– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 10 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ffliw adar, ac rwy’n galw ar Lesley Griffiths i wneud y datganiad hwnnw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mewn ymateb i achosion o ffliw adar H5N8 pathogenig iawn ar draws Ewrop, gogledd Affrica a'r dwyrain canol, fel mesur rhagofalus, gwnes i ddatgan Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar ar 6 Rhagfyr 2016. Mae'r parth atal yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r holl bobl sy’n cadw dofednod, ac adar caeth eraill, gadw eu hadar dan do, neu gymryd pob cam priodol i’w cadw ar wahân i adar gwyllt, ac i wella bioddiogelwch ar eu safle. Roedd hwn yn fesur rhagofalus i leihau'r risg o ddofednod ac adar caeth yn cael eu heintio gan adar gwyllt. Cyflwynwyd mesurau tebyg yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau dull cydlynol ar draws y DU.
Ar 16 Rhagfyr, cadarnhawyd ffliw adar H5N8 pathogenig iawn mewn tyrcwn mewn safle yn Swydd Lincoln. Bu farw'r rhan fwyaf o'r tyrcwn ar y fferm yn gyflym o'r haint, a'r gweddill yn cael eu difa heb greulondeb. Gweithredwyd parth gwarchod 3 cilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle, gan gyfyngu ar symudiadau o safleoedd a nodir yn y parthau. Yn dilyn cadarnhad o’r clefyd yn Swydd Lincoln, rwy’n cymryd camau pellach i ddiogelu adar dofednod ac adar caeth yng Nghymru drwy gyflwyno gwaharddiad dros dro ar ddigwyddiadau lle y daw dofednod at ei gilydd megis ffeiriau gwerthu a sioeau.
Mae masnach yr UE yn dibynnu ar broses ardystio llym ar gyfer symud dofednod byw a chynhyrchion anifeiliaid. Yn dilyn yr achos yn Swydd Lincoln, ni chaniatawyd unrhyw fasnach o'r safle heintiedig, yn unol â gofynion yr UE. Yn yr un modd, ni cheir symud unrhyw ddofednod na chynnyrch dofednod i'r DU o’r parthau gwarchod na’r parthau gwyliadwriaeth a osodir mewn gwledydd eraill yr UE. Rydym yn parhau i asesu'r effeithiau ehangach ar fasnach ryngwladol, ond rydym yn ymwybodol bod rhai gwledydd y tu allan i'r UE eisoes wedi gosod cyfyngiadau.
Cadarnhawyd y clefyd mewn hwyaden wyllt, chwiwell, yn Sir Gaerfyrddin ar 22 Rhagfyr. Hwn oedd y canfyddiad cyntaf mewn aderyn gwyllt yn y DU, ac nid oedd yn annisgwyl, o gofio bod y clefyd wedi’i gadarnhau mewn rhywogaethau mudol gwyllt ledled Ewrop. Cyn y canfyddiad hwn, datblygwyd systemau gwyliadwriaeth adar gwyllt, a gostwngwyd y trothwy adrodd ar gyfer rhywogaethau a allai gael y straen firws hwn, o bum aderyn marw i un. Mae aelodau o'r cyhoedd wedi’u hannog i gysylltu â llinell gymorth Prydain Fawr ynglŷn ag unrhyw aderyn dŵr gwyllt sydd wedi marw, megis hwyaid, gwyddau, elyrch neu wylanod, a phump neu fwy o adar gwyllt sydd wedi marw, sy’n perthyn i rywogaethau eraill yn yr un lleoliad.
Ers y canfyddiad yn Llanelli, bu mwy o ganfyddiadau o ffliw adar pathogenig iawn mewn adar gwyllt marw yn Lloegr a'r Alban, ac yng Nghymru, mewn hwyaden wyllt arall, corhwyad, yng Nghonwy. Mae'n debygol y caiff mwy o achosion eu canfod, a fydd yn cael eu hadrodd yn wythnosol.
Ar 3 Ionawr, cadarnhaodd ein prif swyddog milfeddygol glefyd ar dyddyn ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd cyfyngiadau ar y safle, lle’r oedd chwe iâr a 19 o hwyaid, a chafodd yr adar eu difa heb greulondeb. Sefydlodd y prif swyddog meddygol barth diogelu 3 cilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle heintiedig er mwyn lleihau'r perygl i’r clefyd ledaenu, ac mae’r gofynion ar gyfer hyn i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y bobl y nodwyd fel bod yn cadw dofednod yn y parthau yn cael ymweliad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac yn destun ymchwiliad milfeddygol wedi'i dargedu. Mae'r achos hwn yn atgyfnerthu fy nghamau gweithredu cynharach, ac rwy’n hynod awyddus i sicrhau bod pawb sy'n cadw dofednod, yn arbennig heidiau iard gefn, yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eu hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt a allai fod wedi'u heintio.
Yr wythnos diwethaf, fe wnes i ymestyn y parth atal yng Nghymru hyd at 28 Chwefror, a ystyriais yn dilyn yr achos ym Mhontyberem, y canfyddiadau parhaus mewn adar gwyllt ar draws Prydain Fawr, ac yn dilyn cyngor arbenigol. Mae DEFRA a Llywodraeth yr Alban wedi gwneud yr un fath. Rwy’n deall bod rhai sy'n cadw dofednod yn ei chael hi’n anodd cadw at holl ofynion y parth atal, yn enwedig cadw eu hadar dan do neu ar wahân i adar gwyllt. Gall cadw adar dan do nad ydyn nhw wedi arfer bod dan do na chael eu cyfyngu am gyfnod parhaus, achosi problemau o ran lles ac ymddygiad. Mae canllawiau ar sut i gynnal lles, ac amrywiaeth o ddewisiadau cyfoethogi amgylcheddol ar gyfer adar caeth, gan gynnwys dofednod, i’w gweld, unwaith eto, ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gwn fod pobl sy’n cadw dofednod yn poeni am eu hadar a byddan nhw’n deall mai bwriad y camau a gymerais yw diogelu eu hadar rhag clefyd. Mae cydymffurfio â gofynion y parth atal, a'r cyfyngiadau eraill o amgylch y safle ym Mhontyberem, yr un mor berthnasol i bobl sy’n cadw heidiau iard gefn ag y maent i safleoedd masnachol mawr.
