweld mwy o hyn oherwydd mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 3 Ebrill, fel y dywedais. Byddwch wedyn yn gweld ymateb gyda fersiwn terfynol o'r cynllun gweithredu yn cael ei lunio yn ystod y flwyddyn galendr hon, ac yna’n cael ei roi ar waith yn raddol. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gallu gweld bod y sylwadau a wnaethpwyd drwy'r broses ymgynghori yn cael dylanwad gwirioneddol ar yr hyn a gaiff ei weithredu a'i gyflawni yn y pen draw. Rwy’n ailadrodd eto bod yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn dod o’r sgwrs honno ac o wrando ar bobl sy'n byw gyda dementia yn awr. Yn ogystal ag eiriolwyr yn y trydydd sector, mae unigolion eu hunain, eu teuluoedd a'u gofalwyr wedi chwarae rhan wirioneddol yn y broses o lunio’r cynnig ymgynghori presennol a byddwn wrth gwrs yn gwrando arnyn nhw. Rwy'n falch iawn, a dweud y gwir, bod y Gymdeithas Alzheimer yn glir mai ei phrif neges ddoe ar ôl y lansiad oedd bod yn rhaid i bobl sy'n byw gyda dementia gymryd rhan a bod yn rhaid iddyn nhw gael eu clywed, gan ddweud wrth bobl beth yw eu profiad gwirioneddol, a pha un a yw'r ymgynghoriad yn mynd i ystyried hynny yn yr hyn yr ydym wedyn yn ei wneud yn y pen draw.
Ynglŷn â’ch pwynt am atal, wrth gwrs gwnaethom gynhyrchu'r canllawiau 'Dementia: lleihau eich risg mewn 6 cham' ym mis Mai 2015, ac nid fi oedd y Gweinidog Iechyd ar y pryd—rhywun arall oedd. Ond mae yna bwyntiau syml iawn yn y fan yna: y pwyntiau am weithredu nawr, a'r hyn y gallwn ei wneud i leihau ein risg drwy fod yn weithgar, archwilio ein hiechyd yn rheolaidd, rhoi cynnig ar bethau newydd, peidio ag ysmygu, dim ond yfed alcohol yn achlysurol—mae hynny'n her i nifer o Aelodau—a thrwy gadw golwg ar ein pwysau. Mae'r rhain i gyd yn bethau yr ydym yn chwerthin ac yn cellwair amdanynt o bryd i'w gilydd, ond maen nhw mewn gwirionedd yn cael dylanwad gwirioneddol ar ein canlyniadau iechyd yn y pen draw, yn awr ac yn ddiweddarach mewn bywyd hefyd. Felly y neges gyson yr ydym eisiau ei rhoi—ac rwy'n meddwl ei bod yn wirioneddol ddefnyddiol mewn rhai ffyrdd—yw mai dyma’r un mathau o negeseuon ag yr ydym yn eu rhoi ar gyfer amrywiaeth eang o heriau iechyd cyhoeddus eraill. Y gwir fater fydd: a allwn ni ein perswadio ein hunain a phobl yn y wlad, nid dim ond i ddeall beth yw’r negeseuon hynny, ond wedyn sut yr ydym yn ei gwneud yn haws i bobl wneud rhywbeth yn eu cylch? Nid yw'n fater o geisio tynnu’r hwyl allan o fywyd. Mae'n fater o ddweud, 'Gall y pethau hyn wneud gwahaniaeth', a sut yr ydym ni’n mynd i helpu i wneud y dewisiadau iachach hynny yn ddewisiadau haws.
Felly, mae heriau mawr i bob un ohonom, ond rwy'n weddol obeithiol ynghylch lle yr ydym ni ar hyn o bryd, ac o ran ein gallu i sefydlu cynllun sy'n briodol o uchelgeisiol, realistig, a chyraeddadwy. Wrth gwrs, byddwn yn adrodd yn ôl ar ôl tair blynedd ynghylch ble yr ydym ni, i wirio bod yr hyn yr ydym wedi ei wneud yn gwneud synnwyr, ac yna’n gwirio eto ein bod yn dal yn y lle iawn o ran yr hyn yr ydym yn disgwyl i bobl ei wneud, a'r math o gynnydd yr ydym yn ei wneud.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n hynod, hynod o falch ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw ac, fel eraill, rwy’n croesawu'n fawr yr ymrwymiad yr ydych chi wedi’i wneud i sicrhau bod nid yn unig y teuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt, ond y bobl sy'n byw gyda’r cyflwr hefyd yn cael dweud eu dweud yn llawn drwy'r ymgynghoriad hwn. Rwy'n credu mai’r rheini yw’r lleisiau pwysicaf oll: llawer pwysicach na’n lleisiau ni, er ei bod yn bwysig ein bod ni’n dweud ein dweud. Rwy'n credu bod llawer iawn i'w groesawu yn y strategaeth ddrafft hon. Rwy'n credu ei bod yn cynnwys yr holl brif feysydd y byddwn yn meddwl y dylid eu cynnwys.
