5. 4. Datganiad: Ffliw Adar

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:35, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mewn ymateb i achosion o ffliw adar H5N8 pathogenig iawn ar draws Ewrop, gogledd Affrica a'r dwyrain canol, fel mesur rhagofalus, gwnes i ddatgan Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar ar 6 Rhagfyr 2016. Mae'r parth atal yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r holl bobl sy’n cadw dofednod, ac adar caeth eraill, gadw eu hadar dan do, neu gymryd pob cam priodol i’w cadw ar wahân i adar gwyllt, ac i wella bioddiogelwch ar eu safle. Roedd hwn yn fesur rhagofalus i leihau'r risg o ddofednod ac adar caeth yn cael eu heintio gan adar gwyllt. Cyflwynwyd mesurau tebyg yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau dull cydlynol ar draws y DU.

Ar 16 Rhagfyr, cadarnhawyd ffliw adar H5N8 pathogenig iawn mewn tyrcwn mewn safle yn Swydd Lincoln. Bu farw'r rhan fwyaf o'r tyrcwn ar y fferm yn gyflym o'r haint, a'r gweddill yn cael eu difa heb greulondeb. Gweithredwyd parth gwarchod 3 cilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle, gan gyfyngu ar symudiadau o safleoedd a nodir yn y parthau. Yn dilyn cadarnhad o’r clefyd yn Swydd Lincoln, rwy’n cymryd camau pellach i ddiogelu adar dofednod ac adar caeth yng Nghymru drwy gyflwyno gwaharddiad dros dro ar ddigwyddiadau lle y daw dofednod at ei gilydd megis ffeiriau gwerthu a sioeau.

Mae masnach yr UE yn dibynnu ar broses ardystio llym ar gyfer symud dofednod byw a chynhyrchion anifeiliaid. Yn dilyn yr achos yn Swydd Lincoln, ni chaniatawyd unrhyw fasnach o'r safle heintiedig, yn unol â gofynion yr UE. Yn yr un modd, ni cheir symud unrhyw ddofednod na chynnyrch dofednod i'r DU o’r parthau gwarchod na’r parthau gwyliadwriaeth a osodir mewn gwledydd eraill yr UE. Rydym yn parhau i asesu'r effeithiau ehangach ar fasnach ryngwladol, ond rydym yn ymwybodol bod rhai gwledydd y tu allan i'r UE eisoes wedi gosod cyfyngiadau.

Cadarnhawyd y clefyd mewn hwyaden wyllt, chwiwell, yn Sir Gaerfyrddin ar 22 Rhagfyr. Hwn oedd y canfyddiad cyntaf mewn aderyn gwyllt yn y DU, ac nid oedd yn annisgwyl, o gofio bod y clefyd wedi’i gadarnhau mewn rhywogaethau mudol gwyllt ledled Ewrop. Cyn y canfyddiad hwn, datblygwyd systemau gwyliadwriaeth adar gwyllt, a gostwngwyd y trothwy adrodd ar gyfer rhywogaethau a allai gael y straen firws hwn, o bum aderyn marw i un. Mae aelodau o'r cyhoedd wedi’u hannog i gysylltu â llinell gymorth Prydain Fawr ynglŷn ag unrhyw aderyn dŵr gwyllt sydd wedi marw, megis hwyaid, gwyddau, elyrch neu wylanod, a phump neu fwy o adar gwyllt sydd wedi marw, sy’n perthyn i rywogaethau eraill yn yr un lleoliad.

Ers y canfyddiad yn Llanelli, bu mwy o ganfyddiadau o ffliw adar pathogenig iawn mewn adar gwyllt marw yn Lloegr a'r Alban, ac yng Nghymru, mewn hwyaden wyllt arall, corhwyad, yng Nghonwy. Mae'n debygol y caiff mwy o achosion eu canfod, a fydd yn cael eu hadrodd yn wythnosol.

Ar 3 Ionawr, cadarnhaodd ein prif swyddog milfeddygol glefyd ar dyddyn ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd cyfyngiadau ar y safle, lle’r oedd chwe iâr a 19 o hwyaid, a chafodd yr adar eu difa heb greulondeb. Sefydlodd y prif swyddog meddygol barth diogelu 3 cilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle heintiedig er mwyn lleihau'r perygl i’r clefyd ledaenu, ac mae’r gofynion ar gyfer hyn i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y bobl y nodwyd fel bod yn cadw dofednod yn y parthau yn cael ymweliad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac yn destun ymchwiliad milfeddygol wedi'i dargedu. Mae'r achos hwn yn atgyfnerthu fy nghamau gweithredu cynharach, ac rwy’n hynod awyddus i sicrhau bod pawb sy'n cadw dofednod, yn arbennig heidiau iard gefn, yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eu hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt a allai fod wedi'u heintio.