Mae'r cyfryngau wedi cael gwybod am y datganiadau sy’n gweithredu cyfyngiadau. Mae canllawiau ar gael ar ein gwefan sy’n rhybuddio'r cyhoedd a phobl sy’n cadw dofednod—ac ar draws ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Cynhaliodd y prif swyddog milfeddygol rownd o gyfweliadau yr wythnos diwethaf ar draws safleoedd cyhoeddus a masnachol sy'n cwmpasu Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, ac mae cyfres o gyfweliadau pellach wedi’u cynllunio â gorsafoedd radio rhanbarthol llai yr wythnos hon. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi bod ar gael yn eang yn y cyfryngau, ond er hynny, efallai na fydd rhai pobl sy’n cadw dofednod yn ymwybodol o'r gofynion o hyd. Mae’n rhaid i bobl sy’n cadw dofednod a chanddyn nhw 50 o adar neu fwy, gofrestru eu heidiau ar y gofrestr ddofednod, a byddwn i’n annog yn gryf bod pawb sy’n cadw dofednod, gan gynnwys y rhai a chanddyn nhw lai na 50 o adar, yn rhoi eu manylion ar y gofrestr ddofednod. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, trwy e-bost neu ddiweddariad ar ffurf neges destun, mewn achos o glefyd adar, gan eu galluogi i warchod eu haid ar y cyfle cyntaf.
Mae'r camau gweithredu a’r mesurau rheoli a roddwyd ar waith wedi bod yn gymesur, gan dargedu gweithgareddau risg uchaf, er mwyn lleihau'r effaith ar fasnach ryngwladol, yr economi a chynaliadwyedd y diwydiant dofednod yng Nghymru. Gallaf sicrhau pawb am ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa glefyd hon sy’n datblygu'n barhaus. Rwyf wedi derbyn diweddariadau rheolaidd gan y Prif Swyddog Milfeddygol a’m swyddogion, a oedd yn gweithio drwy gydol cyfnod y Nadolig ac sy'n parhau i ymgysylltu’n agos â gweinyddiaethau eraill, gan fonitro'r sefyllfa a chymryd camau yn ôl yr angen. Ni fydd lefel y risg o ffliw adar i ddofednod ac adar caeth eraill gan adar gwyllt yn lleihau yn yr wythnosau nesaf, a gallai hyd yn oed gynyddu pan fydd cyfnod mudo’r adar gwyllt yn dechrau yn y gwanwyn. Mae gwaith ar y gweill gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban i ystyried beth allai'r strategaeth ymadael fod ar gyfer diddymu’r parth atal.
Ni allaf roi digon o bwyslais ar yr angen i’r rhai hynny sy'n cadw heidiau o ddofednod ac adar domestig barhau’n effro i arwyddion o’r clefyd, i gysylltu â'u milfeddygon preifat os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon ac i arfer y lefelau uchaf o fioddiogelwch.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod yn bwysig, o'r cychwyn cyntaf, ein bod ni’n pwysleisio’r neges bod y risg i iechyd y cyhoedd o’r feirws hwn yn isel iawn ac nad yw'n peri risg o ran diogelwch bwyd i ddefnyddwyr Cymru.
Rwy’n gwerthfawrogi pa mor anodd yw’r mater penodol hwn a dyna pam mae hi mor bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n gyflym ac yn gweithio ar y cyd â Llywodraethau eraill ar draws y DU. Mae'n hanfodol bod unrhyw waith cynllunio wrth gefn yn cael ei gydlynu â Llywodraethau eraill ledled y DU, fel nad yw polisïau Llywodraeth yn rhwystro neu hyd yn oed yn gwaethygu'r broblem bresennol.
Yng ngoleuni datganiad heddiw, gan gofio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei gwneud yn glir bod ei swyddogion yn ymgysylltu’n agos â gweinyddiaethau eraill, efallai y gallai hi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y trafodaethau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ar lefel weinidogol gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill ynghylch yr achos penodol hwn, a sut y gellir cryfhau’r gwaith o fonitro bygythiadau o glefydau, fel y straen H5N8, ar draws Llywodraethau yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae’n gwbl hanfodol bod y bobl sy’n cadw llai o ddofednod a'r rhai hynny sy'n cadw ieir ac adar eraill ar lefel mwy domestig yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf mewn cysylltiad â'r straen penodol hwn, ac nid dim ond y sector dofednod masnachol. Rwy'n falch bod pobl sy’n cadw dofednod yn cael eu hannog i roi manylion am eu heidiau i'r gofrestr ddofednod, sy’n arf hollbwysig i Lywodraeth Cymru i ddeall y sefyllfa yma yng Nghymru yn well. Rwy’n mawr obeithio bod y bobl hynny sy’n cadw llai na 50 o adar hyd yn oed yn darparu eu manylion fel eu bod, mewn achos o ffliw adar, yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth briodol yn gyflym ac felly’n gallu gwarchod eu hadar yn well. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi diweddariad i ni ar faint o bobl sy’n cadw dofednod sy'n darparu eu manylion i'r gofrestr? Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu asesiad cychwynnol o effeithiolrwydd y gofrestr hon ar hyn o bryd.
Yn anffodus, gall arwyddion o ffliw adar, fel y deallaf, amrywio rhwng rhywogaethau o adar a gall amrywio o rywbeth ysgafn iawn, fel newid mewn lliw, i rywbeth llawer mwy difrifol. Fodd bynnag, oherwydd y gall y clefyd ymateb yn wahanol, mae'n anodd iawn monitro'r clefyd yn effeithiol mewn dofednod a gedwir a hyd yn oed anoddach mewn adar gwyllt. Mae gwyliadwriaeth, wrth gwrs, yn dal i fod yn rhan bwysig mewn cysylltiad â'r achos hwn, ac mae datganiad heddiw yn cadarnhau bod gwyliadwriaeth adar, wrth gwrs, wedi cynyddu. Fodd bynnag, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy wrthym am sut y caiff y system gwyliadwriaeth adar well hon, yn arbennig yng nghyd-destun adar gwyllt, ei rhoi ar waith ar draws Cymru ar lefel weithredol.
