Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 10 Ionawr 2017.
Rwy’n falch bod strategaeth gennym ni rŵan y gallwn ni roi sylw iddi hi drwy’r ymgynghoriad a’i chryfhau hi ac adeiladu ar yr hyn sydd gennym ni drwy brofiadau y bobl hynny sydd wirioneddol yn gwybod beth sydd angen ei wneud, sef teuluoedd y rheini sydd â dementia. Ac rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf ohonom ni yma yn y Siambr wedi clywed digonedd o straeon torcalonnus am bobl sy’n teimlo eu bod nhw’n methu â chael y gofal maen nhw’n teimlo a ddylai fod yn rhywbeth cwbl sylfaenol, sy’n haeddiannol i rywun sydd â dementia: y ddynes y bu gorfod iddi aros ar ward ysbyty am fisoedd, efo haint digon syml, oherwydd bod yna fethiant i roi pecyn gofal addas ar ei chyfer hi yn ei chymuned; y gofalwyr sy’n methu â threfnu gofal dros dro am ychydig o amser er mwyn cael rhywfaint o orffwys; y rheini sy’n teimlo nad ydy’r math o ofal dydd angenrheidiol ar gael iddyn nhw. A lleisiau’r bobl yma, y teuluoedd a’r rhai sydd â dementia eu hunain, yr wyf am eu clywed yn dod drwodd yn y strategaeth derfynol yn dilyn yr ymgynghoriad yma, ac rwy’n siŵr bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â hynny.
Rhyw bum cwestiwn oedd gennyf i. Mae dau ohonyn nhw wedi cael eu gofyn eisoes gan Angela Burns, felly mi wnaf i eu gofyn nhw fel cwestiynau rhethregol beth bynnag, er ein bod ni’n gwybod beth sydd ym meddwl yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae’n bwysig, onid ydy, cael cydbwysedd rhwng bod yn uchelgeisiol a bod yn realistig, ond mi wnaf innau ofyn: a ydy’r 3 y cant yma o gynnydd mewn diagnosau yn flynyddol yn rhywbeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn wirioneddol yn teimlo na ellir gwella arno fo gan na fydd hynny ond yn mynd â ni ymhen rhyw bum mlynedd i’r sefyllfa lle mae Gogledd Iwerddon rŵan?
Y cwestiwn rhethregol arall ydy: sut mae mesur y llwyddiant hwn yn y pen draw? Oherwydd, y gweithredu sy’n bwysig yn hyn a’r effaith y bydd strategaeth yma yn ei chael ar bobl ar hyd a lled Cymru. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn glir yn ei feddwl y bydd o’n gallu edrych yn ôl a dweud, ‘Ydy, mae hyn wedi gweithio’, neu ‘Dydy hyn ddim’?
Tri chwestiwn, o bosibl, y gallem ni gael atebion penodol iddyn nhw: a oes yna fwriad i ddatblygu ymhellach yr ochr ataliol, er enghraifft, i fuddsoddi go iawn mewn cyfleon ar gyfer, er enghraifft, ymarfer corff, er mwyn oedi neu leihau symptomau dementia, ac nid dim ond tynnu sylw a chodi ymwybyddiaeth o’r math y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ei grybwyll ychydig o funudau yn ôl? Ar ddiagnosis yn y Gymraeg, fel y Gymdeithas Alzheimer’s, rydw i’n croesawu’n fawr y cynllun a’r bwriad i wella pethau rhywsut, ond tybed pa bryd y cawn ni, gan y Llywodraeth yn ogystal â gan eraill, fel rhan o’r ymgynghoriad yma, fwy o fanylion am yr hyn sydd dan sylw?
Felly, hefyd, yn olaf, yr elfennau gwledig o ofal dementia. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn disgwyl y bydd y strategaeth derfynol yma ar ddementia yn rhoi darlun llawnach a chliriach i ni o’r materion penodol sy’n deillio o anghenion gofal dementia yng Nghymru wledig? Fel rydw i’n dweud, rwy’n croesawu’r ffaith bod gennym ni rŵan y strategaeth ddrafft yma i weithio ohoni hi; yr her, wrth gwrs, ydy ein bod ni yn cael strategaeth yn y pen draw sydd yn mynd i allu gwireddu’r geiriau cynnes iawn yr ydym ni i gyd yn gallu cytuno arnyn nhw ar wneud Cymru yn gyfeillgar i ddementia yn wirioneddol.