Hoffwn sôn am un neu ddau o bwyntiau penodol. Y cyntaf yw cyfraddau diagnosis. Nid wyf yn credu bod 3 y cant y flwyddyn yn ddigon uchelgeisiol. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, ni fyddem yn derbyn cyfradd diagnosis o 50 y cant ar gyfer cyflwr fel canser ac ni ddylem ei dderbyn ar gyfer rhywbeth fel dementia. Rwy’n gobeithio, wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, y bydd yn bosibl cyflwyno targed mwy uchelgeisiol ar gyfer y gyfradd diagnosis.
Wrth gwrs, nid yw targedau diagnosis o werth oni bai bod gennych y gwasanaethau cymorth eu hunain ar waith ar gyfer pobl ar ôl iddynt gael y diagnosis, ac rwy'n falch bod y strategaeth yn cydnabod hynny. Yn wir, rydych yn cydnabod y ffaith nad yw triniaethau ffarmacolegol, ac yn y blaen, sy'n gallu arafu cynnydd dementia, ar gael i bobl tan ar ôl i chi gael y diagnosis. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Ond ceir diffyg manylder o hyd ar y mater hwn o weithwyr cymorth: 32 ar hyn o bryd; mae'n amlwg na fydd hynny’n ddigon i Gymru gyfan, yn enwedig os byddwn yn cynyddu cyfraddau diagnosis. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn, drwy'r ymgynghoriad, geisio gwella ar hynny.
Ac yna, yn olaf, ynglŷn â gweithredu, rwy'n falch iawn eich bod wedi bod yn benodol ynghylch y dulliau ar gyfer monitro’r strategaeth o ran y grŵp a gaiff ei sefydlu. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu cael gwybod mwy am sut yn union y bydd hynny'n gweithio ac, yn arbennig, dulliau’r grŵp hwnnw ar gyfer adrodd i'r Llywodraeth.
Roeddwn i hefyd yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith fy mod i’n falch o weld y targedau perfformiad lefel uchel yng nghefn y ddogfen, ond rwy’n credu bod angen mwy o fanylion yn y fan honno hefyd. Hoffwn ofyn ichi ai eich bwriad, drwy'r ymgynghoriad hwn, yw cynnwys rhai cerrig milltir gwirioneddol, o ran niferoedd gwirioneddol, yn yr adran honno fel y gallwn fonitro yn gwbl glir, wrth inni fynd drwy hyn, sut yr ydym yn cyflawni mewn gwirionedd yn erbyn ein hamcanion.
Yn olaf, roeddwn yn awyddus i ddweud, rydym wedi cael y drafodaeth hon ynghylch pa un a ddylech fod yn rhy uchelgeisiol ynteu a ddylech chi fod yn realistig: rwy’n credu y dylem ni fod yn anelu’n uchel iawn gyda'r ddogfen hon. Bydd unrhyw un sydd wedi cael unrhyw gysylltiad uniongyrchol â dementia yn dweud wrthych ei fod yn brofiad sy'n gweddnewid pethau. Rydym yn gwybod bod nifer y bobl sy'n mynd i gael dementia yn ei wneud yn brofiad sy'n gweddnewid pethau i’n gwasanaethau cyhoeddus ac rwy’n meddwl y dylem geisio llunio strategaeth sy’n gweddnewid pethau.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Dechreuaf drwy ateb rhai o'r rhai arbennig o fanwl. Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod yn croesawu'r strategaeth eang. Wrth gwrs, pwynt yr ymgynghoriad yw clywed yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud am y peth a gweld beth y gellir ei wella a'i gyflwyno mewn gwirionedd yn dilyn hynny hefyd.
Yn arbennig, mae eich pwyntiau am y grŵp monitro ar gyflawni, ac i ystyried sut y gallem o bosibl ychwanegu cerrig milltir ar gyfer cynnydd, rydym yn credu ei bod yn bwysig bod pobl yn gallu gweld pa gynnydd sy'n cael ei wneud drwy hynny, boed hynny’n ymwneud â cherrig milltir o fewn y cyflawni ei hun, o fewn y cynllun gweithredu ei hun, ynteu a yw'n ymwneud â’r grŵp monitro a sut y maent yn adrodd yn ôl ar hynny a sut y gellir ei rannu fel bod pobl yn gallu gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud ac nad yw'n cael ei wneud. Oherwydd mae’n bwysig cael gonestrwydd ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud. Oherwydd pe bawn i’n sefyll ar fy nhraed ac yn ceisio honni bod popeth yn iawn ac yn wych a bod pobl yn gweld etholwyr ac yn clywed rhywbeth gwahanol, wel byddai hynny'n anodd iawn, ac nid wyf yn credu y byddai'r ymgynghoriad yn meithrin yr ymddiriedaeth yn yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud, oherwydd hoffem allu siarad am y cynnydd yr ydym yn ei wneud tuag at ymdrin â her gynyddol, sylweddol i bob un ohonom ym mhob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym eisoes wedi gwneud buddsoddiadau, cyn i’r ymgynghoriad ddigwydd, felly mae eich pwynt am weithwyr cymorth wedi’i wneud yn dda ac mae'n un sy’n cael ei wneud yn gyson gan amrywiaeth o bobl. Rydym wedi darparu mwy o arian, er enghraifft, £0.5 miliwn i gefnogi therapi galwedigaethol ac rydym hefyd wedi rhoi £800,000 i weithwyr cymorth mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn ogystal. Mae angen inni ddeall pa effaith y mae hynny'n ei chael ac yna sut y bydd gennym, mewn gwirionedd, fwy o staff sy’n gallu darparu’r cymorth uniongyrchol hwnnw hefyd.
Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi gweld yr adroddiad ddoe, ond roedd—[Anghlywadwy.]—yn sôn am yr hyn a ddigwyddodd pan gafodd aelod o'r teulu ddiagnosis nifer o flynyddoedd ynghynt, pan nad oedd y gefnogaeth honno ar gael iddynt ar adeg y diagnosis. Nawr, mae hynny'n her wirioneddol—i’r unigolyn sydd â dementia gael gwybod ei fod bellach yn wynebu’r her hon, ond hefyd i’r teulu yn ogystal. Felly, mae hynny’n un o'r pwyntiau amlwg i’w gwella. Gallaf ddweud ei bod yn well yn awr nag yr oedd bump neu chwe blynedd yn ôl a mwy, ond ein her yw sut y byddwn yn gwella ymhellach, a sut y mae’r strategaeth hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna'r pwynt am yr hyn yr hoffem ei weld yn digwydd mewn gwirionedd.
Felly, byddwn yn edrych ar ddiagnosis, byddwn yn edrych i weld a yw'r cyfraddau sydd gennym yn ddigon uchelgeisiol ac yn ddigon cyraeddadwy a bod modd i gefnogaeth fynd o'u cwmpas, ond mae gan bobl yn yr ystafell hon ran bwysig iawn i'w chwarae fel eiriolwyr a hyrwyddwyr, ac i godi gwahanol faterion i ni yn y Llywodraeth hefyd. Ond hefyd i beidio â dibrisio profiad pobl yn yr ystafell hon, gan fod llawer o bobl ym mhob plaid wedi cael profiad unigol o ofalu am deulu a ffrindiau, ac felly nid yw hyn yn rhywbeth lle ceir diffyg profiad ac empathi yn yr ystafell hon—nid dim ond gweld etholwyr, ond yn unigol hefyd, a byddwn yn awyddus i weld hynny wedi’i gynnwys yn y ffordd y mae'r ymgynghoriad yn gweithio, ac yna yn y ffordd y byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Ac, wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i ddod i'r grŵp trawsbleidiol ar ryw adeg yn y dyfodol agos i gael deall mwy gan aelodau'r grŵp trawsbleidiol ac ymwelwyr allanol wrth inni symud drwy'r ymgynghoriad.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nod o wneud Cymru yn genedl ddementia gyfeillgar yn un yr ydym i gyd yn ei rannu. Dementia yw prif achos marwolaeth yng Nghymru erbyn hyn, ac mae disgwyl i nifer y bobl y mae dementia yn effeithio arnynt gynyddu gan oddeutu 40 y cant dros y degawd nesaf. Mae croeso mawr iawn i’r ffaith y gall dioddefwyr dementia yng Nghymru, eu teuluoedd a'u gofalwyr gyfrannu yn uniongyrchol a llunio strategaeth ddementia gyntaf Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r ymgynghoriad maes o law.
O ran y strategaeth ddementia ddrafft ei hun, mae gennyf rai cwestiynau sy'n ymwneud â'r mesurau perfformiad lefel uchel. Rydych wedi gosod targed o sicrhau bod dwy ran o dair o ddioddefwyr dementia wedi cael diagnosis ffurfiol erbyn Rhagfyr 2021. Sut y gwnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn, a pham nad yw’n fwy uchelgeisiol, ac ystyried y buddion amlwg a geir drwy ddiagnosis ffurfiol? Mae'r strategaeth yn gosod targed ar gyfer canran y staff GIG sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd sydd wedi'u hyfforddi ym maes gofal dementia: y targed yw tri chwarter y gweithlu erbyn 2019. Pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld bod 100 y cant o staff y GIG wedi cael hyfforddiant ar y lefel briodol o ofal dementia?
Mae Llywodraeth Cymru, yn ddigon teg, eisiau gweld gostyngiad yng nghanran y bobl â dementia sy’n cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth wrthseicotig. Fodd bynnag, nid ydych wedi nodi targed ar gyfer y gostyngiad hwnnw. Digon teg, efallai y bydd angen hyn mewn rhai achosion, ond mae'r holl arbenigwyr yn cytuno na ddylem ni fod yn defnyddio’r meddyginiaethau hyn i drin dementia. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi’n defnyddio canllawiau i sicrhau na chaiff meddyginiaethau gwrthseicotig eu defnyddio oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol?