Yr wythnos diwethaf, fe wnes i ymestyn y parth atal yng Nghymru hyd at 28 Chwefror, a ystyriais yn dilyn yr achos ym Mhontyberem, y canfyddiadau parhaus mewn adar gwyllt ar draws Prydain Fawr, ac yn dilyn cyngor arbenigol. Mae DEFRA a Llywodraeth yr Alban wedi gwneud yr un fath. Rwy’n deall bod rhai sy'n cadw dofednod yn ei chael hi’n anodd cadw at holl ofynion y parth atal, yn enwedig cadw eu hadar dan do neu ar wahân i adar gwyllt. Gall cadw adar dan do nad ydyn nhw wedi arfer bod dan do na chael eu cyfyngu am gyfnod parhaus, achosi problemau o ran lles ac ymddygiad. Mae canllawiau ar sut i gynnal lles, ac amrywiaeth o ddewisiadau cyfoethogi amgylcheddol ar gyfer adar caeth, gan gynnwys dofednod, i’w gweld, unwaith eto, ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwn fod pobl sy’n cadw dofednod yn poeni am eu hadar a byddan nhw’n deall mai bwriad y camau a gymerais yw diogelu eu hadar rhag clefyd. Mae cydymffurfio â gofynion y parth atal, a'r cyfyngiadau eraill o amgylch y safle ym Mhontyberem, yr un mor berthnasol i bobl sy’n cadw heidiau iard gefn ag y maent i safleoedd masnachol mawr.

Mae'r cyfryngau wedi cael gwybod am y datganiadau sy’n gweithredu cyfyngiadau. Mae canllawiau ar gael ar ein gwefan sy’n rhybuddio'r cyhoedd a phobl sy’n cadw dofednod—ac ar draws ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Cynhaliodd y prif swyddog milfeddygol rownd o gyfweliadau yr wythnos diwethaf ar draws safleoedd cyhoeddus a masnachol sy'n cwmpasu Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, ac mae cyfres o gyfweliadau pellach wedi’u cynllunio â gorsafoedd radio rhanbarthol llai yr wythnos hon. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi bod ar gael yn eang yn y cyfryngau, ond er hynny, efallai na fydd rhai pobl sy’n cadw dofednod yn ymwybodol o'r gofynion o hyd. Mae’n rhaid i bobl sy’n cadw dofednod a chanddyn nhw 50 o adar neu fwy, gofrestru eu heidiau ar y gofrestr ddofednod, a byddwn i’n annog yn gryf bod pawb sy’n cadw dofednod, gan gynnwys y rhai a chanddyn nhw lai na 50 o adar, yn rhoi eu manylion ar y gofrestr ddofednod. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, trwy e-bost neu ddiweddariad ar ffurf neges destun, mewn achos o glefyd adar, gan eu galluogi i warchod eu haid ar y cyfle cyntaf.

Mae'r camau gweithredu a’r mesurau rheoli a roddwyd ar waith wedi bod yn gymesur, gan dargedu gweithgareddau risg uchaf, er mwyn lleihau'r effaith ar fasnach ryngwladol, yr economi a chynaliadwyedd y diwydiant dofednod yng Nghymru. Gallaf sicrhau pawb am ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa glefyd hon sy’n datblygu'n barhaus. Rwyf wedi derbyn diweddariadau rheolaidd gan y Prif Swyddog Milfeddygol a’m swyddogion, a oedd yn gweithio drwy gydol cyfnod y Nadolig ac sy'n parhau i ymgysylltu’n agos â gweinyddiaethau eraill, gan fonitro'r sefyllfa a chymryd camau yn ôl yr angen. Ni fydd lefel y risg o ffliw adar i ddofednod ac adar caeth eraill gan adar gwyllt yn lleihau yn yr wythnosau nesaf, a gallai hyd yn oed gynyddu pan fydd cyfnod mudo’r adar gwyllt yn dechrau yn y gwanwyn. Mae gwaith ar y gweill gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban i ystyried beth allai'r strategaeth ymadael fod ar gyfer diddymu’r parth atal.