Bydd y straen ffliw adar, heb os, yn cael effaith ar sector maes Cymru, sydd, wrth gwrs, yn ymfalchïo yn y ffaith fod yr anifail yn cael crwydro'n rhydd. Gwyddom fod 89 y cant o unedau cynhyrchu wyau yng Nghymru yn cynhyrchu wyau maes. Yn dilyn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy am ba asesiad sydd wedi'i gynnal o effaith y straen o ffliw adar ar y sector arbennig hwn. Rwy’n sylweddoli bod y datganiad heddiw yn cyfeirio at ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal lles ar gyfer adar caeth, ond, a wnaiff hi ddweud wrthym a oes unrhyw oblygiadau ar les dofednod ar ffermydd maes, ac os felly, sut y mae Llywodraeth Cymru wedi lliniaru unrhyw oblygiadau posibl i les o ganlyniad i’r straen hwn o ffliw adar?
Nawr, y llynedd cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fygythiadau clefydau anifeiliaid egsotig. Gofynnais sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi Cymru, mewn achos o glefyd, i sicrhau bod ein prosesau cymorth yn gallu cael gafael ar yr adnoddau a'r cyllid priodol. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod hi’n hanfodol bod cyllid digonol wedi’i sefydlu i sicrhau bod ffermwyr, awdurdodau lleol ac asiantaethau yn hyderus bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i weithredu mesurau rheoli clefydau yma yng Nghymru. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym yn awr sut y mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu adnoddau yn y maes hwn, a sut y caiff y cyllid hwnnw ei fonitro fel y gall pobl Cymru fod mor hyderus ag sy’n bosibl fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i wneud Cymru mor ddiogel ag y gall fod bob amser.
Wrth gloi, Lywydd, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom yn y Siambr hon i wneud yr hyn a allwn i hyrwyddo pwysigrwydd bioddiogelwch effeithiol, ac i annog ein hetholwyr i roi gwybod am adar dŵr gwyllt sydd wedi marw neu adar gwyllt eraill sydd wedi marw. Rwy'n falch bod y datganiad y prynhawn yma yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraethau eraill i sicrhau y caiff dull gweithredu cydgysylltiedig symlach ei gyflwyno ar draws y DU. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn drwy ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolchaf i Paul Davies am ei gwestiynau a’i sylwadau. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn eich bod chi, i ryw raddau, wedi ailadrodd yr hyn a ddywedais am y risg i iechyd y cyhoedd: mae'n isel iawn, ni chafwyd yr un achos cyhoeddus o’r straen hwn o ffliw, ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud ei bod hi’n ddiogel iawn i fwyta dofednod ac wyau. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweithredu’n gyflym iawn—gwnaethom y penderfyniad hwnnw ynglŷn â’r mesurau rhagofalus, fel y dywedais, ar 6 Rhagfyr—a’i ystyried yn fanwl. Rwy'n credu bod y pwynt ynglŷn â chynnyrch maes, yn rhywbeth a oedd, yn amlwg, yn destun pryder i mi, oherwydd, yn amlwg, y 12 wythnos yn ymwneud â’r statws maes. Wyddoch chi, nid oeddech chi eisiau dechrau’n rhy gynnar oherwydd byddai hynny'n cael effaith ar hynny. Ond rwy'n credu ei bod hi’n iawn ein bod ni’n gweithredu'n gyflym ac, yn sicr, rwy’n credu bod y dull cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, yr Alban a’r DU wedi llwyddo i ddarparu’r dull cyson iawn hwnnw, ac yn amlwg dilynodd Gogledd Iwerddon yn fuan ar ôl hynny.
Rwy’n credu bod y prif swyddogion milfeddygol yn cael trafodaethau dyddiol, ac yn sicr roedd swyddogion yn cael sgyrsiau dros y ffôn bob dydd, a chynhaliwyd cyfarfodydd. Felly, ar lefel swyddogol, cynhelir y trafodaethau hynny yn aml iawn. Mewn cysylltiad â thrafodaethau rhwng gweinidogion, yr wythnos diwethaf roedd bob un o'r pedwar Gweinidog amaeth o bob rhan o’r DU yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen—mae'n ddrwg gennyf, tri oedd yno. Nid oedd Gweinidog yr Alban yno, ond yr oedd cynrychiolydd o'r Alban. Felly, eto, cafwyd trafodaethau, ar lefel gweinidogol a swyddogol.
Yn fy marn i mae’r gofrestr ddofednod—. Mae'n bwysig iawn—yn amlwg, os oes gennych chi fwy na 50 o adar yna mae'n orfodol—ond yr hyn yr wyf wedi gofyn i swyddogion ei wneud yw ystyried pa un a ddylai fod yn orfodol ar gyfer y bobl hynny sy’n cadw llai na 50 o adar, oherwydd rwy’n pryderu bod pawb yn gwybod am hyn. Os mai dwy iâr yn unig sydd gennych chi, mae'r un mor bwysig eich bod chi’n gofalu llawn cymaint am eich dofednod â’r bobl hynny a chanddyn nhw fwy. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried pa un a yw hi’n bosibl cyflwyno hynny hefyd. Ond, eto, rwy’n credu bod angen iddo fod yn ddull gweithredu cyson ar draws y DU, felly mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried wrth symud ymlaen.