Rwy’n croesawu’r ffaith bod y strategaeth yn tynnu sylw at y ffaith y gall dementia daro ar unrhyw oedran a sut y gall alcohol gyfrannu at hyn. Mae angen inni addysgu'r cyhoedd yn well am beryglon dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol a niwed i'r ymennydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am y ffaith y gall camddefnyddio alcohol arwain at ddementia?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau sydd gennych chi i wella mynediad at glinigau camddefnyddio sylweddau, fel y gallwn, gobeithio, atal mwy o bobl rhag datblygu dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol yn y dyfodol? Dementia yw un o'r heriau iechyd mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn cael y strategaeth hon yn iawn. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac at weithio gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni ein nod cyffredin o genedl ddementia gyfeillgar. Diolch yn fawr.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwy’n credu, o ran ceisio ymdrin â'r rheini, fy mod wedi ateb pwyntiau am ddiagnosis, a byddaf yn edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan yr ymgynghoriad i’w ddweud am yr hyn sydd gennym yn y cynllun, a'r hyn sy'n realistig ac yn gyraeddadwy inni ei gyflawni mewn gwirionedd. Rhan o'r pwynt yr ydym yn ceisio ei gyfleu yw bod angen parhau i gynyddu a gwella’r gyfradd diagnosis, ar gyfradd sy'n real ac yn berthnasol, a gweld hynny’n parhau. Nawr, rwy’n cydnabod y bydd llawer o bobl yn ein hannog i fod yn fwy uchelgeisiol. Mae angen inni ddeall yr hyn sydd wir yn dod drwy'r drws, a beth yw ein gallu wedyn i wella cyfraddau diagnosis mewn gwirionedd gyda gwahanol bartneriaid yn gweithredu ar wahanol adegau. Felly, rwy'n hapus i glywed beth fydd gan yr ymgynghoriad i'w ddweud cyn inni wneud dewis terfynol—dyna, wedi'r cyfan, yw pwynt cynnal ymgynghoriad dilys.
O ran eich pwynt am staff a hyfforddiant staff, hoffwn gyflawni'r hyn sydd yn y cynllun, a dysgu o hynny wedyn am sut y bydd gennym wedyn fwy o staff y GIG wedi’u hyfforddi a’u harfogi’n briodol. Mae hefyd yn ymwneud â staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond mewn maes ehangach hefyd, a dyna pam mae’r cyngor, y canllawiau, y gwnaethom eu lansio cyn y Nadolig wir yn gwneud gwahaniaeth. A dweud y gwir, roedd yn ddigwyddiad defnyddiol iawn i gael cwrdd â phobl go iawn yn Ysbyty Ystrad Fawr a deall yr hyn yr oeddent wedi’i wneud yn barod, yr hyfforddiant a oedd wedi digwydd a'r gwelliannau i brofiad cleifion a oedd wedi digwydd o ganlyniad i'r ffaith bod yr hyfforddiant hwnnw a’r darpariaethau ar gael.
Rwy’n cydnabod y pwyntiau a wnewch am ddefnyddio cyffuriau gwrthseicotig a pha bryd maen nhw'n briodol, ac mae hynny'n rhan o'r pwynt, ac rydym ni’n sôn am hynny yn y cynllun, ond rwy’n arbennig o awyddus i ymdrin â'ch sylwadau am gamddefnyddio sylweddau. Mae rhywbeth yn y fan yma am gysylltu’r gwahanol gynlluniau a strategaethau sydd gennym, gan gydnabod ein bod yn sôn am gamddefnyddio sylweddau a'r cynlluniau sydd gennym i wella darpariaeth camddefnyddio sylweddau i helpu pobl i oresgyn hynny hefyd, ac, yn arbennig, y ffordd y mae niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn croesi nifer o wahanol feysydd gweithgarwch. Rydym yn gwybod ein bod wedi bod yn cefnogi rhywfaint o waith yn Ogwr ac o amgylch Ogwr i edrych ar y mater penodol hwn o ran y driniaeth, y ddarpariaeth a'r ymchwil, ond hefyd bydd yr Aelodau a oedd yma yn y Cynulliad blaenorol wedi fy nghlywed yn trafod rhywfaint o'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd, er enghraifft, yn ardaloedd Lerpwl a Glasgow hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddysgu oddi wrth rannau eraill o'r DU am yr hyn sy'n debygol o fod yn her barhaus. Mae mwy a mwy o bobl yn mynd i fod yn dod trwy'r drysau â heriau sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac yn y maes hwn yn arbennig hefyd, a bydd llawer o’r bobl hynny mewn gwirionedd yn grwpiau mwy cefnog o bobl yn dod i mewn â heriau sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn dementia. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am sut yr ydym am ymdrin ag amrywiaeth o'n heriau gwahanol, deall beth yw’r dystiolaeth bresennol am yr hyn sy’n effeithiol, ac yna sut y mae hynny'n effeithio yn amlwg ar ddiagnosis, ond hefyd ar y driniaeth a’r ddarpariaeth sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd, a fydd yn wahanol yn y dyfodol i’r hyn sydd gennym yn awr, hefyd.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch hefyd i'r Prosiect Ymgysylltu a Grymuso ar gyfer Dementia a Chymdeithas Alzheimer, sydd wedi eich cynorthwyo gyda hyn. Rwy’n gwybod bod eu gwaith yn fy rhanbarth i yn werthfawr iawn yn wir. Tri pheth: roeddwn i’n falch iawn â'r gydnabyddiaeth o'r angen am siaradwyr Cymraeg; mae eu hawliau nhw, wrth gwrs, yn cael eu cydnabod eisoes yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond a allwch chi gadarnhau y byddwch hefyd yn ystyried yn fanwl darparu gwasanaethau, neu gymorth, a dweud y gwir, mewn ieithoedd eraill? Rwy'n credu, yn y sefyllfa hon, nad mater o hawl haniaethol yw iaith, ond mater o ddiwallu anghenion. Ac nid wyf yn meddwl bod angen iddo olygu cyfran fawr o beirianwaith y Llywodraeth, ond rwy’n credu bod dyletswydd ar y Llywodraeth ac arnom ninnau fel Aelodau'r Cynulliad i sicrhau bod yr anghenion hynny'n cael eu diwallu.
Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth yr ydych chi’n ei olygu wrth ‘codi ymwybyddiaeth’, oherwydd rwy’n chwilfrydig i wybod sut y mae hynny’n debygol o edrych yn y gwasanaethau cyhoeddus. A ydych chi’n ystyried, er enghraifft, enwi ffrindiau dementia ar bob lefel o wasanaeth cyhoeddus, boed hynny’n brif weithredwr cyngor neu hyd yn oed gwmni bysiau preifat, oherwydd, wrth gwrs, mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymestyn y tu hwnt i'r sector cyhoeddus, ac mae angen i'r strategaeth hon gyrraedd mor bell â hynny hefyd?
Ac yna, yn olaf, yr effaith ar wasanaethau cymdeithasol, ac rwy’n llwyr werthfawrogi bod y strategaeth hon yn ymwneud yn llwyr ag anghenion pobl â dementia a'r rheini sy'n eu cefnogi, ond mae’n rhaid inni hefyd ystyried y rheini sydd ar gael i helpu i ddarparu'r hyn sy’n diwallu’r anghenion hynny, a sut y bydd y strategaeth hon yn helpu awdurdodau lleol yn arbennig i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cymdeithasol mewn rhai mannau er mwyn gallu darparu mwy o gymorth mewn mannau eraill o fewn y gwasanaethau cymdeithasol. Ac er y dylid canolbwyntio, yn bendant, ar anghenion pobl â dementia, mewn gwirionedd mae angen rhoi pwys dyledus i farn y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hefyd. Diolch.
Ydw, rwy’n arbennig o awyddus i glywed gan ddarparwyr gofal cymdeithasol yn rhan o'r ymgynghoriad am yr hyn sydd i mewn yma, am brofiad eu staff ac am realiti cyflawni a darparu'r gwasanaeth, oherwydd bydd cymysgedd y ddarpariaeth honno yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad hefyd. Weithiau, bydd hynny’n briodol i'r hyn sy'n bodoli yno, ac weithiau gall fod ffyrdd eraill y gallant ddysgu oddi wrth y ffordd y mae gwahanol fodelau gofal yn cael eu darparu mewn rhannau eraill o'r wlad. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr y cawn glywed yn uniongyrchol gan bobl sy'n darparu gwasanaethau ar hyn o bryd, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n byw â hyn. Ceir amrywiaeth o wahanol randdeiliaid a allai ac a ddylai gymryd rhan, ac mae gennyf ddiddordeb mewn darparu’r ystod ehangaf bosibl o safbwyntiau.
O ran eich pwynt ynghylch nid yn unig y Gymraeg ond ieithoedd eraill, rwy’n cytuno â chi: mae'n fater o ddiwallu angen gwirioneddol. Mae digon o dystiolaeth y bydd pobl â dementia yn aml yn mynd yn ôl at eu prif iaith, ac weithiau bydd hi’n anoddach iddynt siarad ieithoedd eraill. Ac felly mewn gwirionedd mae angen gwirioneddol yn y fan yma am sylw, yn hytrach na dewis, ac mae'n bwysig cydnabod y gwahaniaeth yn hynny o beth. Felly, bydd hynny’n darparu gwahanol heriau mewn gwahanol rannau o'r wlad, ond mae'n rhywbeth y mae angen i bob un o'n darparwyr ei ystyried wrth gynllunio ac yna darparu eu gwasanaethau.
Ac, ar y pwynt am yr hyn sydd ei angen a’r hyn y mae'n ei olygu i fod yn gymuned ac yn wlad ddementia gyfeillgar, rwy'n falch eich bod yn gwneud y pwynt bod hyn yn fwy na dim ond gwasanaethau cyhoeddus. A dweud y gwir, mae lle i bobl yn y sector gwirfoddol a’r sector busnes hefyd i fod yn gyffredinol ddementia gyfeillgar: y ddealltwriaeth y gallant ei dangos, beth mae hynny'n ei olygu i wahanol bobl hefyd. Dyna pam, pan fyddwch yn edrych ar gymunedau dementia gyfeillgar, nad dim ond pobl yn y sector cyhoeddus sydd wedi cymryd rhan a chyfrannu a’i wneud yn llwyddiant gwirioneddol; mae’n ystod lawer ehangach o bobl. Dyna beth yr oeddwn yn ceisio ei gyfleu yn fy natganiad a dyna pam mae gennyf hefyd ddiddordeb mewn clywed gan grwpiau busnes wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, ac yna dechrau cyflawni hefyd.
Diolch. Julie Morgan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd; diolch am fy ngalw i siarad am y strategaeth ddementia ddrafft. Rwy’n ei chroesawu ac rwy’n croesawu'r ymgynghoriad cyhoeddus sy'n digwydd. Rwy'n falch iawn y byddwn yn ymgynghori â phobl sydd mewn gwirionedd yn profi dementia, a'u teuluoedd. Roeddwn yn falch iawn o weld bod y strategaeth ddrafft yn cydnabod pwysigrwydd y gymuned ehangach ac rwy'n meddwl ei bod yn hollol hanfodol bod pobl sy'n dioddef o ddementia a'u teuluoedd a'u gofalwyr yn cael eu galluogi i ddal i chwarae rhan hanfodol yn y gymdeithas, a bod angen ystod o gymorth y tu allan i'r gwasanaethau statudol i sicrhau bod pobl yn gallu cynnal ansawdd bywyd da. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn ei bod hefyd yn cydnabod nad oes rhaid i’r gefnogaeth hon fod ar ffurf gweithgareddau dementia-benodol, oherwydd rwy’n credu bod rhai o'r syniadau mwyaf arloesol yn dod o gymunedau eu hunain a bod y rhai gorau yn annog pobl nad ydynt yn ddioddefwyr ddementia i gymysgu gyda phobl â dementia, yn y ffordd yr ydym yn sôn am gymunedau dementia gyfeillgar, ac yn amlwg rydym wedi sôn am beth ydynt mewn gwirionedd.
Cyn y Nadolig cefais y fraint fawr o fynd i gyngerdd yn fy etholaeth gan y Côr Forget-me-Not. Rwy'n siŵr bod llawer o Aelodau eraill wedi clywed y Côr Forget-me-Not, ac roedd yn achlysur hollol ysbrydoledig i mi, gan fod aelodau’r Côr Forget-me-Not yn bobl â dementia a'u gofalwyr, ac maent yn cymryd rhan mewn parau. Rhoesant berfformiad hollol fythgofiadwy, lle’r oedd llawer o bobl yn dioddef o ddementia ac yn methu â siarad mewn sgwrs bob dydd, ond roedd cân yn dod yn ôl iddynt. Yn yr un modd ag y siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet am iaith yn dod yn ôl i bobl, roedd pŵer y gân mor gryf—. Roedd yn achlysur bythgofiadwy. Roedd yn ymddangos i mi bod y math hwnnw o weithgaredd—. Cafodd ei wneud ar y cyd â chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, felly roedd safon y canu yn uchel iawn, ond dyna'r math o weithgarwch yr wyf yn meddwl y dylem fod yn ei annog mewn ffordd eang, gan ei fod yn ffordd i bobl a'r gofalwyr a'r perthnasau i gymryd rhan, a gallech weld y llawenydd yr oedd yn ei roi. Roedd yn ymddangos i mi fel enghraifft o'r math o ddarpariaeth y gallem ei hannog, ac roeddwn yn falch iawn bod côr yn ymarfer yn Thornhill—ac mae un yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei hun ac yng Nghasnewydd—ac mae'n wirioneddol gyffrous bod hyn yn digwydd. Rwy'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r pwyntiau eraill yr oeddwn am eu gwneud wedi cael eu cwmpasu gan yr holl bwyntiau sydd wedi eu gwneud heddiw. Ond roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi sylwadau am y math hwnnw o weithgaredd a'r hyn y gallwn ei wneud i annog hynny.