Mae'r gofrestr ddofednod wedi bod yn weithredol, rwy’n credu, am tua 12 mlynedd, felly mae'n gofrestr a gaiff ei chynnal yn dda iawn. Ond rwy’n credu bod angen inni ystyried yr hyn y gallwn ei wneud ar gyfer pobl sy’n cadw llai na 50 o adar. Rydych chi'n hollol iawn ynglŷn â’r symptomau—gallai fod yn anadlol, gallai fod yn ddolur rhydd, gallai fod yn afliwio’r gwddf a'r wyneb, felly rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, eto, fod pobl yn ymwybodol o beth yw’r symptomau. Fe wnaethoch chi drafod cynnyrch maes, ac rydych chi’n hollol iawn—mae 89 y cant o’r wyau a gynhyrchir gennym ni yng Nghymru yn wyau maes a cheir effaith ar hynny. Mae un o'r rhesymau pam yr ydym ni’n ystyried sut y byddwn ni’n gweithredu’r strategaeth ymadael hon yn ymwneud ag wyau maes hefyd.
Mae lles adar yn bwysig iawn ac, eto, gwyddom nad yw adar wedi arfer bod dan do. Cewch wahanol glefydau pan fo gennych chi adar gyda'i gilydd. Mae diflastod yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid ei ystyried, a dyna pam yr ydym wedi rhoi cyngor ar y wefan ynghylch cyfoethogi amgylchedd.
Mewn cysylltiad ag adnoddau a chymorth, nid ydym wedi cynnwys unrhyw adnoddau ychwanegol ar hyn o bryd. Gofynnais i swyddogion ddoe a oedd unrhyw bryderon ynghylch capasiti awdurdodau lleol, oherwydd, yn amlwg, nhw fyddai’r rhai a fyddai yn gyfrifol pe na byddai cydymffurfiad. Eto, mae’n rhaid i mi ddweud bod swyddogion yn arbennig o falch â'r ffordd yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gallu ymateb yn sgil yr achos ym Mhontyberem.
Yn olaf, ynglŷn â’ch pwynt olaf—mae’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd, ac mae'n gyfle da iawn. Un o'r rhesymau pam yr oeddwn i’n awyddus i gael y datganiad hwn heddiw oedd i ddweud eto nad ydym ond yn gallu parhau i ailadrodd pwysigrwydd bioddiogelwch, yn arbennig.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r datganiad. Fel y mae hi newydd ei ddweud, er nad ydym ni, efallai, fel gwleidyddion yn gallu bod o gymorth yn uniongyrchol wrth ddelio â’r clefyd yma, mae’n bwysig ein bod ni’n ei drafod, a bod hynny’n lledaenu neges gref gan y Llywodraeth ynglŷn â’r parth diogelwch ac ynglŷn â diogelwch y bwyd hefyd, sydd yn dal o hyd yng Nghymru, a bod y neges yna yn cael ei throsglwyddo.
A gaf i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet, a, thrwyddi hi, i’w staff a’r prif swyddog milfeddygol am weithio dros gyfnod y Nadolig, ac am fod ar gael i’r cynghorau lleol hefyd, wrth gwrs, i gydlynu ynglŷn â’r clefyd yma a’r ffaith bod angen cydweithio yn agos â Llywodraethau eraill dros y cyfnod nesaf? Fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae’r sector yma yn bwysig i economi Cymru. Efallai ein bod ni’n dueddol o feddwl am gig, cig oen a chig eidion, ond y mae 6 y cant o GDP amaeth yn deillio o’r sector dofednod ac y mae hynny’n gyfwerth â thua £100 miliwn. Felly, mae’n bwysig bod y neges yn mynd yn gryf iawn bod y bwyd yn ddiogel a bod y camau priodol yn cael eu cymryd i ddelio â’r clefyd ac i atal, gobeithio, lledaeniad y clefyd.
Mae rhan fwyaf y cwestiynau wedi cael eu gofyn ac wedi cael eu hateb, i fod yn onest—jest cwpl o gwestiynau penodol sydd ar ôl i mi gael bod yn glir yn eu cylch. Rŷm ni eisoes wedi trafod dofednod buarth neu wyau maes, neu beth bynnag yr ydych chi eisiau galw ‘free range’, ond mae e’n sector hynod bwysig i Gymru ac rwy’n meddwl ei fod e’n sector pwysicach yng Nghymru nag yn Lloegr, a dweud y gwir. Ar ôl rhyw 12 wythnos, rwy’n meddwl, mae yna berig y bydd y categori o wyau maes, er enghraifft, yn cael ei golli oherwydd bod y dofednod yn cael eu cadw dan do. Wrth gwrs, mae’n ddigon posib bod cynhyrchwyr wyau maes heb baratoi ar gyfer cadw dofednod dan do am gyfnod mor hir a bod yna effeithiau iechyd ar anifeiliaid yn y sefyllfa yna. Felly, pa gamau penodol sy’n cael eu cymryd yn y maes yma i sicrhau bod y sector yn mynd i gael ei ddiogelu, oherwydd bydd yna alw am gynnyrch o’r sector yma a bydd angen sicrhau bod y sector yn gallu goroesi unrhyw effaith gan y clefyd yma?
Mae’r ail gwestiwn yn un penodol yn deillio o’r datganiad y gwnaethoch chi ar 20 Rhagfyr pan, ar y pryd hynny, roeddech chi’n sôn nad oedd unrhyw waharddiad ar hel rhai adar at ei gilydd, yn benodol colomennod ac adar cewyll. Er, rwy’n meddwl, bod yr unig sioe yr oeddwn i’n ymwybodol ohoni wedi cael ei gohirio, mae’n dal yn bosib, o dan y gwaharddiadau presennol, rwy’n meddwl, fod y bobl sy’n hel colomennod ac ati at ei gilydd yn gallu parhau. A ydych chi wedi cael cyfle i ailedrych ar hynny yn y sefyllfa newydd a’r ffaith ei bod yn ymddangos bod y clefyd wedi ymledu yng Nghymru, ac yn y gogledd yn ogystal â’r de erbyn hyn?
Y cwestiwn olaf yw: er eich bod chi wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’r negeseuon yr ŷch chi wedi eu rhoi allan fel Ysgrifennydd Cabinet, rŷm ni i gyd yn ymwybodol nad yw’r wasg yng Nghymru efallai yn adrodd yn llawn ar faterion gwleidyddol Cymreig. A ydych chi yn saff yn eich meddwl bod pob un sy’n cadw dofednod yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd o dan yr angen i gofrestru yn statudol, wrth gwrs, yn llwyr ymwybodol o statws Cymru o ran y clefyd yma ac yn llwyr ymwybodol hefyd o’r mesurau bioddiogelwch y mae angen eu cymryd i ymatal ac atal y clefyd?
Os caf i ddechrau drwy ateb cwestiynau olaf Simon Thomas: a ydw i'n hyderus bod pawb a chanddyn nhw hyd yn oed un aderyn yn gwybod amdano? Byddwn i’n dweud 'nac ydw'. Dyna pam mae hi mor bwysig, fel y gwnaethoch chi ddweud, ein bod ni fel gwleidyddion yn rhannu’r wybodaeth honno. Cynhaliodd y Prif Swyddog Milfeddygol rownd sylweddol o gyfweliadau yr wythnos diwethaf. Ymddangosodd hi ar rwydwaith teledu brecwast y BBC. Roedd hi’n bwysig iawn yn ein barn ni bod y neges honno yn cael ei lledaenu. Felly, hoffwn feddwl bod pawb wedi gweld y neges ar ein cyfryngau cymdeithasol, ar y teledu, ar ein gwefan a’i chlywed ar y radio. Ond, wyddoch chi, a bod yn gwbl onest, a allaf i ddweud 100 y cant? Na, ond rwy’n gobeithio, hefyd, y cynhelir trafodaethau rhwng y bobl hynny sy’n cadw dofednod. Mae'r ffaith ein bod ni wedi atal dros dro y digwyddiadau ar gyfer cynnull adar yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr—ar 20 Rhagfyr—eto, caiff y neges honno ei lledaenu. Felly, rwy’n obeithiol, gan ei bod hi erbyn hyn wedi bod yn fis ers i ni gyflwyno’r parth atal, bod yr wybodaeth honno wedi’i rhannu. Felly, mae unrhyw beth y gall unrhyw un ei wneud i annog mwy o bobl i siarad amdano, yn fy marn i, yn bwysig iawn.
Fe wnaethoch chi ofyn am gynnyrch maes, a chyfeiriais yn fy ateb i Paul Davies at y penderfyniad i gyflwyno'r parth atal ar 6 Rhagfyr. Fe ddes i i’r penderfyniad ar ôl llawer iawn o gyngor ac ystyriaeth gan y Prif Swyddog Milfeddygol. Byddwch chi’n cofio mai DEFRA oedd y cyntaf i’w gyflwyno, wedi’i ddilyn yn agos gan yr Alban ac yna gan Gymru. Roedd Gogledd Iwerddon ychydig ar ein holau ni. Un o'r rhesymau pam y gwnes i ystyried y peth mor ofalus, oherwydd ei bod hi’n bwysig bod y camau yr ydym ni’n eu cyflwyno yn rhai cymesur, oedd ynglŷn â chynnyrch maes yn arbennig, gan fod 12 wythnos—. Wyddoch chi, pan fo’r cyfnod hwnnw’n dechrau—. Felly, rydym ni’n cael trafodaethau ynglŷn â’r hyn y byddwn ni’n ei wneud ar ôl Chwefror 28—yn amlwg, nawr bod y parth atal gennym ni hyd at 28 Chwefror, sy’n mynd â ni at y 12 wythnos hwnnw. Felly, bydd yn dibynnu ar ba achosion a fydd gennym ni dros y saith neu wyth wythnos nesaf, ond mae'r swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda DEFRA a chydweithwyr Albanaidd, yn arbennig, ynglŷn â gweithredu’r strategaeth ymadael honno o’r parth atal hwnnw.
Fe wnaethoch chi holi’n benodol am golomennod. Mae amodau’r parth atal yn berthnasol i bob aderyn caeth. Fodd bynnag, nid yw colomennod yn arwyddocaol o ran trosglwyddo’r straen penodol hwn o ffliw adar, felly cânt barhau i hedfan. Ond, wrth gwrs, ar hyn o bryd, nid yw hi’n dymor rasio colomennod ar hyn o bryd, ac ni cheir unrhyw amserlenni rasio, mae'n debyg, cyn dechrau mis Ebrill. Felly, eto, nid wyf yn credu y byddai'n gymesur ymestyn unrhyw un o'r mesurau hyn i gynnwys chwaraeon a gweithgareddau hamdden ar hyn o bryd, ond bydd angen i ni barhau i adolygu pob dewis yn barhaus.
Rwy’n gobeithio na chaiff Ysgrifennydd y Cabinet ei drysu ormod os byddaf yn cynnig fy nghefnogaeth lwyr ar gyfer y mesurau y mae hi wedi'u cymryd. Rwyf wedi’i beirniadu hi’n aml yn y gorffennol ynglŷn â chymesuredd. Credaf, yn yr achos penodol hwn, fod y camau y mae hi wedi'u cymryd yn rhai cymesur. Mae er budd pawb sy’n cadw dofednod ein bod ni’n atal lledaeniad y clefyd hwn. O fod wedi byw drwy erchyllterau straeon codi ofn gan Edwina Curry ynglŷn â salmonela mewn wyau 30 mlynedd yn ôl, pan achoswyd llawer o hysteria, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig atgoffa pobl bod ffliw adar yn dod mewn nifer o wahanol straeniau. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn fygythiad gwirioneddol, hyd yn oed i bobl sy'n cadw dofednod, heb sôn am y cyhoedd. Ni cheir unrhyw risg i ddiogelwch bwyd o gwbl, cyn belled ag y gwyddom. Felly, ni ddylai fod unrhyw sgil-effeithiau ar y rhai hynny sy'n gwerthu cynhyrchion bwyd sy'n gysylltiedig ag adar.
Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf i ba raddau y gallwn ni wella dealltwriaeth y cyhoedd yn gyffredinol am y materion hyn. Wrth gwrs, ymhlith y bobl hynny sy’n cadw dofednod, gallem ddisgwyl mwy o ddealltwriaeth na'r cyhoedd yn gyffredinol. O ran rhoi gwybod am yr adar marw a welir, ceir canllawiau sy'n dweud y dylech roi gwybod am unrhyw adar dŵr neu wylanod—neu, yn wir, unrhyw aderyn—os deuir o hyd i bump neu fwy ohonynt gyda’i gilydd. Mae honno’n wybodaeth bwysig sydd ei hangen ar awdurdodau i ddeall yn union sut y mae'r clefyd yn lledaenu, os yw’n lledaenu. Mae bioddiogelwch yn allweddol i ddatrys hyn. Yn ôl yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, mae’n swnio’n debyg y byddwn ni’n gweld y cyfyngiadau hyn yn parhau am beth amser oherwydd yr adeg o'r flwyddyn. Ar hyn o bryd, fel y soniodd hi, bydd yr adar yn mudo yn yr wythnosau nesaf. Felly, mae hyn yn debygol o achosi problemau i bobl sy'n cadw dofednod am resymau masnachol.
O ran yr heidiau llai, roedd y digwyddiad diweddaraf, ym Mhontyberem, yn ymwneud â nifer cymharol fach o adar, ac o dan yr amgylchiadau hyn, tybed beth y gellid ei wneud i annog pobl i ddefnyddio cewyll i gadw eu hadar, ac o wneud hynny ychydig iawn o darfu a ddylai fod ar fywydau’r adar eu hunain ac, yn wir, bywydau’r bobl sy’n cadw dofednod. O ystyried y goblygiadau o ran lles yr anifeiliaid o’u cadw dan do am gyfnodau sylweddol o amser, os yw hyn yn debygol o barhau am nifer o fisoedd, gall fod yn fuddsoddiad gwerth chweil i bobl gael ardaloedd wedi’u rhwydo lle y gellid gadael yr adar allan, a tybed i ba raddau y gallai ei hadran hi fod o gymorth yn hynny o beth.
Diolch. Yn sicr, nid wyf i eisiau cael fy nghymharu ag Edwina Currie, felly rwy’n croesawu eich sylwadau ynglŷn â mesurau cymesur.
Rydych chi'n hollol iawn: ceir amrywiaeth o straeniau o ffliw adar ac mae’r un yma yn un llwybr uchel, yr H5N8 hwn. Rwy’n credu eich bod chi’n codi pwynt diddorol yn ymwneud â’r cyhoedd yn gyffredinol, oherwydd, wyddoch chi, mae hi wedi bod yn ddigon anodd rhannu’r wybodaeth â’r bobl hynny sy’n cadw dofednod, ond, i'r un graddau, mae'n fater o ddiddordeb i iechyd y cyhoedd, ac mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall na cheir unrhyw effaith neu fod yr effaith ar iechyd y cyhoedd yn isel iawn—nid yw’r straen hwn erioed wedi’i ganfod mewn aelod o'r cyhoedd—a hefyd bod diogelwch bwyd yn bwysig iawn ac, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, fod dofednod ac wyau, yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn ddiogel i'w bwyta. Felly, eto, rwy’n sôn am sut yr ydym ni wedi rhoi gwybod i’r bobl hynny sy’n cadw dofednod. Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n lledaenu’r neges honno. Un o'r penderfyniadau a wnaethpwyd yr wythnos hon yw y byddwn ni’n gwneud rownd o gyfweliadau â gorsafoedd radio lleol, oherwydd bod pobl, yn amlwg, yn gwrando ar orsafoedd radio lleol hefyd, gan adeiladu ar y gwaith sylweddol a wnaeth y prif swyddog milfeddygol yr wythnos diwethaf.
Mae bioddiogelwch yn hynod bwysig, ac mae'n bwysig iawn y cynhelir safonau uchel iawn o fioddiogelwch. Mae’r parth gwarchodu—mae’n ddrwg gennyf, y parth atal—bellach gennym ni hyd at 28 Chwefror, a fydd, fel y soniais, yn mynd â ni hyd at y cyfnod 12 wythnos cyn ein bod ni wedyn yn gorfod gwneud rhai penderfyniadau pwysig iawn ynglŷn â chynnyrch maes. Felly, mae’r parth ar waith gennym ni hyd at 28 Chwefror.
O ran gosod rhwydi, rwy'n credu bod hwnnw yn bwynt da iawn, gan fod llawer o bobl—. Pan wnaethom ni gyhoeddi’r parth hwnnw—ac, fel y dywedais, mae'n bwysig iawn eich bod chi’n cymryd camau cymesur—roeddwn i’n ymwybodol iawn y byddai materion yn ymwneud â lles anifeiliaid yn codi, gan na fyddai pobl wedi paratoi i gadw’r dofednod dan do. Felly, os gallwch eu cadw dan rwyd, bydd hynny’n eu cadw i ffwrdd oddi wrth adar gwyllt i ryw raddau. Felly, fel yr ydych chi’n dweud, os nad yw pobl wedi gallu paratoi i gadw adar dan do yn syth, wyddoch chi, efallai y byddai'n werth cael y rhwyd honno a’r rhwyll honno yn barod a gwneud yn siŵr, wrth iddyn nhw fwydo’r dofednod, nad yw’r porthiant ar gael i adar gwyllt. Mae hynny hefyd yn bwysig iawn. Felly, pe gallai pobl edrych ar y wefan, ceir llawer o wybodaeth ar ein gwefan. Rydym ni wedi rhannu’r wybodaeth honno ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol hefyd, a, gobeithio, heddiw, wyddoch chi, hyd yn oed os mai dim ond ychydig mwy o bobl sy’n cymryd sylw o'r datganiad hwn—. Efallai y gall Aelodau, wrth iddyn nhw gyflawni eu gwaith wythnosol—wn i ddim; rwy’n cynnwys cylchlythyr wythnosol ar e-bost—neu os byddwn ni, wyddoch chi, pan fyddwn ni yn ein cymorthfeydd cyngor, byddwn ni’n gallu lledaenu’r neges honno hefyd.