Ie, a diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Unwaith eto, rydym yn mynd yn ôl at y ffaith bod yr ymgynghoriad drafft hwn wedi cael ei lunio gan weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia yn awr a byddwn yn clywed gan ystod ehangach o bobl drwy weddill cyfnod yr ymgynghoriad, oherwydd nid yw hyn yn fater o ddweud dyna hi, ar ôl cael diagnosis, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer o bobl yn byw am amser hir â dementia. Pa un a ydynt yn byw am amser hir neu amser byr, mae rhywbeth am yr ansawdd bywyd sydd ganddynt a hefyd y teuluoedd a'u gofalwyr o'u cwmpas hefyd. Un o rannau mwyaf diddorol fy ymweliad ddoe, a dweud y gwir, oedd eistedd i lawr a siarad â phobl â dementia. Fe wnes i chwarae ychydig o Scrabble gyda nhw, a wnes i ddim ennill—cefais fy symud ymlaen cyn i’r gêm ddod i ben, a oedd yn siomedig iawn, ond roeddwn yn gwrando ar bobl, yn cael sgwrs ac yn deall y rhannau o'r hyn a oedd yn dal i fod yn bwysig iddyn nhw a’r sgyrsiau yr oeddent yn dymuno eu cael, ac yna’n cael sgwrs â gofalwyr hefyd a deall yr effaith arnyn nhw, nid dim ond cael y seibiant a’r amser hwnnw, ond hefyd er mwyn iddyn nhw a'u hanwyliaid gael cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, boed hynny’n golygu’r sefydliad Forget-me-not—. Yn wir, es i ar ymweliad Forget-me-not gyda Rebecca Evans yn y gorffennol, pan oeddwn i’n Ddirprwy Weinidog, gan gwrdd â phobl sydd yn ei hetholaeth erbyn hyn a deall rhywfaint o effaith hynny ar amrywiaeth o unigolion, ond nid dim ond unigolion, ond eu teuluoedd, eu gofalwyr a'r holl bobl eraill hynny sy’n dal i wirfoddoli a gwneud y sefydliadau hynny yn llwyddiant gwirioneddol. Oherwydd mae cerddoriaeth, cân, ac ystod o weithgareddau eraill sy'n mynd i mewn i wneud rhywbeth yn gyffredinol ystyrlon i bobl sy'n byw gyda dementia, yn hytrach na rhywbeth sy'n ceisio rhoi pobl mewn warysau, a’u cadw yn rhywle lle’r ydym yn meddwl eu bod yn ddiogel—ac, mewn gwirionedd, rydych yn eu dad-sgilio ac rydych yn cymryd yr ansawdd bywyd sydd ganddynt oddi arnynt. Rwy’n credu bod hynny’n gallu achosi cryn ofid i unigolion sy’n dal i fod yn eithaf ymwybodol o bwy ydyn nhw ar amryw o wahanol adegau yn eu taith â dementia, ond hefyd i’w teuluoedd a'u gofalwyr. Felly, meddwl am sut yr ydym yn darparu’r pecyn cyfan o gefnogaeth o gwmpas unigolion yn bendant yw’r ffordd yr hoffem fod, ac yna deall sut y byddwn yn gwneud hynny, a phwy fydd yn gwneud hynny, gydag ystod o wahanol bartneriaid. Ac, fel y dywedwch, mae'r trydydd sector yn arbennig yn rhan bwysig iawn o hynny erbyn hyn, a byddant, unwaith eto, yn y dyfodol.
Mae hynny newydd fy atgoffa o ddigwyddiad. Ugain mlynedd yn ôl, gwirfoddolais i fynd i gartref preswyl i wneud ychydig o ganu carolau. Roeddem yn canu'r carolau adnabyddus i gyd, ac ar un adeg gofynnwyd i'r preswylwyr a oedd ganddyn nhw unrhyw geisiadau, a chododd un wraig ei llaw a dweud, 'Oes, rhowch y gorau i ganu.' Nawr, y rheswm pam rwy’n sôn am hynny yw oherwydd, ar ôl hynny, dywedodd aelod o staff wrthym nad oedd hi wedi siarad ers blwyddyn neu ddwy, ac fy mhwynt i oedd, does dim ots pa un a ydych yn ganwr da neu’n ganwr gwael, gallwch chi wir gael tipyn o effaith ar bobl. Ond nid oes rhaid i’r Llywodraeth drefnu hyn i chi o reidrwydd. Gallwch fynd eich hun i mewn i'ch cymuned leol a gwneud y pethau hyn.
Roedd un o fy staff yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar ddementia, lle’r oedd pobl sy'n byw gyda dementia wedi’u cynrychioli ac, yn wir, yn bresennol. Yr hyn a oedd yn amlwg oedd bod pobl sy'n byw gyda dementia yn dymuno parhau i fod yn rhan o'n cymdeithas. Maent yn dymuno helpu eraill fel 'cyfeillion', ac yn sicr maent yn dymuno cael eu clywed. Rwy’n nodi ei bod yn ymddangos bod yr ymgynghoriad hwn yr ydych wedi ei ddechrau ar fformat arferol Llywodraeth Cymru. Felly, yr hyn yr oeddwn eisiau ei wybod oedd: sut y gallwch chi sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn cyrraedd y bobl y mae angen ymgynghori â nhw—y rhai sy’n defnyddio'r gwasanaethau mewn gwirionedd—a’u bod yn gallu ymateb ac y gellir diwallu eu hanghenion? A allwch amlinellu sut y mae’r ymgynghoriad hwn wedi cael ei deilwra ar gyfer hynny?