Nid wyf yn dymuno, Ysgrifennydd y Cabinet, oedi'r drafodaeth nac ymestyn y ddadl drwy ofyn yr holl gwestiynau a ofynnwyd eisoes, felly rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes yn unig. Mae un ohonynt wedi’i grybwyll, ond mae'n ymwneud â sut yr ydym ni am roi gwybod i'r cyhoedd am y dulliau adrodd, gan na fydd pob aelod o’r cyhoedd yn deall y broses adrodd pe bydden nhw’n dod ar draws rhywbeth yn eu barn nhw a allai fod yn amheus. Felly, efallai y gallem ystyried rhoi gwybod iddyn nhw y cânt gysylltu â’r cyngor lleol, er enghraifft, neu unrhyw awdurdod arall yn eu hardal leol a allai drosglwyddo'r wybodaeth honno wedyn ar eu rhan—gallai fod yn ddefnyddiol wrth adrodd.
Rwy'n credu mai’r maes arall efallai y gellid esbonio ychydig mwy amdano yw'r fantais i'r bobl hynny nad oes ganddyn nhw heidiau o 50 o adar neu fwy o gofrestru eu hadar mewn gwirionedd a'r budd y cânt o wneud hynny, oherwydd rwyf wedi cael gwybod gan rywun sydd â phedwar aderyn, ei fod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf fel y gall amddiffyn ei hunan.
Hefyd, rwy’n mynd i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach: mae gennym ni amgylchiad anffodus ar hyn o bryd o ran y tywydd yn nwyrain Ewrop. Adar mudol yw’r holl adar hyn yr effeithir arnyn nhw, a gallai'r mudo gynyddu os yw'r tywydd hwnnw’n parhau yn nwyrain Ewrop, o ble y daw llawer o'r adar hyn. Felly, os gallwch chi ddweud wrthym a ydych chi’n ystyried hynny.
Diolch i chi, Joyce Watson, am y sylwadau a’r cwestiynau yna. Rwy’n credu eich bod chi’n hollol iawn: mae angen i ni sicrhau bod y cyhoedd yn deall os ydyn nhw’n dod ar draws aderyn marw neu grŵp o bump o adar marw, y dylen nhw adrodd am hynny, ond mae angen iddyn nhw wybod wrth bwy i adrodd. Felly, ceir llinell gymorth Prydain Fawr, ond rydych chi’n hollol iawn: gallan nhw adrodd i'w hawdurdodau lleol hefyd.
Rwy'n credu mai’r pwynt a wneuthum—rwy’n credu ei fod yn fy ymateb i Paul Davies—oedd fy mod i wedi gofyn i swyddogion ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud dros y bobl hynny sy’n cadw dan 50 o adar i wneud yn siŵr eu bod yn cofrestru. Mae nifer ohonynt eisoes wedi cofrestru, felly byddan nhw yn cael yr e-bost a'r diweddariad testun ar unwaith. Ond fy mhryder i yw, nad yw pobl a chaddyn nhw, dywedwch, ddau neu bedwar neu chwe aderyn yn cael yr wybodaeth. Rwy'n credu mai’r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy ei gwneud hi’n orfodol iddyn nhw gofrestru, ond byddai hynny yn llawer iawn o waith. Byddai angen is-ddeddfwriaeth, er enghraifft, ac fel y soniais, rwy’n credu y byddai'n beth da cael dull cyson ar draws y DU, ond mae mae’r trafodaethau hynny wedi dechrau.
Y rheswm pam y soniais fod nifer yr achosion yn annhebygol o leihau, yw oherwydd y materion y cyfeiriasoch atyn nhw mewn cysylltiad â mudo. Felly, rhoddir llawer iawn o ystyriaeth iddyn nhw yn y trafodaethau, yn arbennig yn y trafodaethau rhwng y prif swyddogion milfeddygol a swyddogion ar lefel y DU.
Diolch i chi unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ail ddatganiad ynglŷn â hyn. Rwy’n credu bod hynny yn profi i ni fel Aelodau pa mor o ddifrif yr ydych chi’n ystyried hyn, mewn gwirionedd. Yn amlwg, roedd yn siom fawr pan ddaethpwyd o hyd i gorhwyad wedi marw yng ngwarchodfa RSPB Conwy. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi, ar Twitter neithiwr, bod rheolwr y warchodfa, Julian, yn pryderu y bydd hyn yn achosi pobl i beidio ag ymweld. Felly, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni’n lledaenu’r neges gadarnhaol honno o leiaf bod hyn wedi'i nodi, a’i fod yn rhan o’ch bioddiogelwch. Ar fy ffrwd Twitter, cyhoeddais eich bod chi’n gwneud datganiad heddiw, a byddan nhw’n cadw llygad am hynny. Felly, unrhyw beth y gallwch chi ei wneud, gan weithio gydag awdurdodau lleol, er mwyn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn dal i fod yn ddiogel i ymwelwyr fynd yno.
Gan symud ymlaen, fe wnaethoch chi sôn am y tyddyn yn Sir Gaerfyrddin, a dim ond llond llaw o adar oedd hynny, mewn gwirionedd. Rwyf eisiau gofyn, ynglŷn â’r enghraifft benodol honno, a oedden nhw wedi eisoes wedi cofrestru’r ffaith eu bod nhw’n cadw dofednod, neu a oedden nhw mewn gwirionedd ar unrhyw gofrestr. Y rheswm pam rwy’n gofyn hyn: rwy’n adnabod eithaf tipyn o bobl sy'n cadw dofednod mewn gwirionedd— niferoedd isel, ond nid ydyn nhw’n gweld yr angen. Maen nhw’n tueddu i ddychmygu mai dim ond y ffermydd dofednod mwy, a'r rhai sy'n cadw anifeiliaid maes sydd angen cofrestru. Roeddwn i’n meddwl tybed a ydych chi’n gweithio gydag awdurdodau lleol fel y gallan nhw efallai, ar lawr gwlad, fod yn fwy ymwybodol.
Hefyd, yn sicr yn fy ardal i yn y gogledd, ceir nifer o hobiwyr ac atyniadau ymwelwyr sy’n cadw tai adar trofannol, adar ysglyfaethus ac wrth gwrs dofednod domestig, ac mae'n anodd iawn gosod rhwyll er mwyn bwydo adar a phopeth arall, o ran y mathau hynny o adar, heb i adar gwyllt ddod i ymweld ac, mewn gwirionedd, cael cysylltiad agos iawn. Mae'n ymwneud â sut y gallwch chi mewn gwirionedd wneud pobl yn ymwybodol iawn o'r peryglon sydd ynghlwm wrth ffliw adar a'r angen i holl berchnogion dofednod yn yr awyr agored gamu ymlaen, ymuno â'r gofrestr a’u cadw dan do. Efallai y gallai eich adran chi ddefnyddio mwy ar y cyfryngau cymdeithasol ac yna gallwn ni, fel Aelodau, gadw llygad am y neges a’i thrydaru, oherwydd rwy’n credu ei bod hi’n neges y mae angen i ni ei lledaenu.
Yn amlwg mae cymaint o gyfrifoldeb ar y perchnogion adar hyn ag sydd ar ffermwyr dofednod ar raddfa fawr, a allai fod yn ei chael hi’n anodd, fel y nodwyd gennych yn hollol gywir, cadw at ofynion y parth atal. Sut y gallwch chi sicrhau eu bod hwythau hefyd yn cymryd y rhagofalon angenrheidiol o ran glanweithdra, diheintio a chofrestru? Mae’r straen H5N8 yn un pathogenig iawn ac o ystyried ei botensial i ledaenu, trawsheintio neu newid, ac mae'n amlwg na allwn ni fforddio peidio â sylweddoli y ceir peryglon posibl. Sut yr ydych chi’n ceisio atal unrhyw trawsheintio pan fo cyswllt rhwng pobl ac adar heintiedig yn anochel, oherwydd yn amlwg mae pobl yn eu bwydo nhw heb sylweddoli hynny ar y pryd? Rwyf wedi gwneud cryn dipyn o waith ar hyn o'r blaen, ac rwyf mewn gwirionedd yn berchen ar aderyn fy hun a gwn os byddaf mewn gwirionedd yn dal y ffliw, mae'n dibynnu pa ffliw ydyw, ond mae’n rhaid i chi fod yn ofalus iawn, oherwydd gallwch chi drawsheintio.
Yn olaf, rydych chi’n nodi y gall lefel y risg o ffliw adar gynyddu dros yr wythnosau nesaf. Mae Sefydliad Iechyd Anifeiliad y Byd yn awgrymu brechu pe byddai’r sefyllfa hon yn dod yn fwy o broblem. Roeddwn i’n meddwl tybed, o ran adnoddau, sut y byddwch chi’n gallu ystyried hynny, os—ac rwyf ond yn dweud 'os' oherwydd yn amlwg mae yna gost ynghlwm â hynny. Ond yn fwy felly, beth am y ffaith, yn ein hawdurdodau lleol ar draws Cymru, fod llawer o'n hadrannau rheoleiddio a diogelu'r cyhoedd wedi colli cyllideb ac wedi colli llawer o'u swyddogion pwysig? Sut yn eich barn chi, o ystyried bod hon yn sefyllfa a allai—? Gwyddom ei fod ar gynnydd. Beth yw eich barn chi ynglŷn â’ch sefyllfa chi—eich adran, ac mewn gwirionedd eich adrannau awdurdodau lleol i allu ymdrin mewn gwirionedd â hyn o ran sut y gall pob un ohonom fod â hyder llawn?
Diolch. Gair ynglŷn â chwestiynau’r Aelod yn ymwneud â brechu, ni cheir yr un brechlyn mewn gwirionedd yn erbyn H5N8 sydd wedi’i awdurdodi i'w ddefnyddio yn y DU ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn i’w nodi. Fe wnes i sôn, mewn ateb blaenorol, am awdurdodau lleol, ac yn sicr yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd fy swyddogion yn arbennig pa mor gyflym y buont yn ymdrin â'r digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin ac yn sicr nid oedd unrhyw bryderon ynghylch gallu na chapasiti. Rwy'n credu bod y pwynt a godwyd gennych am y gorhwyad farw y daethpwyd o hyd iddi yng Nghonwy—. Rwy'n credu ei bod hi’r un mor bwysig lledaenu’r neges honno ynglŷn â thwristiaeth ac iechyd y cyhoedd ar yr un pryd—ei bod hi’n ddiogel iawn i ymweld a’i bod hi’n ddiogel i fwyta dofednod ac wyau.
Eto, rwy’n credu fy mod i wedi ateb y cwestiynau ynghylch sut yr ydym yn hysbysu’r bobl sydd â llai na 50 o adar, am yr wybodaeth hon. Y ffordd orau yw rhoi eich hun ar y gofrestr ddofednod fel eich bod chi’n cael diweddariadau yn rheolaidd. Rwy'n falch iawn o glywed gan Janet ei bod hi’n defnyddio ei ffrwd cyfryngau cymdeithasol. Rwy’n credu bod fy adran i wedi bod yn dda iawn, iawn. Yn sicr, dros gyfnod y Nadolig, rydym wedi llwyddo i drydaru llawer iawn o’r wybodaeth y buom yn ei lledaenu, gan fod hyn bod wedi esblygu mor gyflym ers i mi wneud y penderfyniad cyntaf ynglŷn â’r parth atal ar 6 Rhagfyr.
Bioddiogelwch—mae pobl yn ymwybodol o fioddiogelwch. Nid yw’n bosibl i mi, na fy swyddogion, ymweld â phob fferm ac ymweld â phawb sy’n cadw dofednod. Felly, eto, mae’n ymwneud â sicrhau ein bod ni’n lledaenu’r neges honno’n barhaus, oherwydd, weithiau, pan fo pethau’n tawelu, efallai na fyddai pobl yn ystyried bod risg i’w gael.yn bodoli. Felly mae'n bwysig iawn, dros y saith neu wyth wythnos nesaf, a thra bo’r parth hwnnw ar waith hyd at 28 Chwefror, ein bod ni’n parhau i fanteisio ar bob cyfle i ledaenu’r neges.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.