O ran gwasanaethau cymorth, roeddwn i’n meddwl tybed beth yw eich meddyliau am gyfuno adrannau gwasanaethau cymdeithasol sy'n darparu rhai o'r triniaethau a rhywfaint o’r gofal i gleifion dementia, fel arfer yn eu cartrefi eu hunain, gyda'r GIG, er mwyn sicrhau bod y llaw chwith yn gwybod yn union beth mae'r llaw dde yn ei wneud, ac i ddarparu gwasanaethau yn well ar gyfer cleifion dementia?
Wel, nid wyf i’n siŵr a oedd y pwynt cyntaf ynglŷn â rhywun nad oedd wedi siarad ers blynyddoedd yn sefyll ar ei draed ac yn siarad pan oeddech chi’n canu yn sylw am eich gallu i ganu, ynteu a yw’n ymwneud ag effaith cerddoriaeth ar y cof a sbarduno ymateb. Ond mae’r pwyntiau hynny wedi’u gwneud yn dda am wahanol weithgareddau nad ydynt yn brofiad yn unig, ond sut yr ydych yn cynnal gallu rhywun i wneud pethau hefyd a gwneud yn siŵr nad ydynt yn dirywio’n gyflymach.
Rwy’n deall y pwyntiau a wneir yn rheolaidd am y ffordd yr ydym yn ymgynghori, ond mae hon yn enghraifft dda o wrando ar, a gweithio gyda, nid dim ond y trydydd sector ac eiriolwyr a hyrwyddwyr wrth gynllunio a chyflwyno ymgynghoriad i fynd allan i grŵp ehangach o bobl, ond unigolion eu hunain, fel yr wyf wedi’i ddweud, oherwydd yn y prosiect ymgysylltu a grymuso ar gyfer dementia, mae’r bobl hynny yn byw â dementia eu hunain, ac felly maen nhw’n chwarae rhan allweddol o ran y bobl yr ydym wedi gwrando arnynt wrth lunio'r cynigion ymgynghori hyn. A dyna pam yr wyf yn annog, ac mae pobl eraill yn annog, yr amrywiaeth ehangaf bosibl o bobl i gymryd rhan ac ymgysylltu. Rydym yn cynnal y digwyddiadau hyn gyda'r trydydd sector, gydag amrywiaeth o wahanol bobl y maent eisoes wedi gweithio gyda nhw, pobl sy’n gwybod eu bod yn wynebu’r her hon yn awr, a phobl eraill a fydd yn cael diagnosis yn y dyfodol hefyd. Ni wnawn fyth, a bod yn onest, gyrraedd 100 y cant o bobl. Ni all unrhyw ymgynghoriad wneud hynny. Ond rwy’n meddwl ein bod yn mynd i gyrraedd nifer da o bobl a fydd wedyn yn dweud rhywbeth o werth gwirioneddol wrthym am eu bywydau, sut y maent yn eu byw, yr heriau y maent wedi eu hwynebu yn barod, beth sydd wedi gweithio iddynt, a beth nad ydyw, er mwyn deall yr hyn yr ydym eisoes yn ei wneud ar hyn o bryd, a'r hyn yr hoffem ei wneud yn well yn y dyfodol i sicrhau gwell canlyniadau i’r unigolion hynny a'u teuluoedd.
Mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt olaf ynglŷn ag uno adrannau rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a/neu'r GIG. Rydym wedi amlinellu agenda glir yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant am y bartneriaeth yr ydym yn disgwyl ei gweld yn digwydd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a'r trydydd sector ehangach ac unigolion hefyd. Mae'n ymwneud â sut yr ydych yn grymuso pobl. Mae'n ymwneud â sut yr ydych yn lleihau rhwystrau i lunio gwasanaethau o amgylch unigolion. Bydd y Gweinidog yn gwneud mwy o waith ar hyn yn ymarferol, gan weithio gydag amrywiaeth o wahanol bartneriaid, i ddeall sut y mae cynllun y Ddeddf honno’n cael ei gyflwyno yn raddol dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Ac rwy’n credu y byddwn mewn lle da yn ddiweddarach yn y tymor hwn i weld pa mor llwyddiannus y buom. Rydym wedi gwneud dewis bwriadol i beidio ag ad-drefnu yn strwythurol, ond i feddwl am sicrhau canlyniadau gwirioneddol i bobl, a’r ymdeimlad hwnnw o bartneriaeth ac ymgysylltu go iawn, a gorchymyn pobl i gydweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.